{"id":5935,"date":"2024-12-20T09:40:58","date_gmt":"2024-12-20T09:40:58","guid":{"rendered":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/?page_id=5935"},"modified":"2024-12-20T09:50:44","modified_gmt":"2024-12-20T09:50:44","slug":"nicw-annual-report-2024","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/nicw-annual-report-2024\/","title":{"rendered":"NICW Annual report 2024"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-cover alignfull\" style=\"min-height:556px;aspect-ratio:unset;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"2040\" height=\"819\" class=\"wp-block-cover__image-background wp-image-5737 size-full\" alt=\"\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/bannau01.avif\" data-object-fit=\"cover\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/bannau01.avif 2040w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/bannau01-300x120.avif 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/bannau01-1024x411.avif 1024w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/bannau01-768x308.avif 768w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/bannau01-1536x617.avif 1536w\" sizes=\"auto, (max-width: 2040px) 100vw, 2040px\" \/><span aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-cover__background has-background-dim-0 has-background-dim\" style=\"background-color:#717670\"><\/span><div class=\"wp-block-cover__inner-container is-layout-constrained wp-block-cover-is-layout-constrained\">\n<p class=\"has-text-align-center has-large-font-size wp-block-paragraph\"><\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-content-justification-center is-layout-flex wp-container-core-buttons-is-layout-20959078 wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/NICW-Annual-Report-2024-W_WEB.pdf\">Fersiwn pdf<\/a><\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group alignfull is-layout-constrained wp-container-core-group-is-layout-a1727f98 wp-block-group-is-layout-constrained\">\n<div class=\"wp-block-columns alignfull is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-f56f613f wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-content-justification-left is-layout-constrained wp-container-core-column-is-layout-c22df8bb wp-block-column-is-layout-constrained\" style=\"padding-right:0;padding-left:0;flex-basis:20%\">\n<div class=\"wp-block-group has-background is-content-justification-left is-layout-constrained wp-container-core-group-is-layout-682a1295 wp-block-group-is-layout-constrained wp-container-1 is-position-sticky block-visibility-hide-small-screen\" style=\"background-color: #fafafa; padding: 0px;\">\r\n\r\n\n<div class=\"wp-block-spacer\" style=\"height: 21px;\" aria-hidden=\"true\"><\/div>\n\n\r\n\r\n\n<nav aria-label=\"Table of Contents\" class=\"wp-block-table-of-contents has-medium-font-size\">\r\n<ol>\r\n \t<li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/nicw-annual-report-2024\/#ein-hail-flwyddyn-yn-cyflawni-1\">Ein hail flwyddyn yn cyflawni<\/a><\/li>\r\n \t<li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/nicw-annual-report-2024\/#ein-nodau-amcanion-canlyniadau-a-gwerthoedd-1\">Ein nodau, amcanion, canlyniadau a gwerthoedd<\/a><\/li>\r\n \t<li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/nicw-annual-report-2024\/#ein-fframwaith\">Ein Fframwaith<\/a><\/li>\r\n \t<li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/nicw-annual-report-2024\/#ein-gwariant-yn-2023-24-a-n-cyllideb-ar-gyfer-2024-25\">Ein gwariant yn 2023\/24 a&#8217;n cyllideb ar gyfer 2024\/25<\/a><\/li>\r\n \t<li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/nicw-annual-report-2024\/#ein-rhaglen-waith-1\">Ein rhaglen waith<\/a><\/li>\r\n \t<li><a class=\"wp-block-table-of-contents__entry\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/nicw-annual-report-2024\/#myfyrdodau-r-comisiynwyr\">Myfyrdodau&#8217;r Comisiynwyr<\/a><\/li>\r\n<\/ol>\r\n<\/nav>\n\n\r\n\r\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"border-width:1px;padding-right:var(--wp--preset--spacing--60);padding-left:var(--wp--preset--spacing--60);flex-basis:60%\">\n<div class=\"wp-block-group is-vertical is-layout-flex wp-container-core-group-is-layout-c020569f wp-block-group-is-layout-flex\">\n<p class=\"has-x-large-font-size wp-block-paragraph\">Adroddiad Blynyddol 2024<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-tertiary-background-color has-background wp-block-paragraph\">Sefydlwyd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (y Comisiwn) yn 2018 fel corff cynghori annibynnol, anstatudol i Weinidogion Cymru. <br><br>Ei ddiben allweddol yw dadansoddi, cynghori a gwneud argymhellion ar anghenion tymor hwy Cymru o ran seilwaith strategol economaidd ac amgylcheddol dros gyfnod o 5-80 mlynedd. <br><br>Mae&#8217;r Comisiwn yn cynnal astudiaeth i heriau seilwaith mwyaf dybryd Cymru a bydd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru. <br><br>Bydd y cyngor a roddir gan y Comisiwn o natur ddiduedd, strategol a blaengar. <br><br>Mae&#8217;r Comisiwn yn atebol i Weinidogion Cymru am ansawdd ei gyngor a&#8217;i argymhellion a&#8217;i ddefnydd o gyllid cyhoeddus.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"ein-hail-flwyddyn-yn-cyflawni-1\">Ein hail flwyddyn yn cyflawni<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Cyflwyniad gan y Cadeirydd a&#8217;r Dirprwy Gadeirydd<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Croeso i adroddiad blynyddol Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2024.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym wedi parhau i gyflawni&#8217;n gyflym y flwyddyn hon, gan adeiladu ar y momentwm sylweddol o flynyddoedd blaenorol ac ewyllys da a chefnogaeth sefydliadau o bob rhan o&#8217;r sector seilwaith.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym wedi cyflawni ein cylch gwaith ar gyfer y flwyddyn, gan gynnwys gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar sut i leihau effaith llifogydd yng Nghymru erbyn 2050. Roedd cryn nifer o sefydliadau o bob rhan o&#8217;r DU yn bresennol yn ystod digwyddiad lansio ein hadroddiad ar lifogydd, sy&#8217;n dangos ein dylanwad cynyddol yng Nghymru a thu hwnt.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Eleni, gwelwyd trychinebau mwy difrifol ac amlach a achoswyd gan yr hinsawdd ym mhob rhan o&#8217;r byd, sy&#8217;n ein hatgoffa o&#8217;r angen i gynnal ymrwymiad cadarn i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r argyfwng natur a&#8217;r argyfwng hinsawdd. Bydd gweithgarwch ein prif brosiectau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn canolbwyntio ar y ffordd y mae pobl yn deall ac yn cyfleu&#8217;r risgiau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2&#8217;r hinsawdd yn y dyfodol pell, sef mater sydd wedi arwain at gryn dipyn o bolareiddio mewn gwledydd eraill ac a allai ddylanwadu ar drafodaethau gwleidyddol yma yn y blynyddoedd i ddod.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae llawer o&#8217;r polareiddio gwleidyddol a chymdeithasol hwnnw&#8217;n cael ei waethygu gan lwyfannau cyfryngau cymdeithasol sy&#8217;n rhoi blaenoriaeth i elw i randdeiliaid ar draul budd cymdeithasol. Roedd ein penderfyniad ym mis Medi 2023 i roi&#8217;r gorau i ddefnyddio ein cyfrif Twitter yn un rhagweledol; ers hynny mae nifer o gyrff yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a&#8217;r trydydd sector ledled Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu gwneud yr un fath. Byddwn yn parhau i arwain y sector hwn drwy ddangos p\u0175er \u2013 a gwerthoedd \u2013 llwyfannau cyfryngau cymdeithasol agored, a chyfrannu at Gymru sy&#8217;n cyfleu gwahaniaethau \u00e2 goddefgarwch a dealltwriaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Credwn fod tryloywder yn rhagamod angenrheidiol ar gyfer atebolrwydd. Fel yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rhestrir ein cyfarfodydd \u00e2 phart\u00efon allanol ar ein gwefan ac, eleni, rydym hefyd wedi cyhoeddi ein holl ohebiaeth allanol ffurfiol hefyd. Yn 2025, byddwn yn parhau i chwilio am arferion da ym maes llywodraethu ac atebolrwydd a&#8217;u rhoi ar waith. Eleni, cymerodd ein Comisiynwyr ran mewn rhai o feysydd mwyaf heriol seilwaith i Gymru, gan gynnwys natur gyfnewidiol diwydiant ym Mhort Talbot a&#8217;r angen am grid hygyrch a fforddiadwy ym mhob rhan o Gymru. Edrychwn ymlaen at chwarae ein rhan yn y 12 mis sydd i ddod i helpu i sicrhau seilwaith yng Nghymru sy&#8217;n addas i&#8217;r genhedlaeth hon a chenedlaethau&#8217;r dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Dr David Clubb<\/strong> (Cadeirydd) and <strong>Dr Jenifer Baxter<\/strong> (Dirprwy Gadeirydd)<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"ein-nodau-amcanion-canlyniadau-a-gwerthoedd-1\">Ein nodau, amcanion, canlyniadau a gwerthoedd<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Sefydlwyd ein gwerthoedd sefydliadol a&#8217;n ffyrdd o weithio yn ein blwyddyn gyntaf fel ein hegwyddorion arweiniol ac er mwyn adlewyrchu ein cylch gwaith a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"779\" height=\"532\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/PrithB-Painting.jpg\" alt=\"Abstract painting of a flooded landscape in the foreground with people sat with their backs to the camera in a workshop format in the background. \" class=\"wp-image-5901\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/PrithB-Painting.jpg 779w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/PrithB-Painting-300x205.jpg 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/PrithB-Painting-768x524.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 779px) 100vw, 779px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Ein nodau<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\n\n<li>Darparu cyngor ac arweiniad radical a heriol sy\u2019n cael eu llywio gan dystiolaeth i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, ond yn bennaf Llywodraeth Cymru, a fydd yn llywio penderfyniadau ar gyflwyno seilwaith o 2030-2100 ac yn eu diogelu at y dyfodol.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Defnyddio fframweithiau Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru) 2015, yr argyfyngau hinsawdd a natur a\u2019r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i lywio ein trafodaethau.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Cefnogi mentrau, sefydliadau neu bolis\u00efau sy\u2019n ceisio creu a chynnal seilwaith gwydn ac addasadwy sy\u2019n darparu llesiant tan 2100 a thu hwnt.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Ein hamcanion<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein hamcanion yn cyd-fynd \u00e2 Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\n\n<li>Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau\u2019r dyfodol.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint \u00e2 phosibl.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Ymgorffori ein hymateb i\u2019r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a\u2019n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Ein canlyniadau<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn Adroddiad Blynyddol cyntaf y Comisiwn presennol hwn, diffiniwyd amrywiaeth o ganlyniadau roeddem yn rhagweld y byddem yn gallu eu cyflawni rhwng 2022 a 2025. Isod, rydym wedi asesu sut rydym wedi perfformio yn erbyn y rhain dros y 12 mis diwethaf.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table><thead><tr><th><strong><strong>Canlyniad a ddymunir<\/strong><\/strong><\/th><th><strong><strong>Crynodeb o&#8217;r Perfformiad hyd yma<\/strong><\/strong><\/th><\/tr><\/thead><tbody><tr><td>Polisi ar gyfer y dyfodol sy&#8217;n gwella&#8217;r ffordd y caiff cyfoeth ei greu o ynni adnewyddadwy; sy&#8217;n rheoli tir yn well at amrywiol ddefnyddiau seilwaith; ac sy&#8217;n meithrin gwell dealltwriaeth o safbwyntiau cymunedau lleol<\/td><td>Ar \u00f4l cyflwyno ein hadroddiad ar ynni adnewyddadwy ym mis Hydref 2023, rydym wedi mynd ar drywydd ein hargymhellion i Lywodraeth Cymru drwy ymgysylltu&#8217;n barhaus \u00e2 swyddogion a Gweinidogion. Rydym hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynghylch mater Ystad y Goron ac rydym yn parhau \u00e2&#8217;n deialog \u00e2 rhanddeiliaid.<\/td><\/tr><tr><td>Bydd polisi ac ymarfer ar gyfer y dyfodol yn fwy ystyriol o ffyrdd i leihau effaith llifogydd ar gymunedau a seilwaith Cymru<\/td><td>Cyflwynwyd ein hadroddiad ar ein prosiect ar lifogydd mewn cydweithrediad ag arbenigwyr yn y sector, a arweiniodd at 17 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Lansiwyd yr adroddiad ar 17 Hydref 2024. Rydym yn aros am ymateb ffurfiol gan Lywodraeth Cymru ond rydym yn awyddus i ymgysylltu \u00e2 swyddogion a Gweinidogion ynghylch yr argymhellion mewn ffordd gadarnhaol.<\/td><\/tr><tr><td>Bydd y Comisiwn a rhanddeiliaid eraill yn cael eu hysbysu&#8217;n well am sut i gyfleu risgiau hirdymor i&#8217;r cymunedau sy&#8217;n fwyaf agored i effeithiau newid hinsawdd<\/td><td>Gwnaethom orffen cwmpasu ein prosiect Cyfathrebu am yr Hinsawdd, gan sefydlu dau brosiect ymchwil, y naill yn canolbwyntio ar gymunedau a&#8217;r llall yn canolbwyntio ar ddarparwyr seilwaith. Dyfarnwyd contractau ymchwil a ffurfiwyd Grwpiau Cyfeirio Prosiect er mwyn rhoi adborth.<\/td><\/tr><tr><td>Bydd gweithgareddau ac argymhellion y Comisiwn yn cael eu llywio&#8217;n well gan amrywiaeth eang a helaeth o randdeiliaid<\/td><td>Rydym wedi ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, mewn cyfarfodydd a digwyddiadau ac yn y cyfryngau. Rhestrir y rhain ar ein gwefan.<\/td><\/tr><tr><td>Codi proffil a gwella enw da&#8217;r Comisiwn<\/td><td>Er ei bod yn anodd asesu ein henw da yn wrthrychol, mae ein proffil wedi codi yn sylweddol dros y 12 mis diwethaf. At hynny, mae&#8217;r ystadegau ar weithgarwch ar ein <a href=\"https:\/\/esoteric-muskrat.pikapod.net\/share\/e6QRzcMX\/NICW\">gwefan<\/a> yn dda. Mae&#8217;r ystadegau hyn yn gwbl dryloyw a hygyrch i ymwelwyr \u00e2&#8217;r wefan. Bydd yr Adolygiad o&#8217;r Comisiwn (gweler isod) yn cynnig cyfleoedd pellach i roi adborth. Eleni, rydym hefyd wedi penodi Equinox i&#8217;n cefnogi gyda&#8217;n gweithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu.<\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Ein gwerthoedd<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-vertical is-content-justification-center is-layout-flex wp-container-core-group-is-layout-46ceba7c wp-block-group-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image alignfull size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"880\" height=\"518\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Commissioners.jpg\" alt=\"Group of 11 people with orange high visibility jackets on, within a construction site. \" class=\"wp-image-5903\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Commissioners.jpg 880w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Commissioners-300x177.jpg 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Commissioners-768x452.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 880px) 100vw, 880px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod 2023, gwnaethom gytuno ar set o werthoedd sy&#8217;n disgrifio sut rydym yn anelu at drafod a gweithredu Aethom ati i ysgrifennu darn byr yn eu disgrifio ar <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2023\/05\/03\/our-values\/\">wefan y Comisiwn<\/a>. Ein gwerthoedd yw:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\n\n<li><strong>Cynhwysol<\/strong>; Cynhwysol; creu amgylchedd cynnes a chyfeillgar lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, ac yn hyderus i fynegi eu barn<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li><strong>Tryloyw<\/strong>; gwthio ffiniau adrodd bron mewn amser real ar ein hymgysylltu, a dangos yn gyhoeddus sut rydym yn delio ag anghytundebau mewnol<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li><strong>Radical; <\/strong>\u00a0Mae Comisiynwyr wedi ymrwymo i weithio allan o\u2019u hardaloedd cysurus; ein nod yw rhoi cyngor, barn ac argymhellion sy\u2019n wahanol i \u2018fusnes fel arfer\u2019 er mwyn lliniaru\u2019r argyfyngau natur a hinsawdd a chyflawni ein cylch gwaith<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li><strong>Heriol<\/strong>; Mae\u2019r Comisiynwyr yn herio\u2019r status quo gydag anghenion cenedlaethau\u2019r dyfodol a dyhead i wneud yn well ar gyfer dinasyddion Cymru yn y dyfodol<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li><strong>Ymarferol<\/strong>; Mae gwaith y Comisiwn yn canolbwyntio ar argymhellion y gellir eu gweithredu sy\u2019n ein symud tuag at seilwaith mwy cynaliadwy ar gyfer anghenion pobl Cymru<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Ein strategaeth<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod 2024, rydym wedi datblygu ein dull gweithredu strategol ehangach er mwyn diffinio beth mae&#8217;r Comisiwn yn ceisio ei wneud a sut y dylai fynd ati i gyflawni hyn, gan gadw ein cylch gwaith a&#8217;n fframwaith mewn cof bob amser. Ym mis Mehefin, buom yn ddigon ffodus i fod yn rhan o weithdy a hwyluswyd gan Dr Paul Davies o Brifysgol Abertawe er mwyn ein helpu i ystyried hyn yn fanylach.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Daethom i&#8217;r casgliad bod y rhan fwyaf o sefydliadau yn cael budd o fabwysiadu dull gweithredu strategol o gyflawni eu gweithgarwch. Fodd bynnag, nid sefydliad traddodiadol yw&#8217;r Comisiwn; mae&#8217;n cynnwys wyth Comisiynydd rhan-amser, a gefnogir gan ddau aelod o&#8217;r Ysgrifenyddiaeth. Felly, aethom ati i ddatblygu ein dull gweithredu strategol gan gadw ein hadnoddau cyfyngedig ein hunain mewn cof, yn ogystal \u00e2&#8217;n cylch gwaith a bennir gan Lywodraeth Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Amlinellir ein dull gweithredu strategol yn fanylach ar <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2024\/09\/30\/our-strategy\/\">ein gwefan<\/a>. I grynhoi, rydym yn ystyried ein swyddogaethau fel Comisiwn sy&#8217;n ein galluogi i ddadansoddi sut rydym yn cyfrannu at y drafodaeth ynghylch Seilwaith yng Nghymru. Yna, gallwn fonitro&#8217;r cyfraniad hwn gan ddefnyddio ffactorau llwyddiant hanfodol. Er inni geisio llunio metrigau i fesur ein llwyddiant, mewn rhai achosion nid yw&#8217;r dystiolaeth ar ffurf rifol. Rydym yn gyfforddus ag asesu ein perfformiad yn seiliedig ar naratif ac wedi cynnwys enghreifftiau o lwyddiant lle y bo hynny&#8217;n berthnasol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd rhestru ein ffactorau llwyddiant (yr adroddir ar bob un ohonynt yn y ddogfen hon) yn ein helpu i ganolbwyntio ar gasglu data a fydd yn darparu tystiolaeth am effaith ein gwaith. Drwy gyhoeddi&#8217;r dull gweithredu strategol cyntaf hwn bydd hynny&#8217;n ein helpu i ddeall barn pobl eraill am ein llwyddiant er mwyn inni allu parhau i fireinio ac addasu ein dull gweithredu er mwyn iddo ateb y diben yn well. Bwriadwn ailystyried y dull gweithredu hwn yng ngoleuni adborth gan randdeiliaid, Adolygiad y Comisiwn neu unrhyw newid sylweddol yn y cyd-destun economaidd-gymdeithasol.<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-vertical is-layout-flex wp-container-core-group-is-layout-c020569f wp-block-group-is-layout-flex\">\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"adolygu-blwyddyn-y-comisiwn\">Adolygu blwyddyn y Comisiwn<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Cyd-destun polisi seilwaith<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Meddwl y dyfodol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text is-stacked-on-mobile is-image-fill-element\" style=\"grid-template-columns:37% auto\"><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"782\" height=\"1022\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/IWA-2100.avif\" alt=\"The front cover of the IWA publication: wrth dychmygu cymru yn 2100: storiau a thraethodau. Picture of gwent wetlands.\" class=\"wp-image-5996 size-full\" style=\"object-position:50% 50%\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/IWA-2100.avif 782w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/IWA-2100-230x300.avif 230w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/IWA-2100-768x1004.avif 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 782px) 100vw, 782px\" \/><\/figure><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel y&#8217;i nodwyd y llynedd, er mwyn inni allu arddel safbwynt hirdymor o ran nodau polisi a datblygiad, rydym hefyd yn awyddus i fabwysiadu dull <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/futures-thinking-and-foresight-a-brief-guide\">Meddwl at y dyfodol<\/a> yn ein gwaith. Rydym yn bwriadu cynnal digwyddiad ym mis Ionawr 2025 i ddod \u00e2 darparwyr seilwaith at ei gilydd i feddwl yn ofodol am eu cynlluniau yn y dyfodol. Bydd y digwyddiad hwn, a hwylusir gan yr Ysgol Dyfodoleg Ryngwladol, yn ystyried ein rhwydweithiau trafnidiaeth a sut i&#8217;w haddasu yn y dyfodol mewn byd a chymdeithas sy&#8217;n newid. Rydym yn awyddus iawn i weld hyn ar waith ac yn gobeithio y bydd hefyd yn bwydo i mewn i brosiect gwaith \u2018<a href=\"#_Year_4_Work\">Blwyddyn 4 \/ y Flwyddyn Olaf<\/a>\u2019 a nodwyd yn ddiweddar.<\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym wedi defnyddio&#8217;r dull Meddwl at y Dyfodol a methodolegau yn ein <a href=\"#_Flooding_-_2023\/24\">Prosiect ar Lifogydd<\/a> er mwyn rhagweld <a href=\"https:\/\/flooding.nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/\">Fframwaith Llifogydd yng Nghymru ar gyfer 2050<\/a>. Gan ddefnyddio gweithdai cyfranogol, roedd cydweithwyr yn Arup yn gallu ein helpu i lunio gweledigaeth ar gyfer Cymru sy&#8217;n gallu gwrthsefyll llifogydd. Drwy ddefnyddio allbynnau creadigol, mae hefyd wedi ein helpu i ymgysylltu&#8217;n ehangach yn ein prosesau, gan geisio amrywiaeth ehangach o safbwyntiau yngl\u0177n \u00e2 sut le fyddai Cymru yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar y thema hon, roeddem yn falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth \u00e2&#8217;r Sefydliad Materion Cymreig er mwyn cyhoeddi cyfres o erthyglau ar Gymru yn 2100 gan amrywiaeth o gyfranwyr. Gwnaethant ystyried materion megis cyflenwi bwyd, hygyrchedd a defnyddio deallusrwydd artiffisial i&#8217;n helpu i ddychmygu sut fywyd fyddai gennym yn y dyfodol. Cyhoeddwyd yr erthyglau hyn yn wythnosol yn ystod haf 2024 ac rydym wedi&#8217;u cyhoeddi gyda&#8217;i gilydd mewn antholeg, <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/imagining-wales-2100\/\"><em>Dychmygu Cymru yn 2100:<\/em> <em>Stor\u00efau ac Erthyglau<\/em><\/a>, lle y gellir eu gweld mewn un lle.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Cynhyrchu Dur ym Mhort Talbot<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym mis Chwefror 2024, ysgrifennodd ein Dirprwy Gadeirydd, Jenifer Baxter, flog ar y <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2024\/02\/06\/port-talbot\/\">sefyllfa ym Mhort Talbot<\/a>. Nododd Jenifer y bydd y newyddion bod Tata Steel yn cau&#8217;r ddwy ffwrnais chwyth yn y gwaith dur ac yn gosod ffwrnais arc drydan yn eu lle (tua 2027) yn lleihau&#8217;n sylweddol allu&#8217;r DU i fod yn hunanddigonol o ran cyflenwi seilwaith allweddol, am y byddwn yn dibynnu ar ddur a fewnforir. Yn ogystal \u00e2 hynny, fel y nododd Jenifer, bydd cyflogeion Tata Steel a&#8217;u cymunedau lleol yn teimlo&#8217;r effaith fwyaf dinistriol gyda naratif gan Tata Steel yn canolbwyntio ar yr angen i leihau allyriadau a symud, ar yr un pryd, tuag at economi fwy cylchol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Jenifer yn cyflwyno opsiynau gwahanol ar gyfer cynhyrchu dur yn Ne Cymru yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar y defnydd o danwyddau amgen a thanwyddau carbon isel, ac yn ystyried yr effeithiau cymdeithasol, gan gynnwys y broses bontio deg i gymunedau, a chymdeithasau, y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnynt.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Grid<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym mis Mai 2024, ysgrifennodd y Comisiynydd Nick Tune, a helpodd i arwain ein hadroddiad ar ynni adnewyddadwy, flog ar <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2024\/07\/05\/tu-hwnt-ir-grid-tuag-at-system-drydan-ddatgarboneiddio\/\">system y grid trydan yng Nghymru<\/a>. Cyfeiriodd Nick at gyhoeddiad Gweithredwr Systemau Ynni\u2019r Grid Cenedlaethol (ESO): \u201c<a href=\"https:\/\/www.nationalgrideso.com\/document\/304756\/download\">Beyond 2030: A National Blueprint for a Decarbonized Electricity System in Great Britain<\/a>.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Lleisiodd Nick bryderon ynghylch y ffaith nad oedd unrhyw gynlluniau i uwchraddio&#8217;r grid rhwng y gogledd a&#8217;r de. Mae angen mynd ati ar fyrder i wella capasiti yn y canolbarth er mwyn hwyluso gwaith i ddatblygu prosiectau ynni gwynt ar y tir, ac yn y de wynebir tagfeydd yn y grid. Un ateb posibl yw gosod y cysylltiad \u00e2\u2019r M\u00f4r Celtaidd drwy dde-orllewin Cymru, sy&#8217;n golygu y byddai modd gwneud gwaith cynhwysfawr i uwchraddio grid De Cymru, a rhyddhau mwy o gapasiti i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ledled y de.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pwysleisiodd fod angen i Lywodraeth Cymru fynd ati ar fyrder i edrych ar argymhellion y Comisiwn ar gyfer ynni adnewyddadwy ac i weithredu.<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong><strong>Deddf Seilwaith (Cymru) 2024<\/strong><\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group is-layout-constrained wp-container-core-group-is-layout-a1727f98 wp-block-group-is-layout-constrained\">\n<div class=\"wp-block-columns alignfull is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-f56f613f wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn dilyn ein digwyddiadau a&#8217;n gwaith craffu y llynedd, roeddem yn falch o weld bod <a href=\"https:\/\/www.legislation.gov.uk\/cy\/asc\/2024\/3\/contents\/enacted\">Deddf Seilwaith (Cymru) 2024<\/a> wedi cael cydsyniad brenhinol ym mis Mehefin 2024. Cyfeiriodd ein hymateb i&#8217;r ymgynghoriad gwreiddiol ar y Ddeddf ddrafft at yr angen i roi mwy o bwyslais ar ymgysylltu ac ymgynghori \u00e2&#8217;r gymuned. Ym mis Gorffennaf, gwnaethom ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y <em>Gofynion ar gyfer Ymgynghori Cyn Ymgeisio a Dulliau o Ymgysylltu \u00e2 Rhanddeiliaid a Chymunedau Lleol<\/em>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/NICWLetterWGInfrastructureBillPreApplicationC.html\">Tynnodd ein hymateb<\/a> sylw at yr angen am ymgysylltu effeithiol ac ystyrlon sy&#8217;n cynnwys y cymunedau y mae gwaith datblygu seilwaith yn effeithio arnynt. Roeddem yn falch o allu defnyddio <a href=\"#_Study_Tours\">ein profiadau yn y Borth<\/a> a&#8217;n prosiect ynni adnewyddadwy, i dynnu sylw at arferion da. Gwnaethom hefyd ddefnyddio astudiaethau achos a ddygwyd i&#8217;n sylw drwy ein prosiect ar lifogydd i roi rhagor o enghreifftiau lle mae gweithgarwch ymgysylltu wedi sicrhau canlyniad cadarnhaol i gymunedau yn ystod y broses ddatblygu.<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong><strong>Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig<\/strong><\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd y Comisiwn yn falch o gael gwahoddiad i&#8217;r <a href=\"https:\/\/urbanists.video\/w\/8AZDRewhLoAwxu7NBuWp1b\">sesiwn graffu<\/a> flynyddol gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn y Senedd. Gwnaethom groesawu <a href=\"https:\/\/senedd.wales\/media\/2ombeocl\/cr-ld16445-w.pdf\">adroddiad dilynol y pwyllgor<\/a> ac ymateb i&#8217;r <a href=\"https:\/\/business.senedd.wales\/documents\/s150344\/Response%20from%20the%20Chair%20of%20the%20National%20Infrastructure%20Commission%20for%20Wales%20to%20the%20Committees%20repor.pdf\">argymhellion ar gyfer y Comisiwn<\/a> mewn modd cadarnhaol. Nodwn hefyd fod <a href=\"https:\/\/senedd.wales\/media\/3q4dstd5\/gen-ld16508-e.pdf\">ymateb Llywodraeth Cymru<\/a> yn rhagweithiol o ran nodi trefniadau ar gyfer yr adolygiad o&#8217;r Comisiwn, gan ymateb i&#8217;r adroddiad ar ynni adnewyddadwy a&#8217;i ddull o ymdrin \u00e2 materion sy&#8217;n ymwneud \u00e2 d\u0175r.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnaethom groesawu&#8217;r <a href=\"https:\/\/urbanists.video\/w\/5Z8H7wbcwfE2VwHh9MB7ia\">ddadl ddilynol<\/a> yn y Senedd a nodi&#8217;r geiriau cadarnhaol gan Julie James, sef y Gweinidog a oedd yn goruchwylio&#8217;r Comisiwn ar y pryd.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cMae\u2019r Comisiwn yn sicr wedi sefydlu ei hun fel llais awdurdodol o fewn y sector sy\u2019n uchel ei barch ac y mae rhanddeiliaid yn awyddus i glywed ei farn, a chredaf fod hyn yn tystio i aeddfedrwydd y sefydliad. Heb unrhyw amheuaeth mae ei waith yn arwain at newidiadau gwirioneddol\u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Julie James MS<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Digwyddiad y Sefydliad Dysgu a Gwaith<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym mis Tachwedd 2024, roedd yn bleser gennym noddi cynhadledd flynyddol y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghaerdydd a chymryd rhan ynddi. Dros ar \u00f4l tro, mae problem prinder sgiliau yn y nifer mawr o sectorau seilwaith wedi cael ei chodi fel mater allweddol sy&#8217;n rhwystro cynnydd yng Nghymru. Roedd yn gyfle gwych i ymgysylltu \u00e2&#8217;r prif randdeiliaid yn y sector addysg a sgiliau er mwyn trafod y newidiadau sydd eu hangen, sut y gallwn ddenu pobl newydd i&#8217;r diwydiant a sut y gallwn sicrhau bod y syniad o weithio mewn seilwaith yn ddeniadol i bobl ifanc sy&#8217;n gadael yr ysgol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Teithiau Astudio<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r Comisiwn yn awyddus i wella ein dealltwriaeth o faterion sy&#8217;n ymwneud \u00e2 seilwaith a chlywed am yr ymatebion newydd a chyffrous sy&#8217;n cael eu datblygu ledled Cymru. Felly, trefnwyd sawl taith astudio mewn gwahanol rannau o Gymru eleni.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong><strong>Y Drenewydd<\/strong><\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text is-stacked-on-mobile is-image-fill-element\"><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"715\" height=\"715\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Picture6.jpg\" alt=\"Newtown high street\" class=\"wp-image-5907 size-full\" style=\"object-position:50% 50%\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Picture6.jpg 715w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Picture6-300x300.jpg 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Picture6-150x150.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 715px) 100vw, 715px\" \/><\/figure><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym mis Chwefror 2024, teithiodd Comisiynwyr y Comisiwn i&#8217;r Drenewydd er mwyn siarad \u00e2 rhanddeiliaid lleol am yr heriau sy&#8217;n wynebu cymunedau gwledig megis: cynaliadwyedd economaidd, sut beth yw teithio llesol mewn cyd-destun gwledig a sut y caiff mentrau strategol eu rheoli ar draws ffiniau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l siarad \u00e2 phartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, sy&#8217;n cynnwys gwleidyddion a swyddogion lleol, cawsom ddealltwriaeth ragorol o rai o&#8217;r problemau y mae&#8217;r ardal yn eu hwynebu. Cawsom ein tywys ar daith wych o amgylch canol tref y Drenewydd er mwyn gweld y prosiectau adfywio sy&#8217;n mynd rhagddynt yno ar hyn o bryd. Aethpwyd \u00e2 ni hefyd i safle Pont Teithio Llesol newydd y Drenewydd er mwyn inni weld y gwaith adeiladu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Buom yn aros yn <a href=\"https:\/\/gregynog.org\/cy\/\">Neuadd Gregynog<\/a>, sef tirnod lleol pwysig sy&#8217;n cadw asedau naturiol a hanesyddol yr ardal \u00e2 ffocws cymunedol.<\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong><strong>Cymunedau Arfordirol Ceredigion<\/strong><\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym mis Mehefin 2024, gwnaethom deithio i Geredigion gan ddefnyddio rhwydwaith bysiau strategol TrawsCymru. Yn ystod y daith ar y bws, cawsom wybod gan Trafnidiaeth Cymru sut mae&#8217;n cefnogi&#8217;r rhwydwaith bysiau yng Nghymru ac yn ceisio annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ar \u00f4l inni gyrraedd Aberystwyth, gwnaethom gyfarfod \u00e2 rhanddeiliaid trafnidiaeth lleol er mwyn clywed yn uniongyrchol ganddynt am y problemau a wynebir gan bobl sy&#8217;n byw yn y rhan hon o Gymru o ran ceisio teithio o gwmpas heb gar. Mae&#8217;r heriau yma yn wahanol iawn i&#8217;r rhai a wynebir mewn rhannau trefol o&#8217;r wlad ac roedd yn braf cael ein hatgoffa o hyn wrth ystyried blaenoriaethau cenedlaethol o ran trafnidiaeth.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"961\" height=\"433\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Picture7.jpg\" alt=\"Commissioners walking down the seafront in Borth with promenade to the left, beach in the centre and sea to the right. \" class=\"wp-image-5909\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Picture7.jpg 961w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Picture7-300x135.jpg 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Picture7-768x346.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 961px) 100vw, 961px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar y daith hon, cawsom gyfle hefyd i deithio ar hyd yr arfordir i&#8217;r Borth, er mwyn clywed gan gymunedau y mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnynt yn uniongyrchol. Roeddem yn awyddus i siarad ag aelodau o Gyngor Cymuned y Borth ac eraill am eu profiadau o fyw gydag arfordir sy&#8217;n newid a mwy o lifogydd. Buom yn dyst i sgwrs ddiddorol \u00e2 chydweithwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch cynigion ar gyfer yr ardal yn y dyfodol sydd hefyd wedi helpu i lywio gwaith Blwyddyn 3 y Comisiwn ar ymgysylltu \u00e2 chymunedau ar y mater sensitif hwn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Bannau Brycheiniog<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"461\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/20241122_100817-1024x461.jpg\" alt=\"A group of people on a hillside with trees either side and in the background, in winter clothing, listening to a speaker with his arms wide open. \" class=\"wp-image-5911\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/20241122_100817-1024x461.jpg 1024w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/20241122_100817-300x135.jpg 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/20241122_100817-768x346.jpg 768w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/20241122_100817-1536x691.jpg 1536w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/20241122_100817-2048x922.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Tua diwedd y flwyddyn, ym mis Tachwedd, cynhaliodd y Comisiwn ymweliad \u00e2 Bannau Brycheiniog. Yn ystod yr ymweliad hwn, a drefnwyd gan awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, bu&#8217;n bosibl inni drafod sut y gall bywyd mewn ardaloedd sensitif dyfu a ffynnu o dan yr amodau cywir gyda rhanddeiliaid lleol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cawsom gyfle hefyd i ymweld \u00e2 fferm er mwyn gweld technegau rheoli llifogydd naturiol ar waith.&nbsp; Mae hyn wedi ein helpu i roi ein hargymhellion mewn perthynas \u00e2 llifogydd yng nghyd-destun gweithgarwch rheoli tir a ffermio. Roedd hefyd yn brofiad cyffrous gwylio pobl ifanc yn meddwl at y dyfodol o ran sut roeddent am weld eu hardal leol yn datblygu yng Nghynllun Datblygu Lleol yr Awdurdod a chawsom gyfle i gyfrannu at y drafodaeth honno.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Datblygu sefydliadol y Comisiwn<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu ein hunain fel Comisiynwyr er mwyn inni allu cyflawni ein rolau yn effeithiol, cyfathrebu&#8217;n llwyddiannus yn fewnol ac yn allanol a sicrhau ein bod yn cyflawni ein cylch gwaith fel y&#8217;i pennwyd gan Lywodraeth Cymru. I&#8217;r perwyl hwn rydym wedi neilltuo amser eleni er mwyn ystyried ein dull gweithredu strategol (gweler uchod) a meddwl am y camau nesaf i&#8217;r Comisiwn o ran rhaglen waith barhaus.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn wleidyddol, mae&#8217;r trosolwg Gweinidogol wedi newid bedair gwaith yn 2024, sy&#8217;n golygu bod yr amgylchedd gweithredu wedi bod yn ansicr. Fodd bynnag, yn sgil penodi Prif Weinidog a Chabinet newydd yn ystod hydref 2024, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn rhoi&#8217;r sefydlogrwydd sydd ei angen ar y Comisiwn i barhau \u00e2&#8217;i waith am weddill tymor y Senedd hon.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mewn cysylltiad \u00e2&#8217;r adroddiad blynyddol hwn, rydym hefyd wedi myfyrio ychydig ar ein blwyddyn o waith a sut y gallwn wella&#8217;r ffordd rydym yn gweithredu er mwyn bod yn sefydliad gwell fyth sy&#8217;n cyflawni ein cylch gwaith.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn 2024, cafodd ein Comisiynwyr hyfforddiant yn y meysydd canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\n\n<li>Meddwl at y dyfodol, gyda hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth y DU<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Trafnidiaeth ac iechyd, a ddarparwyd gan Brifysgol Aberystwyth<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Hyfforddiant arbeningol ar Linkedin, a ddarparwyd gan Equinox<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Sistemau digidol<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym wedi parhau i ddatblygu ein darpariaeth gyfathrebu ddigidol, gan adeiladu ar wefan sylfaenol er mwyn cynnig platfform sy&#8217;n ein helpu i rannu ein diweddariadau a&#8217;n naratif am seilwaith yng Nghymru. Parhawyd i ddatblygu ein darpariaeth ddigidol y flwyddyn hon drwy fynd ati&#8217;n benodol i gynnal <a href=\"https:\/\/flooding.nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/\">Gweledigaeth ar gyfer Llifogydd 2050<\/a>, fel is-wefan i&#8217;r brif wefan, a thrwy lansio ein <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/nicw-newsletters\/\">cylchlythyr chwarterol<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Gwefan<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar ein gwefan ceir <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/publications\/\">nodiadau cyfarfodydd y Comisiwn a chyhoeddiadau eraill<\/a>, cofnodion o <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/amdano\/\">ymgysylltu a chyfarfodydd allanol<\/a>, gwybodaeth am brosiectau a fideos o&#8217;n hymddangosiadau yn y <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/media\/\">cyfryngau, yn y Senedd neu ar ymweliadau canfod ffeithiau<\/a>. Mae hefyd yn cynnwys lluniau o&#8217;n cyfrif cyfryngau cymdeithasol ar Pixelfed ac yn gweithredu fel y canolbwynt i&#8217;r rhan fwyaf o&#8217;n gweithgarwch cyhoeddus. Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi gwneud cryn ymdrech i gyhoeddi ein hallbynnau ar-lein ac, weithiau, ar ffurf pdf. Yn aml, mae darllenwyr sgrin yn cael trafferth gyda fformatau perchnogol megis ffeiliau pdf. Bydd y fenter hon yn gwella hygyrchedd ein cynnwys. Mae ein dull \u2018ar-lein yn ddiofyn\u2019 hefyd yn helpu i wella gwelededd i chwilotwyr, gan fod gwe-ymlusgwyr yn gallu adrodd ar yr holl gynnwys a gynhyrchir gennym.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r <a href=\"https:\/\/esoteric-muskrat.pikapod.net\/share\/e6QRzcMX\/NICW\">ystadegau ar ein gwefan<\/a> ar gael i bawb edrych arnynt. Yn y 12 mis ers ein hadroddiad diwethaf, cafwyd mwy na 17,600 o ymweliadau \u00e2&#8217;r wefan gan fwy na 6,000 o ddefnyddwyr unigol. Y DU oedd gwlad darddiad y mwyafrif helaeth o&#8217;r unigolion (85%) a ymwelodd \u00e2&#8217;n gwefan.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"503\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/2024Webstats-1024x503.avif\" alt=\"A series of bar graphs displays the number of web hits on the NICW website from November 2023 to October 2024. The monthly visits are around the 300-500 mark, except for a significant spike in October 2024 (to about 1,250) which coincides with the launch of the flooding report. All figures are up for the year, except visitors which is down by 5%. Total views are up 14% to 17.6k; visits are up 2% to 7.84k; bounce rate is down 10% to 67%; visit duration is up 7% to 1m 50s.\" class=\"wp-image-6007\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/2024Webstats-1024x503.avif 1024w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/2024Webstats-300x147.avif 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/2024Webstats-768x377.avif 768w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/2024Webstats.avif 1356w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Cyfryngau cymdeithasol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yn weithredol ar dair gwefan cyfryngau cymdeithasol ac wedi cynyddu ein presenoldeb arnynt drwy gydol y flwyddyn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/company\/26268509\/admin\/feed\/posts\/\">LinkedIn<\/a>, gyda mwy na 1,380 o ddilynwyr ar hyn o bryd. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o fwy na 10% o gymharu \u00e2\u2019r flwyddyn flaenorol.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li><a href=\"https:\/\/toot.wales\/@nicw\">Mastodon<\/a>. Tynnodd ein postiad mwyaf poblogaidd sylw at dri Chomisiynydd \u00e2 chyfrif ar toot.wales, sef gweinydd Cymreig Mastodon. Mae gennym fwy na 110 o ddilynwyr ar y platfform hwn.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li><a href=\"https:\/\/pix.toot.wales\/nicw\">Pixelfed<\/a>. Platfform cyfryngau cymdeithasol ffynhonnell agored wedi\u2019i optimeiddio ar gyfer rhannu delweddau. Mae gennym fwy na 140 o ddilynwyr ar y platfform hwn.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Ymgysylltu a gweithio gydag eraill<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yn cofnodi ein gweithgarwch ymgysylltu a&#8217;n cyfarfodydd allanol ar ein gwefan mewn <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2024-meetings\/\">ffordd agored a thryloyw<\/a>. Uchafbwyntiau&#8217;r Comisiynwyr eleni yw ein gweithgarwch ymgysylltu parhaus yngl\u0177n \u00e2 materion sy&#8217;n ymwneud ag ynni adnewyddadwy a&#8217;r grid, yn ogystal \u00e2 gwella ein dealltwriaeth o effeithiau llifogydd a&#8217;r angen i addasu i&#8217;r newid yn yr hinsawdd. Mae&#8217;r gweithgarwch ymgysylltu ychwanegol hwn yn ein helpu i ymchwilio i faterion sy&#8217;n ymwneud \u00e2&#8217;n prif brosiectau yn fanylach, y tu allan i&#8217;r prif gontractau ymchwil. Edrychwn ymlaen at gyfarfod \u00e2 rhagor o sefydliadau ac unigolion dros y flwyddyn i ddod a all gyfoethogi ein gwybodaeth am faterion sy&#8217;n ymwneud \u00e2&#8217;r amgylchedd adeiledig a seilwaith yn fwy cyffredinol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn unol \u00e2 \u2018Ffyrdd o Weithio\u2019 Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol, a phan fo adnoddau yn caniat\u00e1u, rydym yn gweithio gyda chyrff eraill i ledaenu negeseuon allweddol ac archwilio syniadau. Fel y nodir yn ein <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/2024-meetings\/\">hadroddiadau ar gyfarfodydd<\/a>, rydym wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau y flwyddyn hon.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cydweithio yn helpu i fanteisio i&#8217;r eithaf ar setiau sgiliau, cyrhaeddiad ac adnoddau sydd ar gael. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chyrff a sefydliadau eraill yn ystod y 12 mis nesaf, er mwyn cyflawni ein cylch gwaith.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"784\" height=\"353\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Picture8.jpg\" alt=\"A group of people in a meeting in a circular table looking at a man standing at a screen giving a presentation. \" class=\"wp-image-5915\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Picture8.jpg 784w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Picture8-300x135.jpg 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Picture8-768x346.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 784px) 100vw, 784px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Ein proffil<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cydnabu&#8217;r Comisiwn fod ei weithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu yn gofyn am arbenigedd a chymorth allanol mewn tri phrif faes, sef:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\n\n<li>Cymorth misol parhaus i roi gwybod am weithgarwch y Comisiwm yn effeithiol<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Datblygu strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Cymorth penodol i ymgysylltu \u00e2\u2019r cyfryngau ynghylch cyhoeddi ein hadroddiad ar lifogydd<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I&#8217;r perwyl hwn, roedd yn bleser gennym ymgysylltu ag Equinox, sef cwmni cyfathrebu sydd wedi&#8217;i leoli yng Nghymru, er mwyn iddo helpu&#8217;r Comisiwn gyda&#8217;i weithgarwch yn y cyfryngau a&#8217;r cyfryngau cymdeithasol. Bydd hyn yn cynyddu ein sylfaen adnoddau a&#8217;n gweithgarwch ymgysylltu yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae Equinox eisoes wedi ein galluogi i hyrwyddo lansio&#8217;r adroddiad ar lifogydd yn effeithiol, a oedd yn cynnwys gweithgarwch rhanbarthol sylweddol ledled Cymru yn ogystal \u00e2 phresenoldeb mewn cyfweliadau ar y teledu a&#8217;r radio. Rydym yn gobeithio y bydd ein proffil cynyddol yn golygu y bydd y Comisiwn yn cael mwy a mwy o geisiadau i roi ei farn ar faterion cyfredol sy&#8217;n ymwneud \u00e2 seilwaith ac yn gallu hyrwyddo ein gwaith ehangach i&#8217;r byd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Yr adolygiad o&#8217;r Comisiwn<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn unol \u00e2&#8217;i chylch gorchwyl, ym mis Mai 2024 <a href=\"https:\/\/senedd.wales\/media\/3q4dstd5\/gen-ld16508-e.pdf\">cyhoeddodd Llywodraeth Cymru<\/a> fod adolygiad o&#8217;r Comisiwn yn mynd rhagddo ac y byddai wedi&#8217;i gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn. Mae Cylch Gorchwyl ar gyfer yr adolygiad hwn wedi&#8217;i lunio ac mae gwaith bellach yn mynd rhagddo.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nod yr adolygiad yw rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru, Comisiynwyr y Comisiwn a&#8217;r Senedd yngl\u0177n \u00e2 statws perfformiad, cylch gwaith ac amcanion y Comisiwn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd y Comisiwn gan gynnwys sut mae&#8217;n gweithio ac yn gweithredu.&nbsp; Ystyrir hefyd a yw&#8217;r cyfnod y mae Comisiynwyr yn ei dreulio yn y swydd, sef tair blynedd ar hyn o bryd, yn briodol; a ffurfio barn ar y gofyniad ar y Comisiwn i gynnal asesiad o seilwaith cenedlaethol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r adolygiad yn cael ei gynnal gan Wasanaeth Archwilio Mewnol Llywodraeth Cymru sydd wedi ymgynghori \u00e2 rhanddeiliaid allanol fel rhan o&#8217;r gwaith hwn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r Comisiwn yn gwbl ymrwymedig i chwarae ei ran yn yr adolygiad. Mae pob Comisiynydd wedi ymateb i&#8217;r cwestiynau gan yr adolygwyr am wahanol agweddau ar waith y Comisiwn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Edrychwn ymlaen at gael canlyniadau&#8217;r adolygiad a gweithio gyda Llywodraeth Cymru mewn ffordd gadarnhaol i roi unrhyw argymhellion ar gyfer newid a gynigir ar waith.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"ein-fframwaith\">Ein Fframwaith<\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Fframwaith-CSCC-jpg.webp\" alt=\"A flowchart in Welsh describing the process of project management and report production.\" class=\"wp-image-3452\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"ein-gwariant-yn-2023-24-a-n-cyllideb-ar-gyfer-2024-25\">Ein gwariant yn 2023\/24 a&#8217;n cyllideb ar gyfer 2024\/25<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r Comisiwn yn cael cyllideb benodol gan Lywodraeth Cymru er mwyn iddo gyflawni&#8217;r rhaglen waith a gwneud ymchwil. Rydym yn cyhoeddi ein meysydd gwariant arfaethedig er mwyn sicrhau tryloywder.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn 2023\/24, o&#8217;n dyraniad cyllidebol gwerth \u00a3400,000, gwnaethom wario tua \u00a3360,500. Gwariwyd y rhan fwyaf o&#8217;r swm hwn ar ymchwil y prosiect ar lifogydd a amlinellir yn fanylach isod. Fe&#8217;i gwariwyd yn bennaf ar y pedwar contract ymchwil a&#8217;r m\u00e2n dreuliau a oedd yn gysylltiedig \u00e2 llunio a chyhoeddi&#8217;r adroddiad. Gwnaethom hefyd gynnal astudiaeth gwmpasu er mwyn llywio gwaith Blwyddyn 3 y Comisiwn ar gyfathrebu am yr hinsawdd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar gyfer 2024\/25, ac er mwyn cydnabod y sefyllfa anodd o ran cyllid cyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllideb is o \u00a3370,000 inni. Rydym wedi dyrannu dros hanner ein cyllideb i&#8217;r prosiectau ymchwil i gyfathrebu am yr hinsawdd sy&#8217;n mynd rhagddynt ar hyn o bryd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel y llynedd, rydym wedi cael setliad cyllidebol ar gyfer un flwyddyn gan Lywodraeth Cymru, heb unrhyw sicrwydd y bydd hyn yn parhau. Fodd bynnag, rydym yn hyderus bod yr adroddiadau ar ynni adnewyddadwy a llifogydd a gyflwynwyd ynghyd \u00e2&#8217;r gweithgarwch arall a amlinellir yn yr adroddiad hwn, wedi dangos y gall y Comisiwn fod yn effeithiol gyda&#8217;i waith ac y bydd yn rhoi sylfaen gadarn inni gyflwyno&#8217;r achos dros gyllid parhaus yn y dyfodol. Rydym eisoes yn meddwl am waith Blwyddyn 4 y Comisiwn (gweler isod) ac yn gobeithio defnyddio hyn i asesu&#8217;r materion allweddol presennol yn y sector seilwaith er mwyn argymell rhaglen waith i&#8217;r Comisiwn yn ystod tymor y Senedd nesaf.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"ein-rhaglen-waith-1\">Ein rhaglen waith<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Ynni adnewyddadwy &#8211; 2022\/23<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Comisiynwyr Arweiniol: Aleena Khan a Nick Tune<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text is-stacked-on-mobile is-image-fill-element\"><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/re132-1024x768.webp\" alt=\"Two copies of printed reports with a picture of a wind turbine on the front cover; entitled Preparing Wales for a Renewable Energy 2050\" class=\"wp-image-3280 size-full\" style=\"object-position:48% 32%\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/re132-1024x768.webp 1024w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/re132-300x225.webp 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/re132-768x576.webp 768w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/re132.jpg 1333w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Y Wybodaeth Ddiweddaraf am ein Prosiectau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym mis Hydref 2023, cyhoeddwyd adroddiad mawr cyntaf y Comisiwn, sef <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/preparing-wales-for-a-renewable-energy-2050\/\"><em>Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050<\/em><\/a> a oedd yn ffrwyth llawer iawn o waith gennym ni, ein contractwyr, Gr\u0175p Cynghori&#8217;r Prosiect a rhanddeiliaid eraill. Gwnaeth y Comisiwn 11 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:<\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym mis Hydref 2023, cyhoeddwyd adroddiad mawr cyntaf y Comisiwn, sef <a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/preparing-wales-for-a-renewable-energy-2050\/\"><em>Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050<\/em><\/a> a oedd yn ffrwyth llawer iawn o waith gennym ni, ein contractwyr, Gr\u0175p Cynghori&#8217;r Prosiect a rhanddeiliaid eraill.\n\nGwnaeth y Comisiwn 11 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\n\n<li>Cyflymu\u2019r broses o gyflwyno datblygiadau ynni adnewyddadwy yng Nghymru drwy bennu gweledigaeth a chynllun gweithredu cliriach y gall byd busnes a chymunedau eu deall.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Helpu cymunedau i berchenogi ar gynlluniau lleol a rhannu\u2019r manteision sy\u2019n deillio ohonynt.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Diweddaru rheolau cynllunio a rheoliadau adeiladu.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Defnyddio ei dylanwad gyda chyrff yn y DU er mwyn helpu i ddatrys problemau sy\u2019n ymwneud \u00e2 seilwaith grid annigonol.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Sicrhau bod mwy o\u2019r manteision economaidd yn aros yng Nghymru er budd pobl Cymru, gan gynnwys casglu elw ynghyd mewn cronfa cyfoeth sofran newydd.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yn parhau i annog Llywodraeth Cymru i fanteisio ar y cyfle ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru drwy wneud y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\n\n<li>Pennu disgwyliadau uwch o ran perchenogaeth gymunedol, yn enwedig ar gyfer yr holl ddatblygiadau ynni<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Gweithredu lawer yn gyflymach i leihau rhwystrau i gyflwyno cynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach drwy waith datblygu a ganiateir<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Ystyried y syniad o \u2018ragdybiaeth o blaid cydsyniad\u2019 ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Cyflwyno arbenigedd cyfunol i gefnogi prosesau gwneud penderfyniadau a chydsynio mwy amserol ar gyfer prosiectau<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er gwaethaf y cyfyngiadau ar adnoddau yn Llywodraeth Cymru, credwn o hyd fod llawer mwy i&#8217;w wneud gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod Cymru yn lle deniadol i ddatblygu prosiectau sy&#8217;n sicrhau manteision llawer mwy sylweddol i bobl a chymunedau Cymru. Fel gyda&#8217;n holl ohebiaeth ffurfiol, mae ein gweithgarwch ymgysylltu \u00e2 Llywodraeth Cymru ar gael i&#8217;w weld ar ein gwefan.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym wedi ysgrifennu ddwywaith at Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, er mwyn gofyn am gyfarfod i drafod mater datganoli Ystad y Goron i Gymru. Rydym yn aros yn eiddgar am ymateb Llywodraeth y DU.est.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Llifogydd \u2013 2023\/24<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Comisiynwyr Arweiniol: Eurgain Powell ac Eluned Parrott<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Y wybodaeth ddiweddaraf am ein prosiectau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text has-media-on-the-right is-stacked-on-mobile is-image-fill-element\" style=\"grid-template-columns:auto 39%\"><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar 17 Hydref 2024, cyhoeddwyd ein hail adroddiad mawr, y tro hwn ar lifogydd. Sefydlwyd hyn yn ein cylch gwaith drwy Gytundeb Cydweithio 2021 er mwyn asesu sut y gellid lleihau effeithiau llifogydd ar gartrefi, busnesau a chymunedau erbyn 2050.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/building-resilience-to-flooding-in-wales-by-2050\/\">Mae <em>Meithrin y Gallu i Wrthsefyll Llifogydd yng Nghymru erbyn 2050<\/em><\/a> yn cyflwyno 17 o argymhellion beiddgar ond ymarferol er mwyn i Weinidogion Cymru baratoi Cymru rhag y perygl cynyddol o lifogydd dros y 25 mlynedd nesaf. Mae&#8217;r adroddiad yn pwysleisio atebion naturiol, gan roi lle blaenllaw i natur a chymunedau yn y gwaith o feithrin gallu Cymru i wrthsefyll llifogydd.<\/p>\n<\/div><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"701\" height=\"701\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Picture9.png\" alt=\"Two reports titled Building Resilience to Flooding in Wales by 2050 with a picture of a flooded landscape on the covers. \" class=\"wp-image-5917 size-full\" style=\"object-position:50% 50%\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Picture9.png 701w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Picture9-300x300.png 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/Picture9-150x150.png 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 701px) 100vw, 701px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yn argymell dull gweithredu seiliedig ar ddalgylchoedd sy&#8217;n cynnwys cymunedau lleol yn uniongyrchol mewn penderfyniadau sy&#8217;n ymwneud \u00e2 llifogydd gan ddefnyddio mentrau megis Rheithgorau Dinasyddion a Fforwm Gwrthsefyll D\u0175r newydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O ran llywodraethu, mae&#8217;r adroddiad yn galw am benodi Comisiynydd D\u0175r a llunio strategaeth 30 mlynedd ar gyfer gwrthsefyll llifogydd er mwyn ysgogi atebion arloesol i lifogydd ledled Cymru. Er mwyn gwella ymwybyddiaeth a sgiliau, mae&#8217;r adroddiad yn awgrymu y dylid integreiddio addasu i&#8217;r newid yn yr hinsawdd yng nghwricwla ysgolion Cymru a darparu hyfforddiant ar wrthsefyll llifogydd yn rhanbarthol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er mwyn cynyddu cyllid ac adnoddau, rydym yn argymell y dylid amrywiaethu ffynonellau cyllid a chyflwyno cymorthdaliadau gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu&#8217;r perchnogion tai sydd \u00e2&#8217;r angen mwyaf i fuddsoddi mewn mesurau gwrthsefyll llifogydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym eisoes wedi ymgysylltu \u00e2&#8217;r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru i drafod yr argymhellion yn yr adroddiad hwn ac wedi cynnal trafodaethau rhagweithiol \u00e2 swyddogion er mwyn helpu i sicrhau bod ein hadroddiad yn cael derbyniad ffafriol. Edrychwn ymlaen at gael helpu Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill i roi ein hargymhellion ar waith.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Cyfathrebu am yr hinsawdd &#8211; 2024\/25<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Comisiynwyr Arweiniol: Helen Armstrong a Steve Brooks<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Trosolwg o&#8217;r prosiect<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gwaith Blwyddyn 3 y Comisiwn yn ystyried sut rydym yn cyfathrebu \u00e2 chymunedau y bydd Newid yn yr Hinsawdd yn effeithio arnynt. Y llynedd, gwnaethom gomisiynu gwaith i&#8217;n helpu i gwmpasu&#8217;r materion yn y maes hwn. Er mwyn helpu gyda&#8217;r gwaith hwn, gwnaethom gyhoeddi cais am dystiolaeth i gasglu gwybodaeth a chynnal sawl sesiwn fel Comisiwn er mwyn nodi ble y gellid gwneud gwaith ychwanegol penodol er mwyn cyflwyno argymhellion ystyrlon i Lywodraeth Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein rhaglen ymchwil y flwyddyn hon yn canolbwyntio ar ddau faes, pob un \u00e2&#8217;i safbwynt unigryw ar y mater hwn:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Ymgysylltu \u00e2 Chymunedau \u2013 yr Ysgol Dyfodoleg Ryngwladol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnaethom nodi y bydd polisi presennol Llywodraeth Cymru ar faterion sy&#8217;n ymwneud \u00e2 newid yn yr hinsawdd yn ei gwneud yn ofynnol i bobl o bob rhan ogymdeithas gael eu cynnwys yn y broses o feddwl am addasu i newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor a goblygiadau hynny i seilwaith. Yn ein barn ni, mae cyfranogiad cymunedol yn elfen allweddol o alluogi addasu i newid yn yr hinsawdd a datblygu seilwaith mewn ffordd gadarnhaol yn yr hirdymor.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r Ysgol Dyfodoleg Ryngwladol wedi cael ei chomisiynu i gydlunio a phrofi dulliau gweithredu ymarferol sy&#8217;n helpu cymunedau amrywiol sy&#8217;n seiliedig ar leoedd yng Nghymru i gael sgyrsiau ynghylch addasu i newid yn yr hinsawdd a&#8217;r effeithiau hirdymor ar seilwaith.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae amcanion penodol yn cynnwys gweithio o fewn grwpiau penodol yn ardal Grangetown yng Nghaerdydd a gwneud y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\n\n<li>Defnyddio\u2019r hyn sy\u2019n gweithio o ran dulliau cyfranogol a dyfodolegol o gynnwys cymunedau amrywiol sy\u2019n seiliedig ar leoedd mewn prosesau gwneud penderfyniadau hirdymor<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Defnyddio technegau cyfranogol, creadigol i gynnwys dinasyddion amrywiol<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Profi a chofnodi\u2019r gwersi a ddysgwyd i bobl eraill<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Gwneud argymhellion i\u2019r Comisiwn yn unol \u00e2\u2019i gylch gwaith<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ymhlith allbynnau&#8217;r adroddiad hwn, rydym yn gobeithio llunio pecyn cymorth i eraill ar ymgysylltu \u00e2 chymunedau lleol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Seilwaith Cydnerth \u2013 Arup<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar sail ein gwaith cwmpasu, daethom i&#8217;r casgliad nad yw darparwyr na chynllunwyr seilwaith yn rhoi ystyriaeth lawn i&#8217;r 60-70 mlynedd nesaf o ran effeithiau newid yn yr hinsawdd ar rwydweithiau seilwaith yng Nghymru a bod angen gwell prosesau sy&#8217;n canolbwyntio ar y dyfodol ar gyfer cynllunio a chyflenwi seilwaith yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y prosiect hwn, byddwn yn adolygu sut mae ystyriaethau o ran newid yn yr hinsawdd o fewn prosesau cynllunio a darparu seilwaith yn cael eu hystyried o safbwynt cynnal a chadw&#8217;r seilwaith presennol (e.e. dulliau rheoli asedau) a datblygu seilwaith newydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn benodol, byddwn yn edrych ar y meysydd seilwaith canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\n\n<li>Iechyd<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Tai<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Ynni<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>D\u0175r a dd\u0175r gwastraff<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Addysg<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Trafnidiaeth<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Adeiladu<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Cyfleusterau cymunedol<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\r\n\r\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li style=\"list-style-type: none;\">\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n \t<li>Awdurdodau lleol a rhanbarthol<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<\/li>\r\n<\/ul>\n\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l ymgysylltu&#8217;n helaeth \u00e2 darparwyr seilwaith ynghylch sut maent yn ystyried amcanestyniadau hinsawdd a sut maent yn cydweithio ar hyn o bryd i fynd i&#8217;r afael \u00e2 phroblemau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2&#8217;r hinsawdd, os o gwbl, bydd y prosiect hwn yn gorffen drwy gynnal gweithdy addysgol i gyrff seilwaith, er mwyn dod \u00e2 nhw at ei gilydd i drafod pa newidiadau y gellir eu gwneud.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn 2025, bwriadwn lunio adroddiad a fydd yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru yngl\u0177n \u00e2 sut i helpu cyrff cyhoeddus i ymgysylltu \u00e2 chymunedau a&#8217;r cyhoedd a&#8217;u cynnwys yn yr ymateb i&#8217;r argyfwng newid hinsawdd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Gwaith am 2025\/2026 &#8211; asesu seilwaith at y dyfodol<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r Comisiwn yn ymwybodol bod ei raglen waith a&#8217;i gylch gwaith presennol yn dod i ben. Rydym yn gweithio ar sail y dybiaeth y bydd ei waith yn parhau yn y dyfodol ac y caiff cylch gwaith newydd ei bennu iddo gan Lywodraeth nesaf Cymru yn 2026.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O ystyried hyn, mae&#8217;r Comisiwn yn awyddus i wneud darn o waith \u2018Blwyddyn 4 \/ Blwyddyn Olaf\u2019 gyda gwahanol sectorau seilwaith ar ba broblemau mawr y mae&#8217;r diwydiant yn debygol o&#8217;u hwynebu dros yr 80 mlynedd nesaf. Byddwn yn cyflwyno&#8217;r canfyddiadau hyn i Lywodraeth Cymru ac yn argymell rhaglen waith i&#8217;r Comisiwn ar gyfer tymor y Senedd nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Credwn y gallai&#8217;r defnydd o dechnegau \u2018Meddwl at y Dyfodol\u2019 chwarae llawer mwy o r\u00f4l mewn polisi yng Nghymru. Ein nod yw defnyddio&#8217;r technegau hyn yn aml yn ein gwaith, gan gynnwys, o bosibl, Asesu Seilwaith at y Dyfodol er mwyn ysgogi sgwrs ynghylch anghenion Cymru o ran seilwaith ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau&#8217;r dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"myfyrdodau-r-comisiynwyr\">Myfyrdodau&#8217;r Comisiynwyr<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Helen Armstrong<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text is-stacked-on-mobile is-vertically-aligned-top\" style=\"grid-template-columns:46% auto\"><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"747\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Helen-A-747x1024.webp\" alt=\"A black and white photo of a smiling woman with short hair\" class=\"wp-image-3340 size-full\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Helen-A-747x1024.webp 747w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Helen-A-219x300.webp 219w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Helen-A-768x1052.webp 768w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Helen-A-1121x1536.webp 1121w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Helen-A-jpg.webp 1169w\" sizes=\"auto, (max-width: 747px) 100vw, 747px\" \/><\/figure><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar ddechrau 2024, cawsom adroddiad cwmpasu gan Cynnal Cymru a&#8217;n helpodd i ddeall y sefyllfa ledled y DU o ran cyfranogiad cymunedol mewn prosiectau seilwaith a phrosiectau gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd. Drwy gydol y flwyddyn, mae prosiect y Comisiwn sy&#8217;n edrych ar y gallu i wrthsefyll llifogydd wedi bod yn mynd rhagddo ac roedd y weledigaeth ar gyfer Cymru sy&#8217;n gallu gwrthsefyll llifogydd yn 2050 yn ysbrydoliaeth a&#8217;n helpodd i lywio ein gwaith yn ein trydedd flwyddyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod ein taith i&#8217;r Borth ym mis Mehefin, gwnaethom siarad \u00e2 thrigolion am yr amddiffynfeydd m\u00f4r sy&#8217;n amddiffyn eu cymuned; rhoddodd ddarlun clir i ni o&#8217;r ffordd y mae lefelau m\u00f4r sy&#8217;n codi a llifogydd o afonydd yn effeithio ar bobl a sut maent yn awyddus i leisio eu barn a chymryd camau i amddiffyn eu cymunedau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnaeth hyn lywio manyleb ein prosiect ac, yn dilyn proses dendro dros yr haf, gwnaethom benodi&#8217;r Ysgol Dyfodoleg Ryngwladol i gynnal ymchwil yn seiliedig ar leoedd i ffyrdd o gynnwys pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn prosesau gwneud penderfyniadau ystyrlon ynghylch seilwaith yng ngoleuni&#8217;r newid yn yr hinsawdd. Mae ymaddasu a&#8217;r gallu i wrthsefyll llifogydd yn them\u00e2u allweddol ac mae&#8217;n addas o ystyried y glawiad eithafol a gafwyd yn ddiweddar.<\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O dan oruchwyliaeth gr\u0175p cyfeirio prosiect bach, bydd Ysgol y Dyfodol Rhyngwladol yn ystyried ffyrdd creadigol ac arloesol o ymgysylltu \u00e2 chymunedau ac rydym yn gobeithio y bydd y canlyniadau yn ysbrydoli darparwyr seilwaith a&#8217;r rhai sy&#8217;n gwneud penderfyniadau i gynnwys y cyhoedd yn fwy effeithiol. Mae&#8217;r darn hwn o waith yn wirioneddol gyffrous a chredaf y gallwn gymhwyso&#8217;r gwersi a ddysgir yn ehangach, gan wneud cyfraniad pwysig at y ffordd rydym yn gwneud pethau yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Jen Baxter<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text has-media-on-the-right is-stacked-on-mobile\"><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r flwyddyn hon wedi bod yn un arbennig o bwysig wrth i&#8217;r Comisiwn sefydlu patrwm gwaith. Rydym wedi datblygu strategaeth fach ond pwerus sy&#8217;n ein galluogi i gyflawni dros bobl Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y flwyddyn hon, rydym wedi defnyddio ein gwerthoedd a&#8217;n strategaeth newydd i lunio dull newydd radical o reoli llifogydd yng Nghymru ac, ar sail hyn, rydym wedi cydlunio rhaglen waith er mwyn deall risg ddirfodol a sut mae cymunedau lleol yn byw gyda bygythiad dirfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r rhain i gyd yn brosiectau cyffrous sy&#8217;n parhau i&#8217;n haddysgu am y ffyrdd gorau o reoli, cynnal a chadw ac adnewyddu seilwaith ledled Cymru mewn ffordd sy&#8217;n canolbwyntio ar bobl a&#8217;r blaned.<\/p>\n<\/div><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"526\" height=\"443\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Jenifer-Baxter-jpg.webp\" alt=\"A woman with brown hair and a white top is standing in front of a blurred park background.\" class=\"wp-image-3312 size-full\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Jenifer-Baxter-jpg.webp 526w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Jenifer-Baxter-300x253.webp 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 526px) 100vw, 526px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Steve Brooks<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-full is-resized\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Steve-jpg.webp\" alt=\"A black and white photo of a man with light skin and dark hair.\" class=\"wp-image-3383\" style=\"width:398px;height:auto\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y flwyddyn hon, rydym yn dathlu 25 mlynedd ers datganoli yng Nghymru. Wrth imi fyfyrio ar ein cynnydd yn ystod y ddau ddegawd a hanner diwethaf, caf fy nharo gan rai o&#8217;r newidiadau rydym wedi&#8217;u gweld. Ar yr un pryd, rwy&#8217;n myfyrio ar y newidiadau y bydd eu hangen arnom yn y dyfodol a sut y byddwn yn camu ymlaen i&#8217;r bennod nesaf yn natblygiad Cymru. Tan yn gymharol ddiweddar, roedd effeithiau byw y tu hwnt i&#8217;n terfynau amgylcheddol yn cael eu deall ond roeddent yn ymddangos yn bell i ffwrdd i lawer o bobl. Gan fy mod yn gweithio ym maes datblygu rhyngwladol, roeddwn i&#8217;n gwybod bod newid yn yr hinsawdd yn newid amgylcheddau ac yn effeithio ar fywiolaethau, yn enwedig yn Rhannau Deheuol y Byd. Roeddwn i&#8217;n gyfarwydd \u00e2&#8217;r amcanestyniadau hirdymor ond roedd y risg yn aml yn ymddangos yn bell i ffwrdd, yn haniaethol hyd yn oed, hyd yn oed i mi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r Comisiwn yn gwneud gwaith sy&#8217;n cael ei arwain ar y cyd gennyf, sy&#8217;n ymwneud yn benodol \u00e2 meithrin dealltwriaeth o&#8217;r cyfyngiadau a&#8217;r cyfleoedd wrth inni ystyried amcanestyniadau hinsawdd mewn prosesau cynllunio seilwaith a chynllunio gofodol. Mae&#8217;r gwaith hwn yn canolbwyntio ar ymgysylltu \u00e2 chynllunwyr a darparwyr seilwaith er mwyn ystyried arferion presennol, rhannu gwybodaeth ac ymdrechion cydweithredol. Rydym hefyd yn edrych ar astudiaethau achos o arferion gorau o bob cwr o&#8217;r byd, gan feithrin dealltwriaeth o&#8217;r ffordd y mae gwledydd gwahanol yn integreiddio amcanestyniadau hinsawdd yn eu prosesau cynllunio. Bydd ein canfyddiadau yn allweddol i lywio argymhellion i Lywodraeth Cymru, yn benodol wrth ei chynghori yngl\u0177n \u00e2 sut y dylai geisio cyngor ar yr hinsawdd yn y dyfodol a sut i gynllunio&#8217;n strategol ar gyfer seilwaith Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd yr adroddiad rydym yn gweithio arno yn ystyried y gwahaniaethau rhwng effeithiau disgwyliedig newid yn yr hinsawdd a data go iawn, a sut y gall y gwahaniaethau hyn ddylanwadu ar y gwaith o gynllunio a darparu seilwaith. Y nod yw sicrhau bod y rhai sy&#8217;n gwneud penderfyniadau mewn sefyllfa well i ymateb yn effeithiol i heriau yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er mwyn creu&#8217;r wlad honno lle rydym yn gwneud pethau yn wahanol, bydd angen i bob un ohonom gamu i&#8217;r adwy a chwarae ein rhan. Mae angen inni gydnabod y rhwystrau a wynebwn ar hyn o bryd ond parhau&#8217;n ddiwyro \u00e2&#8217;n hymdrechion i&#8217;w goresgyn. Mae angen i bob un ohonom ofyn i&#8217;n hunain beth gallwn ei wneud, yn bersonol ac yn broffesiynol, i greu dyfodol mwy cynaliadwy a chydnerth i Gymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">David Clubb<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text has-media-on-the-right is-stacked-on-mobile\" style=\"grid-template-columns:auto 39%\"><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein hymdrechion yn y blynyddoedd cynnar yn sicrhau canlyniadau cadarn o ran gweithgareddau&#8217;r Comisiwn. Mae&#8217;r Comisiwn yn cyflawni ei amcanion i bob pwrpas, gan gadw at ei fandad swyddogol a&#8217;i fframwaith mewnol, sy&#8217;n sicrhau mai byd natur a&#8217;r hinsawdd sydd wrth wraidd ein trafodaethau a&#8217;n penderfyniadau, ynghyd \u00e2&#8217;r ymrwymiad i wella amodau i gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yn gwella ein galluoedd mewnol yn barhaus, gan gynnwys drwy hyfforddiant ar ddulliau meddwl at y dyfodol, gan sicrhau y gallwn ragweld a diwallu anghenion dinasyddion Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys y rhai nas ganwyd eto, ochr yn ochr \u00e2&#8217;r ystyriaethau mwy uniongyrchol sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 therfynlin 2030.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein trefniadau cydweithio \u00e2 chynrychiolwyr o wahanol sectorau seilwaith yn dangos perthnasedd ehangach y Comisiwn yn y diwydiant. Rwy&#8217;n ddiolchgar am y cymorth a gafwyd gan y sectorau hyn, sydd wedi bod yn amhrisiadwy i&#8217;n helpu i gyflawni ein prif amcan, sef: darparu argymhellion sy&#8217;n herio ac yn arwain Llywodraeth Cymru yn ei gwaith cynllunio seilwaith hirdymor i Gymru.<\/p>\n<\/div><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"768\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Dave--768x1024.webp\" alt=\"A bald man with stubble is wearing a brown jacket and scarf, standing next to a scooter and in front of a window.\" class=\"wp-image-3359 size-full\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Dave--768x1024.webp 768w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Dave--225x300.webp 225w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Dave--1152x1536.webp 1152w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Dave--jpg.webp 1368w\" sizes=\"auto, (max-width: 768px) 100vw, 768px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Aleena Khan<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text is-stacked-on-mobile\"><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"940\" height=\"940\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Aleena-jpg.webp\" alt=\"A woman with dark hair and highlights stands in front of a castle wall.\" class=\"wp-image-3356 size-full\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Aleena-jpg.webp 940w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Aleena-300x300.webp 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Aleena-150x150.webp 150w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Aleena-768x768.webp 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 940px) 100vw, 940px\" \/><\/figure><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Polis\u00efau radical heddiw yw safonau newydd yfory.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhoddodd Blwyddyn 2 gyfle i fyfyrio ar ein hadroddiad \u2018Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050\u2019, a gyhoeddwyd yn 2023. Mabwysiadodd yr adroddiad ddull meddwl at y dyfodol, gan nodi bod angen mynd ati ar fyrder i gymryd camau radical yn awr er mwyn inni allu creu byd lle nad yw mynd i&#8217;r afael \u00e2 newid yn yr hinsawdd yn beth eithriadol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un profiad a gafodd gryn effaith eleni oedd ein Hymweliad Safle \u00e2&#8217;r Borth, lle y cawsom gyfle i glywed yn uniongyrchol gan aelodau o&#8217;r gymuned y mae newid yn yr Hinsawdd yn effeithio arnynt. Pwysleisiodd bwysigrwydd ymgysylltu \u00e2&#8217;r gymuned leol i feithrin canlyniadau gwell a mwy cadarn sydd wir yn adlewyrchu eu blaenoriaethau a&#8217;n llesiant nhw a blaenoriaethau a llesiant cenedlaethau&#8217;r dyfodol.<\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y flwyddyn sydd i ddod, edrychaf ymlaen at gyfrannu tuag at y prosiect Cyfathrebu am yr Hinsawdd \u2013 Ymgysylltu \u00e2 Chymunedau, sy&#8217;n canolbwyntio ar y cydgysylltiad rhwng ymgysylltu \u00e2&#8217;r gymuned a sicrhau bod seilwaith yn addas at y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Eluned Parrott<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Eluned1-jpg.webp\" alt=\"A woman smiling in the foreground; in the background, water and mountains.\" class=\"wp-image-3352\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel un o&#8217;r comisiynwyr arweiniol ar brosiect mawr y flwyddyn hon ar y Gallu i Wrthsefyll Llifogydd, bu&#8217;n flwyddyn o ddarganfod a myfyrio, a hoffwn ddiolch i&#8217;r nifer mawr o randdeiliaid a chymunedau sydd wedi ein cefnogi ar ein taith.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r data yn llwm. Mae 1 o bob 7 cartref yng Nghymru eisoes yn wynebu perygl o lifogydd, a bydd y nifer hwn yn cynyddu&#8217;n gyflym wrth i effeithiau newid yn yr hinsawdd ddod yn fwyfwy amlwg. Pan fyddwch yn ymweld \u00e2 chymunedau sydd eisoes yn byw gyda&#8217;r risg hon, mae&#8217;r pryder yn amlwg. Mae llifogydd yn dinistrio bywydau. Mae&#8217;n chwalu&#8217;r ymdeimlad hwnnw o ddiogelwch sydd ei angen ar bob un ohonom er mwyn teimlo&#8217;n ddiogel yn ein cartrefi ac yn golygu bod pobl yn edrych dros eu hysgwyddau bob tro y bydd yn bwrw glaw. Mae&#8217;n gwneud niwed i iechyd meddwl ac iechyd corfforol pobl am flynyddoedd i ddod, nid dim ond pan fyddant yn wynebu perygl uniongyrchol o lifogydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn bersonol, mae gennyf ymdeimlad dwfn o gyfrifoldeb am y cymunedau hyn, er mwyn sicrhau bod eu lleisiau&#8217;n cael eu clywed a helpu i ysgogi newid ystyrlon. Mae clywed stor\u00efau am ofid personol wedi bod yn agoriad llygad, yn ogystal \u00e2 chlywed bod pobl yn awyddus i chwarae rhan weithredol yn y gwaith o sicrhau y gall eu cymunedau wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol. Nid ydynt yn fodlon aros yn oddefol am yr argyfwng nesaf ac ni ddylem ninnau wneud hynny ychwaith. Fel cymdeithas, dylem fod yn ysu am greu dyfodol gwell. Nawr yw&#8217;r amser i ddechrau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Eurgain Powell<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text is-stacked-on-mobile is-vertically-aligned-top\" style=\"grid-template-columns:44% auto\"><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"929\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Eurgain1.jpg\" alt=\"A woman with brown hair and sunglasses stands in front of a coastal view\" class=\"wp-image-3347 size-full\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Eurgain1.jpg 1024w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Eurgain1-300x272.webp 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Eurgain1-768x697.webp 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod ein hail flwyddyn, mae Eluned a minnau wedi bod yn brysur yn gweithio ar ein prosiect ar Lifogydd. Gan weithio gydag amrywiaeth o arbenigwyr a rhanddeiliaid yn y sector i gyflawni pedair ffrwd waith ymchwil, ystyried yr heriau a&#8217;r cyfleoedd a nodwyd o ran gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, gweithio ar raddfa dalgylch, cyllid, adnoddau a r\u00f4l cynllunio defnydd tir.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at ein gwaith ac roeddem yn falch iawn o&#8217;n hadroddiad terfynol a gyhoeddwyd gennym ym mis Hydref, gyda 17 o argymhellion beiddgar ond ymarferol. Cawsom ymateb mor gadarnhaol i&#8217;r adroddiad gan y Dirprwy Brif Weinidog, Pwyllgor Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru a&#8217;r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol ac rydym yn credu bod ein gwaith yn nodi&#8217;r llwybr y mae angen inni ei ddilyn er mwyn sicrhau bod Cymru yn gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor, gyda phobl a natur wrth wraidd yr hyn a wnawn.<\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda&#8217;m cyd-Gomisiynydd i ystyried amrywiaeth o faterion sy&#8217;n ymwneud \u00e2 seilwaith yn fawr iawn, yn ogystal ag ymweld \u00e2 rhannu eraill o Gymru a siarad ag amrywiaeth o randdeiliaid am heriau a chyfleoedd lleol. Rwyf hefyd wedi cael budd o hyfforddiant ar Becyn Cymorth Dyfodoleg Llywodraeth y DU ac roeddwn yn falch ein bod wedi gallu defnyddio methodolegau &#8216;meddwl at y dyfodol&#8217; yn ein gwaith ar Lifogydd er mwyn datblygu Gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer Cymru sy&#8217;n gallu gwrthsefyll llifogydd yn 2050.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">Nick Tune<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text has-media-on-the-right is-stacked-on-mobile\" style=\"grid-template-columns:auto 38%\"><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l cyflwyno ein hadroddiad \u2018Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050\u2019 yn 2023, mae&#8217;n galonogol gweld rhai o&#8217;r argymhellion yn dwyn ffrwyth, megis datblygu cynllun ynni cenedlaethol yn seiliedig ar waith y Cynlluniau Gweithredu Ynni Lleol ac, yn sgil creu Gweithredwr Systemau Ynni Cenedlaethol, mae hefyd yn galonogol gweld yr ymgyrch i sicrhau y bydd gan Gymru y grid trydan sydd ei angen arni, i&#8217;w gyflawni&#8217;n ddi-oed.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn sgil gweithredu&#8217;r Bil Seilwaith, rwy&#8217;n mawr obeithio y caiff y broses o gydsynio cynlluniau ynni adnewyddadwy yng Nghymru ei symleiddio. Fodd bynnag, mae problem o hyd yn gysylltiedig \u00e2 phrinder gweithwyr proffesiynol medrus i gydsynio cynlluniau ynni adnewyddadwy yn y sector cyhoeddus.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn olaf, rwy&#8217;n falch iawn o waith fy nghyd-gomisiynwyr ar yr adroddiad ar lifogydd, am ei fod yn amserol ac angenrheidiol iawn. Mae angen inni roi&#8217;r gorau i adeiladu mewn parthau llifogydd risg uchel ac mae angen inni roi blaenoriaeth i atebion seilwaith gwyrdd er mwyn rheoli perygl llifogydd erbyn 2100.<\/p>\n<\/div><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"683\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Nick-photo1-683x1024.webp\" alt=\"Photo of a man with grey hair and a blue shirt, background is blurred\" class=\"wp-image-3307 size-full\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Nick-photo1-683x1024.webp 683w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Nick-photo1-200x300.webp 200w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Nick-photo1-768x1151.webp 768w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/11\/Nick-photo1-jpg.webp 966w\" sizes=\"auto, (max-width: 683px) 100vw, 683px\" \/><\/figure><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Adroddiad Blynyddol 2024 Sefydlwyd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (y Comisiwn) yn 2018 fel corff cynghori annibynnol, anstatudol i Weinidogion Cymru. Ei ddiben allweddol yw dadansoddi, cynghori a gwneud argymhellion ar anghenion tymor hwy Cymru o ran seilwaith strategol economaidd ac amgylcheddol dros gyfnod o 5-80 mlynedd. Mae&#8217;r Comisiwn yn cynnal astudiaeth i heriau seilwaith mwyaf [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":5737,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"wp-custom-template-long-document","meta":{"_crdt_document":"","inline_featured_image":false,"footnotes":""},"class_list":["post-5935","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5935","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5935"}],"version-history":[{"count":51,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5935\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6057,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5935\/revisions\/6057"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5737"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5935"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}