{"id":4746,"date":"2024-08-05T08:00:14","date_gmt":"2024-08-05T07:00:14","guid":{"rendered":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cardiff-in-2100\/"},"modified":"2024-07-01T10:51:39","modified_gmt":"2024-07-01T09:51:39","slug":"caerdydd-2100","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/caerdydd-2100\/","title":{"rendered":"Caerdydd yn 2100"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-cover alignfull is-light\" style=\"min-height:556px;aspect-ratio:unset;\"><span aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-cover__background has-background-dim-0 has-background-dim\" style=\"background-color:#717670\"><\/span><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1667\" height=\"1111\" class=\"wp-block-cover__image-background wp-image-4703\" alt=\"Skyline of Cardiff with trees in the foreground and hills and sky in the background.\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Cardiff-caerdydd.avif\" style=\"object-position:53% 94%\" data-object-fit=\"cover\" data-object-position=\"53% 94%\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Cardiff-caerdydd.avif 1667w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Cardiff-caerdydd-300x200.avif 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Cardiff-caerdydd-1024x682.avif 1024w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Cardiff-caerdydd-768x512.avif 768w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Cardiff-caerdydd-1536x1024.avif 1536w\" sizes=\"auto, (max-width: 1667px) 100vw, 1667px\" \/><div class=\"wp-block-cover__inner-container is-layout-constrained wp-block-cover-is-layout-constrained\">\n<p class=\"has-text-align-center has-large-font-size wp-block-paragraph\"><\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group alignwide is-layout-flow wp-block-group-is-layout-flow\" style=\"margin-top:var(--wp--preset--spacing--20);margin-bottom:var(--wp--preset--spacing--20);padding-top:var(--wp--preset--spacing--20);padding-right:var(--wp--preset--spacing--20);padding-bottom:var(--wp--preset--spacing--20);padding-left:var(--wp--preset--spacing--20)\">\n<div class=\"wp-block-group is-layout-constrained wp-container-core-group-is-layout-b1a602c5 wp-block-group-is-layout-constrained\" style=\"border-style:none;border-width:0px\">\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cardiff in 2100<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Diwrnod 67, 2098.Caerdydd, Sector 12.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Deallusrwydd Artiffisial 37982455CYM<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ei lefelau dopamin a serotonin yn uchel: mae\u2019n hapus.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Seren, fy mhartner dynol, yn 103 mlwydd oed heddiw. Bydd yn dathlu gyda mi a\u2019n ffrindiau heno. A\u2019r bore yma, mae\u2019n mynd yn \u00f4l i astudio am y seithfed tro.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy\u2019n dechrau ar y tasgau prosesu data a roddwyd i mi. Yna, gyda segment arall o\u2019m cnewyllyn, rwy\u2019n cysylltu \u00e2\u2019r Omni-Obs ar do Amgueddfa Cymru, fel y gallaf wylio ei thaith i\u2019r Brifysgol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O\u2019r olygfan hon, edrychaf allan ar glytwaith o ddinas, wedi\u2019i phwytho at ei gilydd gan gof a d\u0175r.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae camlesi di-rif yn croesi Caerdydd. Ochr yn ochr \u00e2\u2019r rhodfeydd, nhw yw gwythiennau\u2019r ddinas bellach, sy\u2019n llawn can\u0175iau lliwgar a llongau fferi a bwerir gan yr haul. Rwy\u2019n gwylio fferi yn llithro heibio, yn gadael crychau ar ei \u00f4l sy\u2019n aflunio\u2019r adlewyrchiadau o berllan do. Mae\u2019n ddinas sydd wedi dysgu sut i fyw gyda\u2019r tonnau, yn hytrach nag ymladd yn eu herbyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Clywir s\u0175n seramig yn torri, ac yna chwerthin, o\u2019r caffi wrth ymyl y gamlas. Defnyddir y camlesi at ddibenion eraill heblaw teithio. Mae pobl, peiriannau, a natur yn creu ecosystem fywiog, sy\u2019n cael ei monitro o hyd \u2013 a\u2019i phlismona weithiau \u2013 gan y Gwarcheidwaid Deallusrwydd Artiffisial. Mae\u2019r dyfroedd yn llawn bywyd dyfrol ac mae ardaloedd gwyrdd iraidd yn dod \u00e2 byd natur i ganol y ddinas.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwelir gerddi to, yn llawn lliwiau gwyrdd a phorffor, yn ymestyn dros bob to. Cilomedr i ffwrdd, gwelaf fod dynol, yn sefyll wrth ymyl cromen dyfu, yn gwylio wrth i glwstwr o fotiau amaethyddol drin y cnydau, eu breichiau niferus yn chwyrlio, yn ymestyn ac yn tynnu. Mae tyrrau hydrobonig, gyda chodlysiau yn tyfu y tu mewn iddynt, yn ymddangos rhwng yr adeiladau. Mae mefus a hopys sy\u2019n gallu gwrthsefyll pl\u00e2u yn ymestyn dros sgerbwd metelaidd y t\u0175r agosaf. Rwy\u2019n edrych ar Ddangosyddion Caerdydd: mae\u2019r ddinas ar y trywydd cywir o hyd i fod yn hunangynhaliol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy\u2019n edrych i weld ble mae Seren. Mae\u2019n beicio ar hyd Heol-y-Frenhines, allan o\u2019r golwg.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn \u00f4l ei rhaglen Bywyd ac Iechyd, mae\u2019n beth da ei bod yn dechrau cwrs addysgol newydd. Bydd ei hymennydd yn dal i fod yn actif. Bydd yn cwrdd \u00e2 ffrindiau newydd. Ac yn ogystal \u00e2 dysgu, bydd yn rhannu ei gwybodaeth.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Edrychaf yn \u00f4l ar draws y ddinas. Clywaf fwmian ynni cynaliadwy sy\u2019n teimlo\u2019n organig bron, cyfuniad o natur a thechnoleg. Mae meinweoedd solar, biogeneraduron, a chyfnewidwyr gwres yn blith draphlith. Ar y gorwel, mae tyrbinau gwynt enfawr, a adeiladwyd o seliwlos wedi\u2019i fiobeiriannu, yn troi\u2019n rhythmig, yn hypnotig, technoleg yr oes a fu, atgof o daith Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Islaw, mae ffigyrau mewn sgerbydau allanol yn cerdded o amgylch. Bodau dynol ai peidio, mae\u2019n anodd gwybod weithiau. Mae pawb yma yn cerdded, yn beicio neu\u2019n can\u0175io. Nid oes digon o le yn y ddinas am gerbydau mwy o faint, ac ar \u00f4l trychinebau 2041 a 2063, mae Cymru yn cyfyngu ar y defnydd o ddronau awyr. Ac wrth gwrs, penderfynwyd yn gynharach yn y ganrif hon mai cadw pobl yn egn\u00efol wrth deithio oedd y peth gorau i\u2019w hiechyd ac iechyd y blaned. O dipyn i beth, cafodd Caerdydd ei hailffurfio.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cysylltaf \u00e2 Seren wrth iddi feicio dros bont y gamlas a dod o fewn cwmpas. Mae\u2019n pori\u2019n ddwfn yn ei chronfa gof a\u2019r ffrydiau hanes Ymunaf \u00e2 hi i edrych yn \u00f4l ar y ffordd y mae\u2019r lle wedi newid ers iddi gyrraedd yn gyntaf yn fyfyrwraig yn 2015.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae campws y Brifysgol \u2013 sy\u2019n gorwedd ar dir sych uwch \u2013 yn llawer mwy poblog nawr, yn llawn adeiladau a phobl a ffermydd. Does dim cymaint o bobl ifanc mwyach. Mae\u2019n fwy cyffredin gweld pobl fel Seren, sydd dros eu canrif, yn brasgamu yn eu sgerbydau allanol, wedi\u2019u graddnodi i\u2019w cadw\u2019n iach ac yn heini. Mae natur yn rhan lawer mwy amlwg o\u2019r campws, ac mae\u2019r seilwaith gwyrdd dwys yn helpu i oeri, i gadw d\u0175r, ac i wella iechyd meddwl. Wrth fwrw golwg dros y delweddau hanesyddol, gwelaf fod cymaint o wastraff adnoddau. Darnau enfawr o dir gwerthfawr wedi\u2019u neilltuo ar gyfer cerbydau trwm mawr a oedd yn cludo un person o amgylch y lle. Ac mae\u2019r cerbydau yn segur y rhan fwyaf o\u2019r amser.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Seren yn sylwi arnaf yn ei ffrwd ac yn rhoi arwydd o hapusrwydd. Rwy\u2019n ei gydnabod, gan ddangos lleoliad iddi wefru ei beic, ac yn dymuno pob lwc iddi. Cafodd bodau dynol ganiat\u00e2d cyfreithiol i gael partneriaeth \u00e2 bodau deallusrwydd artiffisial yn 2042. Mae Seren a minnau wedi bod yn bartneriaid yn swyddogol ers diwrnod 328, yn 2071.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy\u2019n gadael ei ffrwd. Dyw hi ddim yn hoffi fy mod i yno drwy\u2019r amser. Trof yn \u00f4l at do\u2019r Amgueddfa gan edrych ar yr olygfa oddi tanaf. Mae fy rhaglenni yn gwneud i mi ysu am ddinas fwy trefnus. Ond mae Seren, fel bodau dynol eraill, yn hoffi\u2019r anhrefn a\u2019r prysurdeb, yr haenau o hanes yn y strydoedd a\u2019r adeiladau. A rywsut, drwy gyfuniad o ddeallusrwydd dynol, peirianyddol a naturiol, mae\u2019n gweithio.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Doedd dinasoedd eraill ddim mor ffodus.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Deallusrwydd Artiffisial 37982455CYM (Ceri)<\/em><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r <strong>Athro Peter Madden<\/strong> yn Athro Ymarfer yn Ninasoedd y Dyfodol ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-small-font-size wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/unsplash.com\/photos\/city-with-high-rise-buildings-under-blue-sky-during-daytime-wI3IB2IhSYc\">Llun: Mike Erskine<\/a><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-content-justification-center is-layout-flex wp-container-core-buttons-is-layout-20959078 wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/imagining-wales-2100\/#cyflwyno-r-traethodau\">Gweler holl draethodau &#8216;Cymru mewn 2100&#8217;<\/a><\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p class=\"has-small-font-size wp-block-paragraph\"><br><\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cardiff in 2100 Diwrnod 67, 2098.Caerdydd, Sector 12. Deallusrwydd Artiffisial 37982455CYM Mae ei lefelau dopamin a serotonin yn uchel: mae\u2019n hapus.&nbsp; Mae Seren, fy mhartner dynol, yn 103 mlwydd oed heddiw. Bydd yn dathlu gyda mi a\u2019n ffrindiau heno. A\u2019r bore yma, mae\u2019n mynd yn \u00f4l i astudio am y seithfed tro. Rwy\u2019n dechrau ar [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":4704,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"wp-custom-template-long-document","meta":{"_crdt_document":"","inline_featured_image":false,"footnotes":""},"class_list":["post-4746","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4746","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4746"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4746\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4871,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4746\/revisions\/4871"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4704"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4746"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}