{"id":4734,"date":"2024-08-19T08:00:00","date_gmt":"2024-08-19T07:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/valley-2100\/"},"modified":"2024-07-19T07:03:41","modified_gmt":"2024-07-19T06:03:41","slug":"valley-2100","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/valley-2100\/","title":{"rendered":"Y Dyffryn 2100"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-cover alignfull is-light\" style=\"min-height:556px;aspect-ratio:unset;\"><span aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-cover__background has-background-dim-0 has-background-dim\" style=\"background-color:#717670\"><\/span><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1387\" height=\"924\" class=\"wp-block-cover__image-background wp-image-4731\" alt=\"A row of terraced houses sits below a craggy hillside covered in scrub.\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Cymoedd.avif\" data-object-fit=\"cover\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Cymoedd.avif 1387w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Cymoedd-300x200.avif 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Cymoedd-1024x682.avif 1024w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Cymoedd-768x512.avif 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1387px) 100vw, 1387px\" \/><div class=\"wp-block-cover__inner-container is-layout-constrained wp-block-cover-is-layout-constrained\">\n<p class=\"has-text-align-center has-large-font-size wp-block-paragraph\"><\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group alignwide is-layout-flow wp-block-group-is-layout-flow\" style=\"margin-top:var(--wp--preset--spacing--20);margin-bottom:var(--wp--preset--spacing--20);padding-top:var(--wp--preset--spacing--20);padding-right:var(--wp--preset--spacing--20);padding-bottom:var(--wp--preset--spacing--20);padding-left:var(--wp--preset--spacing--20)\">\n<div class=\"wp-block-group is-layout-constrained wp-container-core-group-is-layout-b1a602c5 wp-block-group-is-layout-constrained\" style=\"border-style:none;border-width:0px\">\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Y Dyffryn 2100<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy\u2019n breuddwydio yn y tywydd anwadal. Mae cymylau llwyd isel yn dynesu drwy\u2019r dyffryn. Mae\u2019r cymylau yn addo cawod o genllysg, ac rwy\u2019n crynu wrth iddynt fynd heibio heb gadw\u2019r addewid hwnnw. Mae plu yn dal i guddio brigau\u2019r coed sy\u2019n tyfu i lawr y llethrau serth. Yna, mae\u2019r haul yn disgleirio, fel petai wedi bod ers misoedd, haul diflino y mae pob math o fywyd yn y cwm yn ymestyn tuag ato. Rwy\u2019n dringo llwybr i fyny\u2019r bryn crwn, cysgodion o gymylau yn rholio dros y llystyfiant isel. Wedi cyrraedd copa\u2019r bryn, mae caeau \u00e2 chloddiau cymysgryw yn amsugno egni o\u2019r pridd, o\u2019r gwynt, o\u2019r haul, gan ymestyn dros y gwastatir, wrth i\u2019r pantiau a\u2019r bannau ymdoddi i\u2019w gilydd yn amsugno\u2019r golau yn ystumedig. Wrth i mi gerdded drwy\u2019r caeau, teimlaf fy mod yn gallu clywed cliciau a newidiadau cynnil yn y pwysedd aer wrth iddynt drawsyrru eu data meteorolegol i fan arall. Gan ddod o hyd i fan agored wrth ymyl yr arsyllfa, rwy\u2019n gorwedd ar y tir grugog, yng ngwres yr haul a\u2019m llygaid ynghau rwy\u2019n dychmygu fy hun yn arnofio drwy\u2019r cymoedd islaw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u2042<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O\u2019r olygfan hon, rwy\u2019n gwylio pum bod dynol mewn gwisgoedd oren llachar yn ymgasglu o amgylch tir comin wrth odre\u2019r bryn. Gan symud i mewn i ganol y tir comin, maent yn crafu yn y glaswellt hir a dod o hyd i ddarn mawr o fetel. Ar \u00f4l ei symud o\u2019r neilltu, maent yn datgelu twll trionglog, a siafft. Maen nhw\u2019n codi trybedd 8 troedfedd drosto. Yna, allan o\u2019r golwg yn y goedwig, mae dau fod dynol arall mewn gwisg rwber du, yn debyg i offer sgwba, \u00e2 harneisiau a goleuadau pen, yn cerdded tuag atynt. Maen nhw\u2019n dweud ychydig eiriau, yn eu clymu eu hunain wrth y drybedd a dechrau disgyn, gan abseilio i\u2019r agoriad tywyll. Bob pedair blynedd, maen nhw\u2019n archwilio\u2019r cylfertau sy\u2019n sianelu d\u0175r ymhell o dan y tir comin ac i mewn i\u2019r afon sy\u2019n ystumio drwy\u2019r dyffryn. Gan ddilyn y d\u0175r adleisiol, maen nhw\u2019n archwilio\u2019r twneli rhag malurion, rhwystriadau a gwendidau strwythurol, y tramwyfeydd concrid sy\u2019n rhedeg uwchben ansicrwydd dyfnach y pileri glo sy\u2019n dymchwel mewn pyllau glo 300 oed. Gan edrych i lawr o\u2019r llethr ar arwyneb llym y llygad a llygaid y dydd a\u2019r triongl tywyll hwnnw, rwy\u2019n cofio\u2019r diffyg ar yr haul yn 2090. Heno mae\u2019r lleuad lawn yng nghwr y Sgorpian.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u2042<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y niwl, gwelir breichiau enfawr colyn yr iard sborion uwchlaw pentyrrau o fetel wedi\u2019i ailgylchu. Mae\u2019r offer awtomataidd yn troi, yn faletig, uwchben eu dewis f\u00f4r. Wrth deithio drwy\u2019r dyffryn ar gyflymder mawr, dim ond cipolwg ar raddfa\u2019r iardiau sborion a gaf rhwng y coed; tarth yn glynu wrth baent golchedig. Dan oruchwyliaeth gweithredwyr mewn man arall, mae\u2019r breichiau yn mynd ati i ddidoli, prosesu, symud a llwytho\u2019r metel ar lor\u00efau sy\u2019n gadael yn rheolaidd ar brif ffyrdd brifwythiennol y cwm. Mae cerbydau blaen y tr\u00ean yn ymlwybro tuag at y llethr, y llwybr uwch i ddod yn croesi ffyrdd ac afonydd, y ffenestri gwydr crwm yn creu tiwb yn adlewyrchu pob fflicr a newid yn y golau. I mewn i dwnnel ac wedyn allan, rydym yn symud i\u2019r dde unwaith eto ymhell oddi fry; mae\u2019r toeon rhychog wedi\u2019u pacio ac yn gorgyffwrdd, etifeddiaeth, diwydiant addasedig, yn rhedeg mewn sectorau tuag at y m\u00f4r.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u2042<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pan fyddaf yn y ddinas, byddaf bob amser yn cerdded ar hyd Ffordd fasnachol. Mae\u2019n ffordd gyflym i\u2019r canol neu, i\u2019r cyfeiriad rwy\u2019n cerdded nawr, i\u2019r afon. O ddarllen am ddinasoedd y gorffennol, roedd pwysau yn ddisgrifydd digwestiwn. Ond mae\u2019r stryd hon yn gorwedd yn addfwyn ar y ddaear, yn amharhaol, bron yn dryloyw. Mae\u2019n waith cyflym a syml gosod pibell, trawsyrrydd, fasad, cyswllt trafnidiaeth; tynnu arwyneb, datgloi clo, cofrestru panel. Mae modiwleiddio wedi gwneud y ddinas yn olau, cread drychiolaethol. Mae\u2019r tai yn teimlo fel cynwysyddion cyfnewidiol, mae\u2019r marchnadoedd fel digwyddiadau a drefnwyd, algorithm o gynllunio dinas berffaith, y lefel uchaf bosibl o foddhad a hamddena hael. Wrth gyrraedd pen y stryd, edrychaf i fyny ar y Bont Gludo. Yn ymestyn dros yr afon, ei cherbyd yn hongian oddi ar edau cytgordiol lu, y mae ei thoslath yn ymestun uwchlaw\u2019r d\u0175r, ei thrawstiau yn codi o ganol y llaid. Mewn hen ffotograffau, mae\u2019n symbol o ddiwydiant, H enfawr am hanes, y mae ei rhwyllwaith eliptigol yn llwybr tuag at ei chreu ei hun yn y gwaith dur diflanedig. I\u2019r rhai sy\u2019n edrych allan o ddecin fflatiau glan yr afon, a chyfarpar torheulo o\u2019u cwmpas, ar sylfeini amddiffynfeydd llifogydd concrid hindreuliedig, erys yn symbol, oherwydd ei natur led-dryloyw ac absennol, platfform hamdden gwyrdd a thywynnol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u2042<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Edrychaf yn \u00f4l at y cannoedd o lithrfeydd ar hyd yr arfordir, sydd, bob hyn a hyn, yn rhyddhau llongau teithwyr i mewn i\u2019r d\u0175r. Mae fy stumog yn troi. Ar ddibyn y clogwyni ac yn fewndirol, saif pyramidau llwyd, prin, fel rocedi, wedi\u2019u plannu yn y bryniau. Rydym yn torri drwy\u2019r d\u0175r, fy ffrind yn llywio ei gwch hwylio tuag at yr ynys. Gan siglo\u2019n ysgafn yn y gwynt, rwy\u2019n gwisgo fy sbectol haul a syllu ar y gorwel. Llawer o liwiau gwyrdd a glas; haen wyrddlas yn galw wrth hofran uwchben y cefnfor. Rwy\u2019n gadael i\u2019m llaw gyffwrdd \u00e2 brig tonnau y d\u0175r garw. Oddi tano mae byd arall, yn ymdonni ac yn fud, rhesymeg ddieithr sy\u2019n cofnodi\u2019r mordeithiau lu sydd wedi gadael yr arfordir hwn. Mae fy ffrind yn galw arnaf, yn pwyntio at yr ynys, ni allaf ei glywed oherwydd y gwynt ond rwy\u2019n ei wylio\u2019n gwenu. O\u2019n blaenau, mae\u2019n llithro allan o\u2019r d\u0175r, calchfaen staenedig a chrychiog, pocedi o gerrig m\u00e2n yr arfordir ac, wedi\u2019i himpio ar y clogwyni, si\u00e2p tywodlyd main, yr ynys artiffisial atodol. Gallaf weld llawer mwy o ynysoedd nawr, yn neidio allan o\u2019r cefnfor. Ynysoedd iaith, lleuadau gosgordd, aneddiadau; eu g\u0175yl agoriadol. Ar \u00f4l i ni lanio, rwy\u2019n crwydro ar hyd rhodfa o stondinau. Oedaf ychydig, yn gwylio rhywun yn cerfio elfennau cadair. Mae ed dwylo\u2019n gafael yn dynn, yn uno \u00e2\u2019r pren anwastad. Mae\u2019r awyr yn olau ac mae\u2019r pren yn euraid a syllaf ar symudiadau trawsnewidiad, creu newid yn ddiymdrech.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae <strong>Beau W Beakhouse<\/strong> yn artist ac yn awdur sydd wedi&#8217;i leoli yng Nghymru. Mae eu gosodiadau yn cyfuno pren cerfluniol a gwaith metel gyda thestun, sain, ffilm a pherfformiad i ystyried y berthynas rhwng llafur, ecoleg, gwladychiaeth ac iaith. Yn eu hysgrifennu ffuglen wyddonol, mae crefft draddodiadol a gweithgynhyrchu diwydiannol yn cydgyfeirio \u00e2 thechnoleg hapfasnachol a ffurfiau newydd o gyfathrebu i greu bydoedd anesmwyth o b\u0175er a phosibilrwydd. Yn ddiweddar maent wedi dangos gyda The Mosaic Rooms, Catalyst Arts, The Crypt Gallery, Chapter, g39, Oriel Glynn Vivian, MOSTYN a Peak Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cyfnodau preswyl wedi cynnwys Cittadellarte &#8211; Fondazione Pistoletto, Centrum Kultury ZAMEK, Tangent Projects, Llenyddiaeth Cymru a Jerwood UNITe. Maent wedi cyhoeddi gyda Freelands, Burning House Press, Porridge a Lucent Dreaming ymhlith eraill. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain iddynt 2023 a Chymrodoriaeth Freelands 2022-24, yn ogystal \u00e2 Chyfres Llwyfannu Jerwood a Chronfa Gwaith Newydd Jerwood 2023.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-content-justification-center is-layout-flex wp-container-core-buttons-is-layout-20959078 wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/imagining-wales-2100\/#cyflwyno-r-traethodau\">Gweler holl draethodau &#8216;Cymru mewn 2100&#8217;<\/a><\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><br><\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Y Dyffryn 2100 Rwy\u2019n breuddwydio yn y tywydd anwadal. Mae cymylau llwyd isel yn dynesu drwy\u2019r dyffryn. Mae\u2019r cymylau yn addo cawod o genllysg, ac rwy\u2019n crynu wrth iddynt fynd heibio heb gadw\u2019r addewid hwnnw. Mae plu yn dal i guddio brigau\u2019r coed sy\u2019n tyfu i lawr y llethrau serth. Yna, mae\u2019r haul yn disgleirio, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":4732,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"wp-custom-template-long-document","meta":{"_crdt_document":"","inline_featured_image":false,"footnotes":""},"class_list":["post-4734","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4734","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4734"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4734\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5132,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4734\/revisions\/5132"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4732"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4734"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}