{"id":4725,"date":"2024-08-12T08:00:50","date_gmt":"2024-08-12T07:00:50","guid":{"rendered":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/revisiting-the-2020s\/"},"modified":"2024-07-01T10:52:10","modified_gmt":"2024-07-01T09:52:10","slug":"revisiting-the-2020s","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/revisiting-the-2020s\/","title":{"rendered":"Edrych yn \u00f4l ar y 2020au"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-cover alignfull is-light\" style=\"min-height:556px;aspect-ratio:unset;\"><span aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-cover__background has-background-dim-0 has-background-dim\" style=\"background-color:#717670\"><\/span><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1458\" height=\"1944\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/reilffordd-eryri.avif\" class=\"wp-block-cover__image-background wp-post-image\" alt=\"\" data-object-fit=\"cover\" data-object-position=\"54% 58%\" style=\"object-position:54% 58%;\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/reilffordd-eryri.avif 1458w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/reilffordd-eryri-225x300.avif 225w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/reilffordd-eryri-768x1024.avif 768w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/reilffordd-eryri-1152x1536.avif 1152w\" sizes=\"auto, (max-width: 1458px) 100vw, 1458px\" \/><div class=\"wp-block-cover__inner-container is-layout-constrained wp-block-cover-is-layout-constrained\">\n<p class=\"has-text-align-center has-large-font-size wp-block-paragraph\"><\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group alignwide is-layout-flow wp-block-group-is-layout-flow\" style=\"margin-top:var(--wp--preset--spacing--20);margin-bottom:var(--wp--preset--spacing--20);padding-top:var(--wp--preset--spacing--20);padding-right:var(--wp--preset--spacing--20);padding-bottom:var(--wp--preset--spacing--20);padding-left:var(--wp--preset--spacing--20)\">\n<div class=\"wp-block-group is-layout-constrained wp-container-core-group-is-layout-b1a602c5 wp-block-group-is-layout-constrained\" style=\"border-style:none;border-width:0px\">\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Edrych yn \u00f4l ar y 2020au<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gan edrych yn \u00f4l ar y 2020au, mae\u2019n rhyfedd meddwl pa mor bell rydym wedi dod, bron 80 mlynedd a dau bandemig yn ddiweddarach.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Drwy ei \u2018sgwrs genedlaethol\u2019 uchelgeisiol, roedd cyfarpar y wladwriaeth yng Nghymru eisoes, erbyn canol y 2000au, wedi mabwysiadu\u2019r cysyniad bod iechyd a llesiant yn amcanion hollbwysig, a oedd yn cyd-fynd yn gynnil \u00e2\u2019i phenderfyniad i fabwysiadu prif egwyddor drefniadol datblygu cynaliadwy.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Drwy benderfyniad beiddgar arall gwnaeth y wlad ddewr hon gydnabod pwysigrwydd gallu dynol a sut y gellir ei gysylltu a\u2019i ddefnyddio at ddiben cymdeithasol teg, ansawdd bywyd a chyfle, gan fuddsoddi yn hynny a\u2019i flaenoriaethu. Canolbwyntiodd y llywodraeth yn llwyr ar greu\u2019r amodau angenrheidiol i fanteisio i\u2019r eithaf ar allu dynol \u2013 a gwella\u2019r amgylchedd y mae angen i\u2019r bodau dynol hynny ei gadw\u2019n fyw, er mwyn cyflawni eu potensial a gwneud hynny mewn cymunedau a allai ffynnu.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Drwy ganolbwyntio ar feithrin y gallu hwn, ystyrid bod Cymru yn dilyn rhyw ffansi, heb gysylltiad \u00e2\u2019r \u2018byd go iawn\u2019. Bryd hynny, roedd y \u2018byd go iawn\u2019 yn golygu systemau wedi methu, defnydd enfawr o adnoddau, gwleidyddiaeth wedi\u2019i hollti, a chyhoedd wedi ei bolareiddio \u2013 a oedd yn symud yn \u00f4l ac ymlaen rhwng rhwystredigaethau cynyddol safbwyntiau gwahanol. Yn erbyn llif technoleg a\u2019r hyn a elwid yn ddeallusrwydd artiffisial bryd hynny, daeth llywodraethau\u2019n beryglus o agos i fod yn ddim byd amgenach na gemau grym, yn llawn straen dal pethau ynghyd, yn hytrach na symud ymlaen.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yng Nghymru, gwlad a oedd eisoes yn cael ei hystyried yn ecsentrig, newidiwyd y ffocws i bobl \u2013 i\u2019w hanghenion a sut i greu\u2019r amodau ar gyfer bywydau da, llawn pwrpas mewn cydbwysedd gwell \u00e2\u2019r blaned \u2013 a hynny dan gochl y natur ecsentrig hon a oedd yn cael ei gwawdio. Meddyliwyd yn ddwys am yr hyn roedd ei angen ar bobl er mwyn sicrhau\u2019r iechyd a\u2019r llesiant gorau posibl, i gael addysg dda, maeth a chysgod; i ffynnu ym myd eu galluoedd unigol a thrwy gysylltedd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cofnodwyd y fantais gyntaf ar \u00f4l y pandemig cyntaf \u2013 profiad lle y defnyddiwyd gwersi a ddysgwyd a buddsoddwyd mewn dulliau gweithredu gwahanol, a arweiniodd at ardaloedd lleol cydnerth, yn fwy parod ar gyfer yr ail a\u2019r trydydd pandemig. Roedd ardaloedd lleol erbyn hynny wedi dod yn ganolfannau tra chysylltiedig. Gweithio a dysgu gartref a gweithio a dysgu\u2019n hyblyg drwy\u2019r wefan, y wifren, y cwmwl a\u2019r croen ynghyd \u00e2 thir a threfluniau cynhyrchiol lleol, sefydlu podiau iechyd a dysgu yn canolbwyntio ar bobl i wasanaethu, addysgu a chyflogi\u2019r cymunedau lleol iawn a anwyd yn ystod blynyddoedd cyntaf, bron mythegol, Covid.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l y pandemig cyntaf, roedd ardaloedd lleol gwyrdd a dwys o aer gl\u00e2n, strydoedd deallus ac anheddau sy\u2019n ymateb i\u2019r hinsawdd yn manteisio ar systemau cyfathrebu, logisteg a chysylltu trafnidiaeth ymatebol i\u2019r galw, yn barod ar gyfer yr ail don pe bai\u2019n digwydd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Erbyn i\u2019r ail don gyrraedd, roedd y cyfle bach hwnnw wedi cael ei ddefnyddio i sefydlu\u2019r lefel gywir o ddylunio, deall, medrusrwydd ac ymrwymiad. Roeddem wedi deall potensial trafnidiaeth a chysylltedd arwyneb yn ogystal \u00e2\u2019r seilwaith enfawr a oedd yn ymestyn oddi tanom. Roeddem yn cydnabod nad amcan strategol oedd cydymffurfiaeth, ond rhwymedigaeth sylfaenol \u2013 rhywbeth anhepgor. Felly aethom ati i geisio datrysiadau gwell, mwy o werth cyhoeddus a chymdeithasol i\u2019n cymunedau \u2013 nodweddwyd adfywio trefol a gwledig gan ragoriaeth dylunio trefol, peirianneg, pensaerniaeth, a phensaerniaeth dirwedd. Nid oedd creu lleoedd yn cael ei ystyried yn rhywbeth ychwanegol at ddatblygiad mwyach ond yn rhywbeth hollol greiddiol er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol i ble a sut y gallem fyw, gweithio a hamddena. Gwnaethom anelu\u2019n uwch, a chyrraedd yn uwch \u2013 gan ddeall yr hyn roedd ei angen yn union i wneud hynny a chyflawni \u2013 nid dweud ond gwneud.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnaethom adfer y berthynas sympiotig rhwng y ddynolryw a\u2019r amgylchedd sydd ei hangen arnom i oroesi a ffynnu. Gwnaethom ymrwymo i ddulliau gweithredu cynhwysol a chydweithredol mewn diwylliant o ansawdd a diben cyffredin. Roeddem yn deall ac yn creu\u2019r amodau ar gyfer arweinyddiaeth greadigol a beiddgar a gweledigaeth glir.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnaethom ailgydio yn ymdrechion glew cenedlaethau\u2019r gorffennol, gan arwain ac ymrwymo i ansawdd, uchelgais ac atebolrwydd, achub ar y cyfle economaidd drwy brosiectau ar raddfa a oedd yn symbylu arloesedd ac yn ei wneud yn angenrheidiol. Gwnaethom fuddsoddi adnoddau dynol nid yn y byrdymor am y gost gyfalaf isaf ond yn yr hirdymor, i sicrhau\u2019r ansawdd uchaf, a budd y cyhoedd. Yn systematig, cafodd prosiectau, gwasanaethau a strwythurau hollbwysig ar gyfer yr hirdymor eu cyflwyno yn lle hen fodelau \u00e2 ffocws ar gyfalaf a manteision byrdymor. Arweiniodd newid strwythurol newydd at ymgorffori hawliau sylfaenol i gartref, i aer gl\u00e2n, ynni, sicrwydd a thirweddau sy\u2019n byw ac yn ffynnu.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnaethom osgoi amgylchedd gwywedig lle mae adnoddau yn mynd yn brinnach ac yn brinnach \u2013 ac osgoi aberthu buddiannau cenedlaethau\u2019r dyfodol, gan flaenoriaethu budd ehangach y cyhoedd. Yng Nghymru, aethom ati i sicrhau canlyniadau a amlygwyd yn y ddeddfwriaeth a gr\u00ebwyd ar gyfer llesiant cenedlaethau\u2019r dyfodol, gan ei ymgorffori mewn prosesau polisi a chyflawni, gan gychwyn ar yr agenda ddatgarboneiddio, a chyflymu ein proses o bontio i economi ddigarbon. Aethom ati ar y cyd i ailffurfio econom\u00efau a chymunedau bywiog, cynhwysol a chydlynol, a herio achosion sylfaenol strwythurol disymud tlodi o bob math. Er mwyn gwneud hyn, cefnwyd ar gysyniadau beio a dal dig. Edrychwyd arnom ni\u2019n hunain a\u2019r rhai a oedd yn rhannu ein gweledigaeth a\u2019n pwrpas.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnaethom gydnabod bod yn rhaid i drafnidiaeth i bobl, nwyddau a gwasanaethau ddod yn elfen allweddol o ran ffurfio ein hamgylchedd cyfan \u2013 ble a sut roeddem yn byw, pa ddewisiadau y gallem eu gwneud ac ar ba gyfleoedd y gellid manteisio. Gwelsom fod ein system drafnidiaeth yn gallu ffurfio gwlad, ei heconomi ac iechyd ei hamgylchedd; sut y gall wasgu bywydau pobl at ymylon prin priffyrdd enfawr sy\u2019n llygru aer ac i mewn i gerbydau na fyddem yn eu dewis fel y rhai mwyaf cyfleus fel arall. Dyluniwyd systemau trafnidiaeth, dosbarthu a chyfathrebu i\u2019r safon uchaf a blaenoriaethwyd cysur ac effeithlonrwydd, gyda deunyddiau newydd a ffynonellau ynni effeithlon, yn sbarduno\u2019r oes ddatgarboneiddio gyntaf.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Drwy ddefnyddio elw elfennol y chwyldro adnewyddadwy cyntaf dechreuwyd cydnabod defnydd tir fel adnodd strategol hollbwysig a gwireddwyd aneddiadau tra effeithlon, dwys a chysylltiedig gyda gofal cymdeithasol, iechyd, addysg, a gwasanaethau cwbl annatod a hyblyg. Er i ni weld ei fanteision gwnaethom hefyd gydnabod \u00f4l troed carbon \u2018deallusrwydd artiffisial\u2019, fel y\u2019i gelwid, a dod o hyd i ffyrdd o\u2019i ddofi er mwyn helpu i sbarduno\u2019r byd gwahanol hwn.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Erbyn hyn mae creadigrwydd a diwylliant hanfodol wedi\u2019u cydblethu \u00e2 gwead ein cymunedau wedi\u2019u haillgysylltu; gall straeon Cymru, sy\u2019n hollbwysig yn fyd-eang, gael eu dysgu o\u2019r newydd, eu rhannu, eu hail-greu a\u2019u hail-lunio. Gellir galw ar ein meddylwyr creadigol mwyaf medrus yn rheolaidd i gynnig polisi cyflym, prototeipio a dulliau cyflawni drwy fanteisio ar ein sgiliau a\u2019n gallu dynol. Gwnaeth y \u2018celloedd ymennydd\u2019 creadigol hyn, yn llythrennol ac yn drosiadol, dyfu o\u2019r ymgyrch fawr am sgiliau ac addysg gynhwysol a ysgogodd feddylwyr, dylunwyr a gwneuthurwyr i ddefnyddio dyfeisgarwch dynol i ddiffinio, profi, ailddiffinio a phrototeipio polisi yn strategaeth ac yn gamau cyflawni yn ddi-oed, gan gadw Cymru o dan fantais amgylcheddol, economaidd, gymdeithasol ac addysgol. Roedd arbenigedd yn cael ei groesawu a\u2019i ddefnyddio, a\u2019i annog i herio a dadansoddi data, tystiolaeth a gwybodaeth wrth ystyried sut y gellid eu cymhwyso.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er mwyn cyrraedd y sefyllfa hon, y byd hwn yr oedd bron yn amhosibl i ni ei ddychmygu ddegawd yn \u00f4l, gwnaethom grisialu egwydddorion allweddol, trawsnewid ein dulliau addysgol, a buddsoddi er mwyn cau\u2019r bylchau sgiliau enfawr a nodwyd gennym ar ddechrau\u2019r 2020au. Cafodd creadigrwydd, dyniaethau ac ieithoedd eu hailintegreiddio \u00e2\u2019r gwyddorau \u2013 drwy rychwant o wybodaeth, dealltwriaeth, dewrder, ymgysylltu a meddwl yn annibynnol, bu modd cyflwyno dyfeisgarwch a herio\u2019r hen ddulliau gweithredu a chanlyniadau confensiynol. O\u2019r diwedd, gwelsom sut mae syniadau yn marw yn nhywyllwch buddiant amddiffynnol unigol a sut y c\u00e2nt eu hailfywiogi pan g\u00e2nt eu rhannu, eu lledaenu a\u2019u poblogi. Cafodd yr hen angorau llusgo, tiriogaeth ac ofn, eu goresgyn gan barodrwydd newydd a gwirioneddol i fod yn agored a rhannu gwybodaeth. Roedd cymhlethdod a natur frys ein heriau yn golygu bod rhwystrau yn cael eu chwalu, bod rhagfarn yn cael ei goresgyn, bod diben cyffredin yn cael ei adfer, bod confensiynau yn cael eu dymchwel.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod misoedd, diwrnodau ac oriau\u2019r bygythiad mwyaf, gwnaethom ymwroli a choleddu arweinyddiaeth ar y cyd a diben a rennir lle roedd maint yr ymdrech, o\u2019r diwedd, yn hafal i faint yr her.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Carole-Anne Davies<\/strong> yw Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru. Dilynodd gyrfa mewn swyddi rheoli uwch yn bennaf ei chyfnod mewn diwydiant. Cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Celfyddydau Bae Caerdydd ac yn Ymddiriedolwr Amgueddfa Cymru. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hi yw Cadeirydd Ymddiriedolaeth Gregynog yr elusen sy&#8217;n berchen ar Neuadd Gregynog a&#8217;i stad SoDdGA 750 erw sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2 hi, cyn gartref y casglwyr celf a&#8217;r dyngarwyr Gwendoline a Margaret Davies. Mae hi&#8217;n gyn-fyfyriwr yng Nghynhadledd Astudio Rhyngwladol y Gymanwlad CSCLeaders; o Raglen Weithredol Ysgol Harvard Kennedy, Sefydliad Arweinyddiaeth Cynaliadwyedd Caergrawnt (CISL) a Chymrawd Oes o&#8217;r IWA.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-content-justification-center is-layout-flex wp-container-core-buttons-is-layout-20959078 wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/imagining-wales-2100\/#cyflwyno-r-traethodau\">Gweler holl draethodau &#8216;Cymru mewn 2100&#8217;<\/a><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Edrych yn \u00f4l ar y 2020au Gan edrych yn \u00f4l ar y 2020au, mae\u2019n rhyfedd meddwl pa mor bell rydym wedi dod, bron 80 mlynedd a dau bandemig yn ddiweddarach.&nbsp; Drwy ei \u2018sgwrs genedlaethol\u2019 uchelgeisiol, roedd cyfarpar y wladwriaeth yng Nghymru eisoes, erbyn canol y 2000au, wedi mabwysiadu\u2019r cysyniad bod iechyd a llesiant yn amcanion [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":4721,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"wp-custom-template-long-document","meta":{"_crdt_document":"","inline_featured_image":false,"footnotes":""},"class_list":["post-4725","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4725","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4725"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4725\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4872,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4725\/revisions\/4872"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4721"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4725"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}