{"id":4678,"date":"2024-07-29T08:00:00","date_gmt":"2024-07-29T07:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wales-in-2100-beyond-mega-prisons\/"},"modified":"2024-08-02T14:07:52","modified_gmt":"2024-08-02T13:07:52","slug":"cymru-yn-2100","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/cymru-yn-2100\/","title":{"rendered":"Cymru yn 2100"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-cover alignfull\" style=\"min-height:556px;aspect-ratio:unset;\"><span aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-cover__background has-background-dim-0 has-background-dim\" style=\"background-color:#717670\"><\/span><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1856\" height=\"1237\" class=\"wp-block-cover__image-background wp-image-4690\" alt=\"Three women and three children sit in a wooden structure. One woman is picking some food from a tray. There is a blackboard in the background.\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Wales-2100-women.avif\" data-object-fit=\"cover\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Wales-2100-women.avif 1856w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Wales-2100-women-300x200.avif 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Wales-2100-women-1024x682.avif 1024w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Wales-2100-women-768x512.avif 768w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Wales-2100-women-1536x1024.avif 1536w\" sizes=\"auto, (max-width: 1856px) 100vw, 1856px\" \/><div class=\"wp-block-cover__inner-container is-layout-constrained wp-block-cover-is-layout-constrained\">\n<p class=\"has-text-align-center has-large-font-size wp-block-paragraph\"><\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group alignwide is-layout-flow wp-block-group-is-layout-flow\" style=\"margin-top:var(--wp--preset--spacing--20);margin-bottom:var(--wp--preset--spacing--20);padding-top:var(--wp--preset--spacing--20);padding-right:var(--wp--preset--spacing--20);padding-bottom:var(--wp--preset--spacing--20);padding-left:var(--wp--preset--spacing--20)\">\n<div class=\"wp-block-group is-layout-constrained wp-container-core-group-is-layout-b1a602c5 wp-block-group-is-layout-constrained\" style=\"border-style:none;border-width:0px\">\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cymru yn 2100<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn 2100, byddai arweinwyr yn arwain gyda gostyngeiddrwydd. Ddim yn fodlon gydag ymgynghori o gymunedau ar lawr gwlad ond yn gweithredu eu syniadau. Ddim yn ofni herio hen systemau, a mentro newid systemau i gyd-fynd \u00e2&#8217;n hinsawdd sy&#8217;n newid yn barhaus.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Byddai pobl yn cael eu haddysgu ac yn deall bod croestoriadedd yn torri trwy bob<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">dimensiwn ein bywydau \u2013 o gyfiawnder hinsawdd a phwysau anghymesur<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">newid yn yr hinsawdd ar gymunedau brodorol, i warchod diwylliannau a threftadaethau, i ddad-drefedigaethu addysg, datgymalu patriarchaeth a gormes systemig. Byddai amrywiaeth a chynhwysiant yn fwy na ticio bylchau a byddant yn rhan gwbl integredig o&#8217;n bywydau. Byddai brwydr un gymuned yn frwydr pob cymuned. Byddem yn credu profiadau byw cymunedau a pham eu bod yn ymgyrchu, pam eu bod yn ymladd yn erbyn anghyfiawnder, a byddai newid yn cyd-fynd \u00e2 faint y mae cymunedau ei eisiau a&#8217;i angen.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O ran hygyrchedd \u2013 y GIG (os yw&#8217;n dal i fodoli) a&#8217;r llywodraeth, y cyhoedd a<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">byddai sefydliadau preifat fel ei gilydd yn mabwysiadu&#8217;r model cymdeithasol o anabledd fel llinell sylfaen, gan nad yw&#8217;r model meddygol yn gweithio. Mae pobl yn cael eu hanalluogi gan seilwaith sy&#8217;n darparu ar gyfer cymuned nad yw&#8217;n anabl, cadarn o gorff. Rwy&#8217;n rhagweld 2100 lle mae llwybrau yn cael eu creu i fod yn ddigon llydan ar gyfer cadeiriau olwyn ym mhob ardal, mae perchnogion cerbydau yn cael eu briffio yn y cwricwlwm gyrru i sicrhau bod llwybrau troed yn cael eu cadw yn ddi-rwystr i&#8217;r rheini gyda chymhorthion symudedd i basio drwodd \u2013 ac mae hyn yn cael ei orfodi&#8217;n briodol drwy ddeddfwriaeth hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd gan bob adeilad cyhoeddus le neu ystafell dawel gyda theganau stim priodol, plygiau clust, diodydd poeth, a goleuadau y gellir eu haddasu, fel y gall unrhyw un fynd yno i fod ar eu pennau eu hunain o&#8217;r s\u0175n rhag gor-gynhyrfu. Bydd gan weithleoedd brosesau priodol i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r stigma a brofir gan y rhai sy&#8217;n anabl (gan gynnwys pobl niwroamrywiol), a bydd yn hanfodol i bobl \u00e2 statws rheoli i<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">helpu gweithwyr i gyflawni orau yn y gwaith drwy wneud y newidiadau angenrheidiol i wneud gweithleoedd yn fwy hygyrch. Bydd rheolwyr yn cefnogi<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">gweithwyr yn llwyr pan fyddant yn cyflwyno eu gwir hunain, yn hytrach na chydymffurfio \u00e2 ffyrdd niwro-nodweddiadol o weithio.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Byddai pawb yn 2100 wedi mabwysiadu ysgrifennu testun ALT yn y cyfryngau cymdeithasol. Byddai cael syflaen gyfathrebu mewn iaith arwyddion sylfaenol yn rhan o&#8217;r cwricwlwm, byddai Braille yn cael ei ddefnyddio ar bob hysbysfwrdd pwysig, a byddai teils stribedi cyfeiriadol yn bresennol ar draws pob llwybr troed i sicrhau y gall y rhai sydd \u00e2 nam ar eu golwg grwydro drwy&#8217;r ddinas yn rhwydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn 2100 byddai gennym ddigon o gyllid ar gyfer gofal iechyd meddwl fel rhan annatod o&#8217;r GIG.&nbsp; Byddai pob cymuned yng Nghymru yn gymwys i gael therapi gwybyddol ymddygiadol, cwnsela, therapi a hyfforddiant cymorth cyntaf<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">iechyd meddwl. Byddem yn gweld gostyngiad sylweddol mewn cyfraddau hunanladdiad oherwydd y cynnydd a hygyrchedd eang gofal iechyd traws a chlinigau<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">iechyd meddwl am ddim. Byddai iechyd meddwl yn cael ei flaenoriaethu a&#8217;i addysgu mewn ysgolion. Byddai cynhyrchion mislif am ddim ym mhob toiled, ac addysg rhyw cynhwysol priodol (gan gynnwys addysg rhyw cwiar) yn cael ei ddysgu ym mhob ysgol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y Gymru hon yn y dyfodol, bydd y llywodraeth yn deall bod cyllid ar gyfer seilwaith a materion milwrol yn llai pwysig na chostau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 chyflogaeth, adeiladu cymuned a chydlyniant ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Mae gan y llywodraeth a chyrff cyhoeddus gyllideb sylweddol wedi&#8217;i dyrannu i brosiectau datgarboneiddio tymor hir mewn cymunedau lleol ac nid prosiectau gwrthbwyso carbon &#8216;plannu coed&#8217; yn unig. Mae yna ddigonedd o oergelloedd cymunedol, cydweithfeydd bwyd ac addysg o&#8217;r fferm i&#8217;r pl\u00e2t. Bydd plant yn cael profiad ymarferol o dyfu a chynaeafu eu cnydau. Mae gerddi yn cael eu neilltuo i gartrefi a bydd mentrau \u2018tyfu eich bwyd eich hun\u2019 a gerddi a rhandiroedd cymunedol i rannu a chynaeafu ar y cyd. Banciau bwyd yn diflannu gan bod digon o ofal cymunedol a chymorth ar gyfer bwydydd ffres. Aps yn cael eu datblygu i sicrhau bod modd pontio rhwng masnach a chyflenwi rhwng y rhai sydd angen bwyd neu ofal iechyd a&#8217;r rhai sy&#8217;n gallu ei ddarparu, a bod galwad am gymorth yn cael ei ateb gan y rhai sydd \u00e2&#8217;r adnoddau bron yn syth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae digonedd o dai diogel i&#8217;r rhai sydd angen lloches, p&#8217;un ai o ganlyniad i<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">ddigartrefedd, trais domestig neu ffoi o unrhyw le anniogel. Mae yna un<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">cynllun hirdymor ar waith i groesawu ffoaduriaid a&#8217;u helpu i deimlo&#8217;n ddiogel yng Nghymru, waeth beth fo lliw eu croen. Mae cyrff llywodraethol yn atebol i gomisiynwyr annibynnol herio eu rhagfarnau eu hunain ar gefnogi cymunedau penodol pan fyddant mewn argyfwng. Nid yw ymatebion i argyfyngau yn anghymesur, fel y mae&#8217;r driniaeth o&#8217;r rhyfel yn yr Wcrain o gymharu a hil-laddiad Palesteina.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae microymosodiadau mewn sefydliadau yn cael sylw ac maent yn atebol iddynt, gyda prosesau clir a thryloyw sy&#8217;n ei gwneud yn haws i ddioddefwyr hysbysu rhywun ohono a mapio natur y microymosodiadau a brofwyd ganddynt, tra&#8217;n sicrhau i&#8217;r dioddefwyr nad ydynt yn gorfeddwl eu profiad. Mae gwrth-hiliaeth yn cael ei ddysgu mewn ysgolion a phobl yn atebol i ymddygiad hiliol heb eu hystyried fel j\u00f4cs i chwerthin arnynt.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae tyfu i fyny yn 2100 yn golygu tyfu i fyny mewn cyfnod lle mae cymuned yr un mor gydlynol ag erioed, a gofal a chymorth cymunedol yn cael eu blaenoriaethu yn hytrach na theuluoedd niwclear neu unigolion ar eu pennau eu hunain. Mae digon o ardaloedd gwyrdd, parciau a meysydd chwarae i&#8217;r cyhoedd ac i blant chwarae ynddynt. Digon o natur ac ardaloedd gwyllt i rywogaethau brodorol ffynnu ynddynt, i wenyn gwyllt yng nghanol blodau gwyllt, ac anifeiliaid yn dod yn \u00f4l i natur, gan adfer eu hecosystemau. Bydd sesiynau natur yn hanfodol mewn ysgolion. Bydd plant yn blaenoriaethu crefft chwarae a chwilfrydedd ar eu tiroedd a&#8217;i elfennau, yn ogystal \u00e2&#8217;r moroedd, yr afonydd a&#8217;r wybren.&nbsp; Syllu ar y s\u00ear, nofio gwyllt, twrio am fwyd, dysgu am ein mamaliaid a&#8217;n pryfed wrth ddringo coed&#8230;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn 2100, mae plant yn tyfu i fyny i ddysgu&#8217;r rhain i gyd!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn 2100, byddai Cymru yn arwain y DU mewn llawer o ffyrdd \u2013 gan gadw ei hunaniaeth bod yn wlad gwbl ddwyieithog lle mae dwyieithrwydd yn cael ei ymgorffori a llythrennedd Gymraeg a Saesneg yn uwch nag erioed, a dathliadau Cymreig coll yn cael eu hadfer a&#8217;u dathlu gan y genedl; a bod yn wlad heb<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">allyriadau carbon. Mae gwastraff bwyd ar ei isaf erioed, gydag ail-gylchu bwyd yn cael ei ddefnyddio i wneud compost i&#8217;w ailddosbarthu i gymunedau, yn rhad ac am ddim i&#8217;w ddefnyddio; mae anifeiliaid sy&#8217;n cynhyrchu cig yn cael eu magu heb greulondeb, ac mae ymgyrchoedd yn cael eu sefydlu i bawb gefnogi busnesau bach a ffermwyr lleol. Byddai Cymru hefyd yn genedl noddfa a fyddai&#8217;n gweithredu yn unol a&#8217;i haddewidion ac yn lle diogel i gymunedau cwiar gan adael i bobl ar y cyrion ffynnu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I grynhoi, gall Cymru fod yn llawer o bethau. Gall Cymru fod yn iwtopia i ni i gyd, ond<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">yn gyntaf, mae angen i ni dorri llawer o hen haenau o systemau oesol nad ydynt yn<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">gweithio i ni bellach, a herio ein rhagfarnau i ddad-ddysgu, ac yna ail-ddysgu yr hyn fydd yn dda i ni i gyd. Nid rhywbeth i&#8217;r dosbarth canol na&#8217;r dosbarth uchaf yn unig yw hyn. Mae hyn ar gyfer pob un ohonom ni.&nbsp; Dylai newid ddigwydd nid yn unig ar gyfer rhanddeiliaid, nid yn unig i ddathlu &#8216;llwyddiannau&#8217;. Mae&#8217;n rhaid i ni gofio pam rydyn ni yma a beth allwn ni ei wneud, nid dim ond i gyrraedd nodau penodol a chasglu data ar gyfer adroddiadau a Dangosyddion Perffromiad Allweddol, ond i ddod \u00e2&#8217;r<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">newidiadau sydd eu hangen yn ddirfawr ar gymunedau er mwyn ffynnu, nid goroesi. Bydd yn rhaid i ni wrando ar ein pobl.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel mewnfudwr niwrowahanol cwiar o&#8217;r mwyafrif byd-eang, rwyf am bwysleisio pwysigrwydd yr arwyddair: <em>nid oes neb yn rhydd nes bod pawb yn rhydd<\/em>. Rhaid i ni beidio \u00e2 cholli golwg ar werthoedd Cymru na sut wlad allai Cymru fod yn 2100. Cymru am byth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-small-font-size wp-block-paragraph\">Llun: Polly Thomas (cedwir pob hawl) <\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-content-justification-center is-layout-flex wp-container-core-buttons-is-layout-20959078 wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/imagining-wales-2100\/#cyflwyno-r-traethodau\">Gweler holl draethodau &#8216;Cymru mewn 2100&#8217;<\/a><\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p class=\"has-small-font-size wp-block-paragraph\"><br><\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cymru yn 2100 Yn 2100, byddai arweinwyr yn arwain gyda gostyngeiddrwydd. Ddim yn fodlon gydag ymgynghori o gymunedau ar lawr gwlad ond yn gweithredu eu syniadau. Ddim yn ofni herio hen systemau, a mentro newid systemau i gyd-fynd \u00e2&#8217;n hinsawdd sy&#8217;n newid yn barhaus. Byddai pobl yn cael eu haddysgu ac yn deall bod croestoriadedd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":4704,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"wp-custom-template-long-document","meta":{"_crdt_document":"","inline_featured_image":false,"footnotes":""},"class_list":["post-4678","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4678","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4678"}],"version-history":[{"count":14,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4678\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5225,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4678\/revisions\/5225"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4704"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4678"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}