{"id":4626,"date":"2024-07-08T08:00:03","date_gmt":"2024-07-08T07:00:03","guid":{"rendered":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/im-not-asking-for-a-ramp-up-pen-y-fan\/"},"modified":"2024-07-02T13:57:01","modified_gmt":"2024-07-02T12:57:01","slug":"not-asking-for-a-ramp","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/not-asking-for-a-ramp\/","title":{"rendered":"Nid wy\u2019n gofyn am Ramp i fyny i Ben y Fan"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-cover alignfull is-light\" style=\"min-height:556px;aspect-ratio:unset;\"><span aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-cover__background has-background-dim-0 has-background-dim\" style=\"background-color:#717670\"><\/span><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1512\" height=\"2016\" class=\"wp-block-cover__image-background wp-image-4622\" alt=\"A stream runs through a green valley on a hillside. A wooden bridge crosses the stream, and sheep graze near one end of the bridge. A path leads up the hill.\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Pen-y-Fan.avif\" style=\"object-position:50% 54%\" data-object-fit=\"cover\" data-object-position=\"50% 54%\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Pen-y-Fan.avif 1512w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Pen-y-Fan-225x300.avif 225w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Pen-y-Fan-768x1024.avif 768w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Pen-y-Fan-1152x1536.avif 1152w\" sizes=\"auto, (max-width: 1512px) 100vw, 1512px\" \/><div class=\"wp-block-cover__inner-container is-layout-constrained wp-block-cover-is-layout-constrained\">\n<p class=\"has-text-align-center has-large-font-size wp-block-paragraph\"><\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group alignwide is-layout-flow wp-block-group-is-layout-flow block-visibility-hide-small-screen\" style=\"margin-top:var(--wp--preset--spacing--20);margin-bottom:var(--wp--preset--spacing--20);padding-top:var(--wp--preset--spacing--20);padding-right:var(--wp--preset--spacing--20);padding-bottom:var(--wp--preset--spacing--20);padding-left:var(--wp--preset--spacing--20)\">\n<div class=\"wp-block-group is-layout-constrained wp-container-core-group-is-layout-b1a602c5 wp-block-group-is-layout-constrained\" style=\"border-style:none;border-width:0px\">\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Nid wy\u2019n gofyn am Ramp i fyny i Ben y Fan<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">2100<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n ddiwrnod heulog ond oer ym mis Hydref ac nid yw\u2019r tymor wedi troi eto. Mae\u2019r goedwig yn mynd heibio mewn fflach, clytwaith o liwiau melyngoch a gwyrdd fel pe bai pob clwstwr o goed yn perthyn i dymor gwahanol. Rwyf wrthi\u2019n astudio ap yr Arolwg Ordnans, gan olrhain y llwybr \u00e2\u2019m bys blaen. Am y trydydd tro y bore yma, edrychaf eto ar y math o dir ac arwyneb y llwybr. Astudiaf y ffiniau i weld pa fath o gatiau a chamfeydd sydd yno, o hen arfer yn hytrach nag angen. Dylai\u2019r llwybr hwn fod yn rhydd o gamfeydd, gatiau mochyn neu draeniau storm sy\u2019n torri ar draws y llwybrau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae drws y bws yn agor yn awtomatig wrth i mi olwyno tuag ato ac mae\u2019r bws yn gostwng fel y gallaf rolio\u2019n syth i mewn i\u2019r maes parcio. Mae rampiau wedi hen ddiflannu.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ceir ychydig o leoedd i gerbydau i unrhyw un sydd ddim yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ond mae\u2019r rhan fwyaf o\u2019r lleoedd wedi\u2019u cadw ar gyfer deiliaid bathodyn glas gyda lle wedi\u2019i farcio ar y naill ochr a\u2019r llall er mwyn sicrhau bod digon o le i bawb fynd i mewn i\u2019w ceir a dod allan ohonynt. Mae bloc o doiledau yn cynnwys toiledau i bawb, gan gynnwys toiledau hygyrch \u00e2 drysau awtomatig wedi\u2019u pweru \u00e2\u2019r haul.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y tu hwnt i\u2019r maes parcio, mae\u2019r bryniau\u2019n cynnal y cymylau ac mae\u2019r coed yn ymestyn hyd y gellir ei weld nes eu bod yn smotiau o liw yn y pellter. Rwy\u2019n olwyno hyd at yr arwydd lle mae diferion glaw yn hongian o\u2019r coed yn pefrio o dan belydrau\u2019r haul. Mae\u2019r arwydd yn dangos pum llwybr, y mae tri ohonynt wedi\u2019u marcio\u2019n hygyrch ac mae\u2019n cynnwys ffotograffau o\u2019r gatiau awtomatig wedi\u2019u pweru gan yr haul, arwyneb y llwybr a\u2019r math o dir.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy\u2019n dewis y llwybr cylchol hiraf. Yn dilyn yr arwyddion ar hyd y llwybr, rwy\u2019n disgyn ar hyd llwybr ag wyneb da, solet i mewn i goedwig drwchus. Mae fy nghadair olwyn bweredig, sy\u2019n addas ar gyfer pob math o dir, diolch i\u2019r GIG, yn estyniad i\u2019m corff, gan symud yn ddiymdrech dros frigau cwympedig ac ambell garreg. Rydym ni, sef uniad o groen, asgwrn a metel, wedi ein daearu drwy rwber ein holwynion cylchdroi. Anwybyddaf y bont wastad ar fy ochr dde, gan barhau i rolio drwy\u2019r nant, wrth i\u2019r olwynion symud dros y gwaelod caregog wrth iddynt fynd dan dd\u0175r hyd at yr echel. Mae barcud yn hedfan uwch fy mhen.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ffyngau yn gwthio ymylon y llwybr o\u2019r neilltu, ac mae\u2019r haul yn goleuo\u2019r dail metelaidd sy\u2019n gorchuddio rhannau o\u2019r llwybr. Mae meinciau yma a thraw, fel briwsion bara ar hyd y llwybr yn gwahodd gwesteion i orffwys am ychydig ac anadlu gyda\u2019r coed.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cwpl yn eu hugeiniau mewn dillad ac esgidiau cerdded yn brasgamu tuag ataf. Rydym yn sgwrsio am y tywydd a\u2019r hebog tramor rydym i gyd newydd ei glywed yn sgrechian o glogwyn rywle y tu hwnt i\u2019r goedwig hon. Er nad oes angen llwybr hygyrch arnyn nhw, maen nhw wedi dewis y llwybr yma oherwydd amrywiaeth y fflora a ffawna, oherwydd harddwch y goedwig. Does neb yn colli dim drwy gadw at lwybr hygyrch.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy\u2019n parhau ar hyd y llwybr. Mae\u2019r coed yn mynd yn brinnach wrth i mi gyrraedd copa bryn. Mae niwl yn dechrau disgyn, gan godi\u2019n orfoleddus o\u2019r dyffryn islaw. Mae\u2019r clytwaith o gaeau yn ymestyn i\u2019r gorwel a\u2019r unig raniad yw\u2019r llwybrau bach cymen. Dim ond o amgylch ambell i gae lle mae defaid yn pori y gwelir ffensys a gatiau; mae ffiniau\u2019r lleill wedi\u2019u marcio gan derfyn perllannau, coed ifanc newydd eu plannu, dolydd neu wrychoedd trwchus, heb eu torri.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth i mi stopio i gymryd ychydig o dd\u0175r ac edrych ymlaen at y llwybr dirwystr sy\u2019n ymestyn yn llawen dros ffiniau, gwn fy mod i\u2019n perthyn.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">2024<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel defnyddiwr cadair olwyn, does dim byd mwy modern, mwy radical ac uchelgeisiol na chydraddoldeb yn yr awyr agored. Nid s\u00f4n am rampiau i fyny ein mynyddoedd ydwyf (ond byddwn wrth fy modd yn cael disgyn arnynt); rwy\u2019n golygu cynnal fy hawl sylfaenol i ddefnyddio llwybrau, gan symud yn ddiymdrech ac yn ddidrafferth drwy ein tirweddau fel yr oeddwn i\u2019n ei wneud cyn i mi orfod amau fy hawl i fodoli yn yr awyr agored.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cychwyn ar daith ar olwynion, heb orfod poeni am hygyrchedd nac ableddiaeth yn teimlo\u2019n llawer mwy anghredadwy nag unrhyw dechnoleg iwtopaidd megis tacsis sy\u2019n hedfan neu fapiau holograffig ar ddechrau pob taith. Efallai y bydd fy mreuddwyd ar gyfer 2100 hygyrch yn ymddangos yn un eithaf tila, heb uchelgais i ddarllennydd nad yw\u2019n anabl ond fel defnyddiwr cadair olwyn, ni allaf ddychmygu hawl fy nghymuned i gael mynediad i fyd natur yn cael ei hystyried mor ddilys \u00e2 hawl pobl sydd bob amser wedi symud drwy\u2019r awyr agored yn rhwydd ac yn ddigwestiwn. Mae\u2019r syniad hyd yn oed o gael defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd lleoliad gwledig yn hawdd i rywun nad yw\u2019n anabl bron yn anhygoel. Rwy\u2019n osgoi trenau a bysiau am fod gyrwyr bysiau yn aml yn gwrthod stopio i ddefnyddwyr cadair olwyn neu fod pram neu gasys yn y lle i gadeiriau olwyn, ac rwyf wedi cael fy nhaflu oddi ar un o drefnau Trafnidiaeth Cymru oherwydd ramp nad oedd wedi\u2019i sicrhau\u2019n iawn, gan lanio\u2019n galed ar y platfform ychydig fetrau o\u2019m cadair. Ni ddylai trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch na digon o leoedd i ddeiliaid bathodyn glas fod yn radical. Mae hyd yn oed lleoedd wedi\u2019u cadw i ddeiliaid bathodyn glas am ddim mewn meysydd parcio gwledig sydd \u00e2 digon o le ar y naill ochr a\u2019r llall er mwyn i mi symud fy nghadair olwyn i mewn ac allan o\u2019r car yn beth prin o hyd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ni allaf ddychmygu ychwaith ddarllen map i ganfod a allaf symud drwy dirwedd neu rolio i lawr llwybr hygyrch ag arwyneb da heb wynebu rhwystr sy\u2019n golygu bod yn rhaid i mi droi\u2019n \u00f4l. Yn \u00f4l ymchwiliad gan y BBC, mae hawliau tramwy cyhoeddus wedi\u2019u rhwystro mewn 32,000 o leoedd ledled Cymru a Lloegr, a dim ond i 11% o\u2019r tir rydym yn cael mynediad. O ran mynediad, rwy\u2019n golygu mynediad cyfreithiol i dir mynediad agored. Nid yw hyn yn cynnwys y realiti a yw\u2019r tir yn hygyrch ac i bwy. Mae canran y tir sy\u2019n hygyrch i bobl anabl yn anfesuradwy ac yn ganran fach iawn o\u2019r 11% hynny. Mae\u2019r rhan fwyaf o lwybrau sydd wedi\u2019u mapio ac mewn cyflwr da hyd yn oed yn atal mynediad i bobl anabl.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy\u2019n ysu am gael mynd ar deithiau cylchol hygyrch hir y gallaf eu cwblhau ar fy mhen fy hun. Breuddwyd yn unig yw cael crwydro ar fy mhen fy hun oddi ar y llwybr arferol os nad yw\u2019r llwybr arferol hyd yn oed yn hygyrch, ac ni allaf gychwyn ar daith ar fy mhen fy hun rhag ofn y bydd angen i rywun fy nghodi neu fy ngwthio pan fydd y rhwystrau yn ormod i\u2019m cadair olwyn.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae lleoedd yng Nghymru yn 2024, y tu hwnt i barciau trefol, lle mae mynediad wedi cael ei ystyried i bawb, nid dim ond y bobl sy\u2019n cerdded yn rhwydd heb orfod meddwl am y peth. Er bod parciau trefol, megis Parc y Rhath yng Nghaerdydd lle mae mulfrain yn eistedd ar gerrig sy\u2019n codi o\u2019r d\u0175r, yn cyfarch yr wybren gyda\u2019u hadenydd, yn ffyrdd hanfodol a hygyrch o fwynhau byd natur, ni ddylent fod yn unig opsiwn i unrhyw un sy\u2019n cael ei atal rhag crwydro cefn gwlad.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae llwybrau hygyrch yn bodoli yng Nghymru, ond pethau prin ydynt. Ar Wlyptiroedd Casnewydd, mae llwybrau cymen yn ymlwybro heibio corsleoedd lle rydych yn gallu gweld cornicyllod a phiod m\u00f4r. Yng Nghoedwig Hafren, Powys, mae llwybr hygyrch yn dechrau \u00e2 ramp i lwybr pren sy\u2019n dilyn ystumiau\u2019r afon cyn ymuno \u00e2 llwybr tarmac drwy goedwig ffyniannus lle mae ffyngau yn tyfu drwy\u2019r mwsogl. Efallai y byddwch yn gweld cudyllod bach, sgrechod y coed neu weilch glas o\u2019r maes parcio lle mae lleoedd parcio i ddeiliaid bathodyn glas wedi\u2019u cadw ac wedi\u2019u marcio. Mae Beddgelert, Gwynedd yn croesawu ymwelwyr drwy bontydd hygyrch dros yr afon a llwybrau concrid. Mae toiled hygyrch ym mhob un o\u2019r lleoliadau hyn. Mae\u2019n hawdd i gynllunwyr nad ydynt yn anabl anghofio bod angen y rhain ond maent yr un mor hanfodol i fwynhau byd natur \u00e2\u2019n rhwydweithiau o lwybrau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hyd yn oed ar yr achlysur prin pan fo mynediad i bawb yn wirioneddol i bawb, mae rhwystrau o ran agweddau yn dal i fy anablu ym myd natur oherwydd cynrychioliaeth wael pobl anabl yn yr awyr agored. Nid yw cerddwyr yn disgwyl fy ngweld i na\u2019m cadair olwyn yn rhannu eu llwybrau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ni allaf gofio sut brofiad ydyw i symud drwy\u2019r awyr agored heb fod cerddwr yn dod i fyny ataf i wneud j\u00f4c am derfynau cyflymder, a gofyn pam rwy\u2019n defnyddio cadair olwyn neu ddweud wrtha i fod fy nghadair olwyn yn ddel. Nid yw\u2019r dieithryn wedi gweld fy nghorff anabl yn yr awyr agored o\u2019r blaen felly er gwaethaf y bwriadau da, mae\u2019n fy atgoffa na ddylwn fod yma. Rwy\u2019n gweld eisiau cydgerddwyr yn s\u00f4n am y tywydd neu dynnu sylw at aderyn: m\u00e2n sgwrsio a gedwir i\u2019r rhai sy\u2019n perthyn.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un o\u2019r rhesymau pam mae cerddwyr yn mynnu canmol fy nghadair olwyn yw nad yw\u2019n gadair olwyn \u00e2 llaw safonol. Rwy\u2019n defnyddio beic llaw pweredig, un gwyrdd llachar, sy\u2019n atodi i\u2019m cadair olwyn (heb grogiant) a thrwy hynny gallaf adael y tarmac neu\u2019r cerrig palmant. Mae\u2019r beicwyr \u2018difrifol\u2019 yn eu dillad lycra yn genfigennus a byddant yn gweiddi \u2018hoffi\u2019r olwynion\u2019 arnaf wrth i mi sio heibio ar 20mya. Talwyd amdano drwy ymgyrch crowdfunder, nid drwy Wasanaethau Cadeiriau Olwyn cwbl annigonol y GIG. Nid oess llawer o ddefnyddwyr cadair olwyn yn gymwys i gael cadeiriau olwyn gan y GIG ac mae\u2019r cadeiriau sy\u2019n cael eu hariannu i bobl ddethol yn rhai sylfaenol \u00e2 llaw, nid y rhai a fyddai\u2019n ei gwneud yn bosibl i ddefnyddwyr cadair olwyn grwydro yn yr awyr agored. Mae cadeiriau olwyn sy\u2019n gallu eu cludo y tu allan i ddinasoedd yn cael eu hystyried yn fraint yn hytrach nag yn hawl, er eu bod yn llawer mwy hanfodol i fod yn yr awyr agored na\u2019r esgidiau cywir neu g\u00f4t law. Hyd nes bydd cadeiriau olwyn sy\u2019n addas at bob math o dir a chyfarpar cynorthwyol ac addasol arall sydd eu hangen i sicrhau y gall pawb fwynhau cefn gwlad yn cael eu hariannu, ni fydd modd sicrhau cydraddoldeb yn yr awyr agored.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw cydraddoldeb yn yr awyr agored yn golygu gosod tarmac dros gefn gwlad. Mae mynediad teg gwirioneddol yn golygu sicrhau bod gan bawb yr adnoddau sydd eu hangen i fwynhau\u2019r awyr agored, nad yw ein seilwaith yn gwahaniaethu ar sail pwy y mae disgwyl iddynt fynnu mynediad, bod hawliau pobl a byd natur o\u2019n hamgylch yn cael eu parchu a\u2019u diogelu, bod pobl yn cael y cyfarpar sydd ei angen i fwynhau\u2019r awyr agored (boed hynny\u2019n esgidiau addas neu gadair olwyn), bod eu mynediad a\u2019u symudiadau yn cael eu mapio, eu bod yn cael eu cynrychioli, ac y gallant symud yn ddirwystr a heb darfu. Nid yw cydraddoldeb yn golygu datgan bod yr awyr agored yn agored i bawb heb nodi rhwystrau i fynediad. Mae hyrwyddo mynediad i bawb heb nodi\u2019n gyntaf pwy sydd eisoes ar goll o gefn gwlad a pham yn golygu hyrwyddo cyfle cyfartal Thatcher \u2013 datgan bod llwybr yn gyhoeddus heb ystyried all gyrraedd y llwybr a phwy sy\u2019n rhydd i symud ar hyd-ddo.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cefn gwlad lle teimlaf y bydd fy nghorff a\u2019i gadair olwyn yn perthyn a lle mae mynediad wedi\u2019i gynllunio i gyrff sy\u2019n symud fel fy un i yn teimlo mor annelwig, mor bell i ffwrdd, ond po leiaf o flaenoriaeth a roddwn ar fynediad i bawb, y mwyaf yw\u2019r perygl i iechyd ein planed. Mae angen i bawb, o bobl sydd wedi symud drwy gefn gwlad yn hanesyddol i\u2019r rhai y gwrthodir mynediad iddynt, symud drwy fyd natur, a bod yn dyst gydag empathi. Nid ydych yn diogelu\u2019r hyn nad ydych yn malio dim amdano; mae dadlau o blaid mynediad i bawb yn gyfystyr \u00e2 dadlau o blaid hawl byd natur i fodoli. Mae buddsoddi mewn mynediad yn gyfystyr \u00e2 buddsoddi yn y blaned.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pobl Cymru yn haeddu dyfodol lle mae llwybrau troed cyhoeddus yn wirioneddol gyhoeddus.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae <strong>Bethany Handley<\/strong> yn awdur ac yn actifydd anabledd.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-content-justification-center is-layout-flex wp-container-core-buttons-is-layout-20959078 wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/imagining-wales-2100\/#cyflwyno-r-traethodau\">Gweler holl draethodau &#8216;Cymru mewn 2100&#8217;<\/a><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group alignwide is-layout-flow wp-block-group-is-layout-flow block-visibility-hide-large-screen block-visibility-hide-medium-screen\" style=\"margin-top:var(--wp--preset--spacing--20);margin-bottom:var(--wp--preset--spacing--20);padding-top:var(--wp--preset--spacing--20);padding-right:var(--wp--preset--spacing--20);padding-bottom:var(--wp--preset--spacing--20);padding-left:var(--wp--preset--spacing--20)\">\n<div class=\"wp-block-group is-layout-constrained wp-container-core-group-is-layout-a1727f98 wp-block-group-is-layout-constrained\" style=\"border-style:none;border-width:0px\">\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Nid wy\u2019n gofyn am Ramp i fyny i Ben y Fan<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">2100<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n ddiwrnod heulog ond oer ym mis Hydref ac nid yw\u2019r tymor wedi troi eto. Mae\u2019r goedwig yn mynd heibio mewn fflach, clytwaith o liwiau melyngoch a gwyrdd fel pe bai pob clwstwr o goed yn perthyn i dymor gwahanol. Rwyf wrthi\u2019n astudio ap yr Arolwg Ordnans, gan olrhain y llwybr \u00e2\u2019m bys blaen. Am y trydydd tro y bore yma, edrychaf eto ar y math o dir ac arwyneb y llwybr. Astudiaf y ffiniau i weld pa fath o gatiau a chamfeydd sydd yno, o hen arfer yn hytrach nag angen. Dylai\u2019r llwybr hwn fod yn rhydd o gamfeydd, gatiau mochyn neu draeniau storm sy\u2019n torri ar draws y llwybrau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae drws y bws yn agor yn awtomatig wrth i mi olwyno tuag ato ac mae\u2019r bws yn gostwng fel y gallaf rolio\u2019n syth i mewn i\u2019r maes parcio. Mae rampiau wedi hen ddiflannu.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ceir ychydig o leoedd i gerbydau i unrhyw un sydd ddim yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ond mae\u2019r rhan fwyaf o\u2019r lleoedd wedi\u2019u cadw ar gyfer deiliaid bathodyn glas gyda lle wedi\u2019i farcio ar y naill ochr a\u2019r llall er mwyn sicrhau bod digon o le i bawb fynd i mewn i\u2019w ceir a dod allan ohonynt. Mae bloc o doiledau yn cynnwys toiledau i bawb, gan gynnwys toiledau hygyrch \u00e2 drysau awtomatig wedi\u2019u pweru \u00e2\u2019r haul.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y tu hwnt i\u2019r maes parcio, mae\u2019r bryniau\u2019n cynnal y cymylau ac mae\u2019r coed yn ymestyn hyd y gellir ei weld nes eu bod yn smotiau o liw yn y pellter. Rwy\u2019n olwyno hyd at yr arwydd lle mae diferion glaw yn hongian o\u2019r coed yn pefrio o dan belydrau\u2019r haul. Mae\u2019r arwydd yn dangos pum llwybr, y mae tri ohonynt wedi\u2019u marcio\u2019n hygyrch ac mae\u2019n cynnwys ffotograffau o\u2019r gatiau awtomatig wedi\u2019u pweru gan yr haul, arwyneb y llwybr a\u2019r math o dir.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy\u2019n dewis y llwybr cylchol hiraf. Yn dilyn yr arwyddion ar hyd y llwybr, rwy\u2019n disgyn ar hyd llwybr ag wyneb da, solet i mewn i goedwig drwchus. Mae fy nghadair olwyn bweredig, sy\u2019n addas ar gyfer pob math o dir, diolch i\u2019r GIG, yn estyniad i\u2019m corff, gan symud yn ddiymdrech dros frigau cwympedig ac ambell garreg. Rydym ni, sef uniad o groen, asgwrn a metel, wedi ein daearu drwy rwber ein holwynion cylchdroi. Anwybyddaf y bont wastad ar fy ochr dde, gan barhau i rolio drwy\u2019r nant, wrth i\u2019r olwynion symud dros y gwaelod caregog wrth iddynt fynd dan dd\u0175r hyd at yr echel. Mae barcud yn hedfan uwch fy mhen.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ffyngau yn gwthio ymylon y llwybr o\u2019r neilltu, ac mae\u2019r haul yn goleuo\u2019r dail metelaidd sy\u2019n gorchuddio rhannau o\u2019r llwybr. Mae meinciau yma a thraw, fel briwsion bara ar hyd y llwybr yn gwahodd gwesteion i orffwys am ychydig ac anadlu gyda\u2019r coed.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cwpl yn eu hugeiniau mewn dillad ac esgidiau cerdded yn brasgamu tuag ataf. Rydym yn sgwrsio am y tywydd a\u2019r hebog tramor rydym i gyd newydd ei glywed yn sgrechian o glogwyn rywle y tu hwnt i\u2019r goedwig hon. Er nad oes angen llwybr hygyrch arnyn nhw, maen nhw wedi dewis y llwybr yma oherwydd amrywiaeth y fflora a ffawna, oherwydd harddwch y goedwig. Does neb yn colli dim drwy gadw at lwybr hygyrch.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy\u2019n parhau ar hyd y llwybr. Mae\u2019r coed yn mynd yn brinnach wrth i mi gyrraedd copa bryn. Mae niwl yn dechrau disgyn, gan godi\u2019n orfoleddus o\u2019r dyffryn islaw. Mae\u2019r clytwaith o gaeau yn ymestyn i\u2019r gorwel a\u2019r unig raniad yw\u2019r llwybrau bach cymen. Dim ond o amgylch ambell i gae lle mae defaid yn pori y gwelir ffensys a gatiau; mae ffiniau\u2019r lleill wedi\u2019u marcio gan derfyn perllannau, coed ifanc newydd eu plannu, dolydd neu wrychoedd trwchus, heb eu torri.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth i mi stopio i gymryd ychydig o dd\u0175r ac edrych ymlaen at y llwybr dirwystr sy\u2019n ymestyn yn llawen dros ffiniau, gwn fy mod i\u2019n perthyn.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<p class=\"has-large-font-size wp-block-paragraph\">2024<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel defnyddiwr cadair olwyn, does dim byd mwy modern, mwy radical ac uchelgeisiol na chydraddoldeb yn yr awyr agored. Nid s\u00f4n am rampiau i fyny ein mynyddoedd ydwyf (ond byddwn wrth fy modd yn cael disgyn arnynt); rwy\u2019n golygu cynnal fy hawl sylfaenol i ddefnyddio llwybrau, gan symud yn ddiymdrech ac yn ddidrafferth drwy ein tirweddau fel yr oeddwn i\u2019n ei wneud cyn i mi orfod amau fy hawl i fodoli yn yr awyr agored.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cychwyn ar daith ar olwynion, heb orfod poeni am hygyrchedd nac ableddiaeth yn teimlo\u2019n llawer mwy anghredadwy nag unrhyw dechnoleg iwtopaidd megis tacsis sy\u2019n hedfan neu fapiau holograffig ar ddechrau pob taith. Efallai y bydd fy mreuddwyd ar gyfer 2100 hygyrch yn ymddangos yn un eithaf tila, heb uchelgais i ddarllennydd nad yw\u2019n anabl ond fel defnyddiwr cadair olwyn, ni allaf ddychmygu hawl fy nghymuned i gael mynediad i fyd natur yn cael ei hystyried mor ddilys \u00e2 hawl pobl sydd bob amser wedi symud drwy\u2019r awyr agored yn rhwydd ac yn ddigwestiwn. Mae\u2019r syniad hyd yn oed o gael defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd lleoliad gwledig yn hawdd i rywun nad yw\u2019n anabl bron yn anhygoel. Rwy\u2019n osgoi trenau a bysiau am fod gyrwyr bysiau yn aml yn gwrthod stopio i ddefnyddwyr cadair olwyn neu fod pram neu gasys yn y lle i gadeiriau olwyn, ac rwyf wedi cael fy nhaflu oddi ar un o drefnau Trafnidiaeth Cymru oherwydd ramp nad oedd wedi\u2019i sicrhau\u2019n iawn, gan lanio\u2019n galed ar y platfform ychydig fetrau o\u2019m cadair. Ni ddylai trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch na digon o leoedd i ddeiliaid bathodyn glas fod yn radical. Mae hyd yn oed lleoedd wedi\u2019u cadw i ddeiliaid bathodyn glas am ddim mewn meysydd parcio gwledig sydd \u00e2 digon o le ar y naill ochr a\u2019r llall er mwyn i mi symud fy nghadair olwyn i mewn ac allan o\u2019r car yn beth prin o hyd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ni allaf ddychmygu ychwaith ddarllen map i ganfod a allaf symud drwy dirwedd neu rolio i lawr llwybr hygyrch ag arwyneb da heb wynebu rhwystr sy\u2019n golygu bod yn rhaid i mi droi\u2019n \u00f4l. Yn \u00f4l ymchwiliad gan y BBC, mae hawliau tramwy cyhoeddus wedi\u2019u rhwystro mewn 32,000 o leoedd ledled Cymru a Lloegr, a dim ond i 11% o\u2019r tir rydym yn cael mynediad. O ran mynediad, rwy\u2019n golygu mynediad cyfreithiol i dir mynediad agored. Nid yw hyn yn cynnwys y realiti a yw\u2019r tir yn hygyrch ac i bwy. Mae canran y tir sy\u2019n hygyrch i bobl anabl yn anfesuradwy ac yn ganran fach iawn o\u2019r 11% hynny. Mae\u2019r rhan fwyaf o lwybrau sydd wedi\u2019u mapio ac mewn cyflwr da hyd yn oed yn atal mynediad i bobl anabl.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy\u2019n ysu am gael mynd ar deithiau cylchol hygyrch hir y gallaf eu cwblhau ar fy mhen fy hun. Breuddwyd yn unig yw cael crwydro ar fy mhen fy hun oddi ar y llwybr arferol os nad yw\u2019r llwybr arferol hyd yn oed yn hygyrch, ac ni allaf gychwyn ar daith ar fy mhen fy hun rhag ofn y bydd angen i rywun fy nghodi neu fy ngwthio pan fydd y rhwystrau yn ormod i\u2019m cadair olwyn.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae lleoedd yng Nghymru yn 2024, y tu hwnt i barciau trefol, lle mae mynediad wedi cael ei ystyried i bawb, nid dim ond y bobl sy\u2019n cerdded yn rhwydd heb orfod meddwl am y peth. Er bod parciau trefol, megis Parc y Rhath yng Nghaerdydd lle mae mulfrain yn eistedd ar gerrig sy\u2019n codi o\u2019r d\u0175r, yn cyfarch yr wybren gyda\u2019u hadenydd, yn ffyrdd hanfodol a hygyrch o fwynhau byd natur, ni ddylent fod yn unig opsiwn i unrhyw un sy\u2019n cael ei atal rhag crwydro cefn gwlad.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae llwybrau hygyrch yn bodoli yng Nghymru, ond pethau prin ydynt. Ar Wlyptiroedd Casnewydd, mae llwybrau cymen yn ymlwybro heibio corsleoedd lle rydych yn gallu gweld cornicyllod a phiod m\u00f4r. Yng Nghoedwig Hafren, Powys, mae llwybr hygyrch yn dechrau \u00e2 ramp i lwybr pren sy\u2019n dilyn ystumiau\u2019r afon cyn ymuno \u00e2 llwybr tarmac drwy goedwig ffyniannus lle mae ffyngau yn tyfu drwy\u2019r mwsogl. Efallai y byddwch yn gweld cudyllod bach, sgrechod y coed neu weilch glas o\u2019r maes parcio lle mae lleoedd parcio i ddeiliaid bathodyn glas wedi\u2019u cadw ac wedi\u2019u marcio. Mae Beddgelert, Gwynedd yn croesawu ymwelwyr drwy bontydd hygyrch dros yr afon a llwybrau concrid. Mae toiled hygyrch ym mhob un o\u2019r lleoliadau hyn. Mae\u2019n hawdd i gynllunwyr nad ydynt yn anabl anghofio bod angen y rhain ond maent yr un mor hanfodol i fwynhau byd natur \u00e2\u2019n rhwydweithiau o lwybrau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hyd yn oed ar yr achlysur prin pan fo mynediad i bawb yn wirioneddol i bawb, mae rhwystrau o ran agweddau yn dal i fy anablu ym myd natur oherwydd cynrychioliaeth wael pobl anabl yn yr awyr agored. Nid yw cerddwyr yn disgwyl fy ngweld i na\u2019m cadair olwyn yn rhannu eu llwybrau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ni allaf gofio sut brofiad ydyw i symud drwy\u2019r awyr agored heb fod cerddwr yn dod i fyny ataf i wneud j\u00f4c am derfynau cyflymder, a gofyn pam rwy\u2019n defnyddio cadair olwyn neu ddweud wrtha i fod fy nghadair olwyn yn ddel. Nid yw\u2019r dieithryn wedi gweld fy nghorff anabl yn yr awyr agored o\u2019r blaen felly er gwaethaf y bwriadau da, mae\u2019n fy atgoffa na ddylwn fod yma. Rwy\u2019n gweld eisiau cydgerddwyr yn s\u00f4n am y tywydd neu dynnu sylw at aderyn: m\u00e2n sgwrsio a gedwir i\u2019r rhai sy\u2019n perthyn.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un o\u2019r rhesymau pam mae cerddwyr yn mynnu canmol fy nghadair olwyn yw nad yw\u2019n gadair olwyn \u00e2 llaw safonol. Rwy\u2019n defnyddio beic llaw pweredig, un gwyrdd llachar, sy\u2019n atodi i\u2019m cadair olwyn (heb grogiant) a thrwy hynny gallaf adael y tarmac neu\u2019r cerrig palmant. Mae\u2019r beicwyr \u2018difrifol\u2019 yn eu dillad lycra yn genfigennus a byddant yn gweiddi \u2018hoffi\u2019r olwynion\u2019 arnaf wrth i mi sio heibio ar 20mya. Talwyd amdano drwy ymgyrch crowdfunder, nid drwy Wasanaethau Cadeiriau Olwyn cwbl annigonol y GIG. Nid oess llawer o ddefnyddwyr cadair olwyn yn gymwys i gael cadeiriau olwyn gan y GIG ac mae\u2019r cadeiriau sy\u2019n cael eu hariannu i bobl ddethol yn rhai sylfaenol \u00e2 llaw, nid y rhai a fyddai\u2019n ei gwneud yn bosibl i ddefnyddwyr cadair olwyn grwydro yn yr awyr agored. Mae cadeiriau olwyn sy\u2019n gallu eu cludo y tu allan i ddinasoedd yn cael eu hystyried yn fraint yn hytrach nag yn hawl, er eu bod yn llawer mwy hanfodol i fod yn yr awyr agored na\u2019r esgidiau cywir neu g\u00f4t law. Hyd nes bydd cadeiriau olwyn sy\u2019n addas at bob math o dir a chyfarpar cynorthwyol ac addasol arall sydd eu hangen i sicrhau y gall pawb fwynhau cefn gwlad yn cael eu hariannu, ni fydd modd sicrhau cydraddoldeb yn yr awyr agored.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw cydraddoldeb yn yr awyr agored yn golygu gosod tarmac dros gefn gwlad. Mae mynediad teg gwirioneddol yn golygu sicrhau bod gan bawb yr adnoddau sydd eu hangen i fwynhau\u2019r awyr agored, nad yw ein seilwaith yn gwahaniaethu ar sail pwy y mae disgwyl iddynt fynnu mynediad, bod hawliau pobl a byd natur o\u2019n hamgylch yn cael eu parchu a\u2019u diogelu, bod pobl yn cael y cyfarpar sydd ei angen i fwynhau\u2019r awyr agored (boed hynny\u2019n esgidiau addas neu gadair olwyn), bod eu mynediad a\u2019u symudiadau yn cael eu mapio, eu bod yn cael eu cynrychioli, ac y gallant symud yn ddirwystr a heb darfu. Nid yw cydraddoldeb yn golygu datgan bod yr awyr agored yn agored i bawb heb nodi rhwystrau i fynediad. Mae hyrwyddo mynediad i bawb heb nodi\u2019n gyntaf pwy sydd eisoes ar goll o gefn gwlad a pham yn golygu hyrwyddo cyfle cyfartal Thatcher \u2013 datgan bod llwybr yn gyhoeddus heb ystyried all gyrraedd y llwybr a phwy sy\u2019n rhydd i symud ar hyd-ddo.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cefn gwlad lle teimlaf y bydd fy nghorff a\u2019i gadair olwyn yn perthyn a lle mae mynediad wedi\u2019i gynllunio i gyrff sy\u2019n symud fel fy un i yn teimlo mor annelwig, mor bell i ffwrdd, ond po leiaf o flaenoriaeth a roddwn ar fynediad i bawb, y mwyaf yw\u2019r perygl i iechyd ein planed. Mae angen i bawb, o bobl sydd wedi symud drwy gefn gwlad yn hanesyddol i\u2019r rhai y gwrthodir mynediad iddynt, symud drwy fyd natur, a bod yn dyst gydag empathi. Nid ydych yn diogelu\u2019r hyn nad ydych yn malio dim amdano; mae dadlau o blaid mynediad i bawb yn gyfystyr \u00e2 dadlau o blaid hawl byd natur i fodoli. Mae buddsoddi mewn mynediad yn gyfystyr \u00e2 buddsoddi yn y blaned.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pobl Cymru yn haeddu dyfodol lle mae llwybrau troed cyhoeddus yn wirioneddol gyhoeddus.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae <strong>Bethany Handley<\/strong> yn awdur ac yn actifydd anabledd.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-content-justification-center is-layout-flex wp-container-core-buttons-is-layout-20959078 wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/imagining-wales-2100\/#cyflwyno-r-traethodau\">Gweler holl draethodau &#8216;Cymru mewn 2100&#8217;<\/a><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Nid wy\u2019n gofyn am Ramp i fyny i Ben y Fan 2100 Mae\u2019n ddiwrnod heulog ond oer ym mis Hydref ac nid yw\u2019r tymor wedi troi eto. Mae\u2019r goedwig yn mynd heibio mewn fflach, clytwaith o liwiau melyngoch a gwyrdd fel pe bai pob clwstwr o goed yn perthyn i dymor gwahanol. Rwyf wrthi\u2019n astudio [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":4623,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"wp-custom-template-long-document","meta":{"_crdt_document":"","inline_featured_image":false,"footnotes":""},"class_list":["post-4626","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4626","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4626"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4626\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4896,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4626\/revisions\/4896"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4623"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4626"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}