{"id":4615,"date":"2024-07-01T08:00:00","date_gmt":"2024-07-01T07:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wales-a-beacon-of-regenerative-well-being\/"},"modified":"2024-07-02T13:35:03","modified_gmt":"2024-07-02T12:35:03","slug":"cymru-arweinydd-llesiant","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/cymru-arweinydd-llesiant\/","title":{"rendered":"Cymru: Arweinydd Llesiant Atgynhyrchiol"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-cover alignfull is-light\" style=\"min-height:556px;aspect-ratio:unset;\"><span aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-cover__background has-background-dim-0 has-background-dim\" style=\"background-color:#717670\"><\/span><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1433\" height=\"955\" class=\"wp-block-cover__image-background wp-image-4612\" alt=\"A low multi-arch stone bridge transverses a body of water. In the background are forested hills.\" src=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Bridge-and-river.avif\" data-object-fit=\"cover\" srcset=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Bridge-and-river.avif 1433w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Bridge-and-river-300x200.avif 300w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Bridge-and-river-1024x682.avif 1024w, https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/06\/Bridge-and-river-768x512.avif 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1433px) 100vw, 1433px\" \/><div class=\"wp-block-cover__inner-container is-layout-constrained wp-block-cover-is-layout-constrained\">\n<p class=\"has-text-align-center has-large-font-size wp-block-paragraph\"><\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group alignwide is-layout-flow wp-block-group-is-layout-flow block-visibility-hide-small-screen\" style=\"margin-top:var(--wp--preset--spacing--20);margin-bottom:var(--wp--preset--spacing--20);padding-top:var(--wp--preset--spacing--20);padding-right:var(--wp--preset--spacing--20);padding-bottom:var(--wp--preset--spacing--20);padding-left:var(--wp--preset--spacing--20)\">\n<div class=\"wp-block-group is-layout-constrained wp-container-core-group-is-layout-b1a602c5 wp-block-group-is-layout-constrained\" style=\"border-style:none;border-width:0px\">\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cymru: Arweinydd Llesiant Atgynhyrchiol<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em><em>Prif Araith Cynllunydd Gwasanaethau Cyhoeddus a roddwyd i Gyngor Llesiant y Byd ym mis Ebrill 2100, yn nodi 85 mlynedd ers pasio Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru) 2015<\/em><\/em><\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201c<em>Mae\u2019r bywyd da yn cael ei ysbrydoli gan gariad a\u2019i dywys gan wybodaeth <\/em>\u201d<br>Neges Betrand Russell i genedlaethau\u2019r dyfodol<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hoffwn ddiolch i aelodau Cyngor Llesiant y Byd am ei wahoddiad hael i\u2019r cyfarfod hwn, er fy mod i\u2019n teimlo pwysau\u2019r r\u00f4l hon ar fy ysgwyddau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Prin bod unrhyw debygrwydd rhwng y Gymru sydd ohoni a byd ein rhieni a\u2019u cyndeidiau. Yn \u00f4l yn 2015, roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol yn ymdebygu i arbrawf diddorol, sibrwd o feddwl yn y tymor hir a oedd yn cael ei golli ynghanol economeg fyrdymor. Roeddem wedi ein dal mewn cylch seithug \u2013 ansefydlogrwydd cyffredinol, aflonyddwch cymdeithasol, a dirywiad cynyddol i entropi biolegol a seicolegol. Roedd yn argoeli trychineb, a daeth trychineb yn ei sgil.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae polisi yn ddiflas i lawer o bobl, ond mae Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol yn teimlo fel trobwynt i mi, hyd yn oed 85 mlynedd wedi\u2019i phasio. I\u2019r rhai a oedd yn llunio polisi bryd hynny, rwy\u2019n dychmygu ei bod yn teimlo fel petai alaw fach wrthryfelgar yn cael ei chanu yng nghanol y twrw, sibrwd yn erbyn y storm.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Tua 2035, fel y gwyddom oll, aeth pethau\u2019n ddu ar y byd. Daeth tywydd eithaf yn beth cyffredin, dinistriwyd cnydau gan lifogydd a sychder, a chododd prisiau bwyd a biodanwydd yn aruthrol. Cymerodd poblogaeth fyd-eang llawn anobaith ran yn yr Orymdaith Fawr dros Hinsawdd, cri unedig dros newid a adleisiodd dros y blaned.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yma yng Nghymru, daeth ein Deddf, a fu unwaith mor newydd, a\u2019i harbrawf ecsentrig mewn meddwl yn gwch achub i ni. Drwy\u2019r fframwaith a sefydlodd, a ystyriwyd yn idealistig gan lawer, aethom ati\u2019n dawel bach i osod y sylfeini ar gyfer dyfodol cynaliadwy: ynni adnewyddadwy, rhoddgarwch entrepreneuraidd, a chreu cymunedau cydnerth a chadarn. Pan dorrodd y storm, roeddem ychydig o gamau o flaen pawb arall. Daeth ein rhagwelediad yn symbol o obaith, yn denu sylw\u2019r byd. Nid athrawiaeth leol yn unig ydyw; mae\u2019n sylfaen i fudiad byd-eang a arweinir gan neb llai na Chymru ei hun.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel cynllunydd gwasanaethau cyhoeddus di-nod yn y Weinyddiaeth Dylunio Atgynhyrchiol, rwy\u2019n hynod falch bod ein cenedl fach ni, a fu gynt yn enwog am rygbi, defaid a chanu, bellach yn sbardun i ymgais unedig i sicrhau llesiant a chynaliadwyedd byd-eang.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n bleser bod yma gyda\u2019n gilydd, yng nghyfarfod blynyddol Cyngor Llesiant y Byd yn y seiberfiosffer. O dan eich baner, mae gwledydd heddiw yn cydweithio ar bopeth o fentrau ynni adnewyddadwy i gynhyrchu bwyd ar raddfa fioranbarthol, a phleser i mi yw cynrychioli Cymru heddiw. Gyda llaw, ac fel y bydd aelodau\u2019r Cyngor yn hollol ymwybodol, rydym yn ddyledus i weledydd o Gymru am y modwl hwn \u2013 Betrand Russell a\u2019i syniad beiddgar o \u2018lywodraeth unedig y ddynolryw\u2019. Daeth Cymru, a\u2019i hanes hir o syniadaeth flaengar, a llwyddiant fframwaith Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol, wir yn gadarnle annhebygol!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd fy araith fel prif siaradwr i\u2019r Cyngor yn tynnu sylw at rai o\u2019r arferion gorau rydym wedi\u2019u datblygu yn ein llifau gwaith estynedig yn y Weinyddiaeth Dylunio Atgynhyrchiol yng Nghymru, yn y gobaith y gallwn barhau \u00e2\u2019n r\u00f4l o lunio ffyrdd newydd a gwell o weithio gyda\u2019n gilydd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yr arfer cyntaf, a mwyaf hanfodol o bosibl, yw\u2019r Gwasanaeth Sylfaenol Cyffredinol. Gan gydnabod cyfyngiadau incwm sylfaenol cyffredinol traddodiadol, mae Cymru wedi cyflwyno Gwasanaeth Sylfaenol Cyffredinol. Mae hwn yn mynd y tu hwnt i sicrwydd incwm, gan roi mynediad i wasanaethau hanfodol fel d\u0175r gl\u00e2n, bwyd a gynhyrchir yn lleol, ynni adnewyddadwy, a seiberfiosffer amledd uchel. Mae hyn yn cael gwared ar anghenion sylfaenol fel rhwystr i dwf personol ac yn rhoi cyfle i bawb ganolbwyntio ar eu hoff bethau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gan bob trigolyn, a\u2019i anghenion sylfaenol wedi\u2019u diwallu, y rhyddid i archwilio eu potensial creadigol. Gall pawb ymgymryd \u00e2 phrosiectau artistig, gwirfoddoli yn eu cymunedau, neu ddysgu sgiliau newydd. Mae\u2019r Gwasanaeth Sylfaenol Cyffredinol yn grymuso unigolion i gyfrannu\u2019n ystyrlon at gymdeithas a chreu bywydau llawn pwrpas a boddhad.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un pwynt allweddol arall o ran y ffordd rydym yn gweithredu yw Llywodraethu Bioranbarthol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw map Cymru heddiw yn gasgliad o siroedd na chodau post mwyach. Mae\u2019r llinellau mympwyol a dynnwyd er cyfleustra weinyddol wedi diflannu. Yn lle hynny, mae\u2019r wlad yn glytwaith o Gynefinoedd \u2013 bioranbarthau bywiog \u2013 endidau hunanlywodraethol ac iddynt ffiniau naturiol fel cefnau deuddwr, bryniau, a pharthau ecolegol. Mae\u2019r rhanbarthau hyn, a lywir gan yr ecosystemau unigryw y maent yn eu cwmpasu, yn grymuso cymunedau i reoli eu hadnoddau a llunio atebion lleol i heriau\u2019r hinsawdd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallai bioranbarth arfordirol flaenoriaethu harneisio ynni llanw ac ynni\u2019r gwynt, ond gallai rhanbarth mynyddig ddatblygu atebion trydan d\u0175r arloesol a chanolbwyntio ar arferion coedwigaeth gynaliadwy. Mae\u2019r broses gwneud penderfyniadau leol hon yn meithrin dealltwriaeth ddofn o\u2019r amgylchedd lleol ac yn hyrwyddo arferion rheoli adnoddau yn gyfrifol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dros y degawdau diwethaf, mae Cymru hefyd wedi gweld ei seilwaith yn cael ei ailddylunio\u2019n radical. Nid \u00f4l-ystyriaeth yw trafnidiaeth gyhoeddus mwyach. Mae gan Gymru rwydwaith o lonydd glas \u2013 llwybrau penodol i gerddwyr, beicwyr, eco-bodiau a cherbydau trydan sy\u2019n cysylltu bioranbarthau. Rhai piesodrydan ydynt \u2013 sy\u2019n golygu eu bod yn cynaeafu ynni o bwysau parhaus traffig. Mae deunyddiau a beiriannwyd yn benodol sydd wedi cael eu gosod yn arwyneb y ffordd yn troi pwysau a symudiad traffig yn drydan. Mae ffyrdd segur wedi cael eu hailbwrpasu\u2019n ffermydd solar, sy\u2019n ffynonellau o ynni ac yn goridorau gwyrdd ar yr un pryd. Strwythurau byw yw adeiladau cyhoeddus, sy\u2019n integreiddio gerddi fertigol a systemau cynaeafu d\u0175r glaw er mwyn dyfrhau gerddi ac ail-lenwi dyfrhaenau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Achosodd codiad yn lefel y m\u00f4r gryn ddifrod yn y gorffennol gan orfodi llawer o gymunedau i symud i ardaloedd mewndirol. Er mwyn gwrthsefyll hyn, rydym wedi adeiladu morfuriau \u2013 ecosystemau wedi\u2019u peiriannu o blanhigion sy\u2019n gallu gwrthsefyll halen a cherrig wedi\u2019u gosod yn strategol i efelychu morliniau naturiol, sy\u2019n amsugno ynni tonnau ac yn cynnig cynefin i fywyd morol. Mae\u2019r morfuriau byw hyn yn helpu i ddod \u00e2 ni yn agosach i\u2019r m\u00f4r unwaith eto ac adfywio bywyd dyfrol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn olaf, mae \u2018rhoddwyr-entrepreneuriaid\u2019 yn allweddol i\u2019n ffordd o fyw yn y We-conomi.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym wedi dysgu nad oes modd datrys unrhyw broblemau ecolegol na systemig drwy fodel economaidd sy\u2019n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion unigol heb gyfeirio at yr ecosystem y mae\u2019n rhan ohoni. Mae prynwriaeth o\u2019r diwedd wedi datblygu\u2019n economi rhannu cydweithredol gadarn. Mae llyfrgelloedd adnoddau cymunedol yn disodli\u2019r angen am berchnogaeth unigol, ac mae canolfannau gweithgynhyrchu ar alwad yn caniat\u00e1u cynhyrchu nwyddau hanfodol ar alwad, gan leihau gwastraff ac anghenion cludiant i\u2019r eithaf.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae rhwydweithiau bargeinio a chyfnewid yn ffynnu bellach, sy\u2019n meithrin ymdeimlad o ryngddibyniaeth o fewn a rhwng eco-glystyrau. Rydym yn cefnogi ein rhwydwaith o roddwyr-entrepreneuriaid wrth iddynt ddatblygu\u2019r iteriad nesaf o Weithgarwch Atomaidd Fanwl sy\u2019n trin atomau unigol i greu gwrthrychau ar lefel foleciwlaidd. Gallai ddileu gwastraff a chreu deunyddiau cryf, hyblyg a dargludol iawn. Dychmygwch argraffu dillad pwrpasol sy\u2019n addasu\u2019n berffaith i dymheredd eich corff neu adeiladau sy\u2019n gallu atgyweirio eu hunain: mae\u2019r datblygiadau technolegol hyn bellach o fewn cyrraedd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth gwrs, mae\u2019r frwydr dros ddyfodol cynaliadwy\u2019r blaned yn parhau. Mae heriau newydd o ran yr hinsawdd, tarfu ecolegol nas rhagwelwyd, a\u2019u goblygiadau i gymdeithas yn anochel. Rydym yn arloesi ac yn addasu o hyd. Mae fy nh\u00eem a minnau yn datblygu Arsyllfa Risgiau\u2019r Dyfodol sy\u2019n defnyddio dadansoddiad gAIA a data i adnabod bygythiadau posibl a datblygu cynlluniau wrth gefn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dim ond y llynedd, gwnaeth llifogydd sydyn ddifrod mawr i rannau o fioranbarth Ystwyth, gan ddadleoli teuluoedd ac achosi cryn ddifrod i seilwaith. Rydym yn gweithio i wella systemau rhagweld llifogydd a datblygu datrysiadau arloesol fel cysgodfannau hunanosodadwy a deunyddiau adeiladu sy\u2019n gwrthsefyll llifogydd. Hefyd, mae llywodraethu bioranbarthol yn golygu bod modd addasu\u2019n lleol. Mae bioranbarth Ystwyth bellach yn treialu rhaglen sy\u2019n adfer gwlyptiroedd ac sy\u2019n integreiddio gorlifdiroedd yn eu tirwedd, gyda\u2019r nod o efelychu gallu naturiol ecosystemau cynddiwydiannol i gadw d\u0175r.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ymhlith y rhai a ddadleolwyd roedd fy ffrind Dafydd; artist ifanc disglair y dinistriwyd ei stiwdio\u2019n gyfan gwbl. Mae Dafydd yn gerflunydd sy\u2019n enwog am ei waith syfrdanol sy\u2019n cael ei grefftio o bren lleol, sydd bellach yn mynd i gael ei reoleiddio\u2019n llym. Mae mewn cyfyng-gyngor. Mae\u2019n credu\u2019n gryf yn y ffordd y mae\u2019r bioranbarth yn gweithredu a phwysigrwydd cyfrifoldeb amgylcheddol. Ond eto, mae\u2019n ofni y bydd y cyfyngiadau ar bren yn llesteirio ei greadigrwydd ac yn ei orfodi i gefnu ar yr iaith artistig y mae wedi\u2019i meithrin dros flynyddoedd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae fy merch, Eira, yn wynebu problem arall. Mae newydd raddio ac mae\u2019n cael trafferth dod o hyd i lwybr gyrfa boddhaus mewn byd lle mae llawer o\u2019r swyddi wedi\u2019u hawtomeiddio ac mae ganddi hawl i Wasanaeth Sylfaenol Cyffredinol. Mae awtomeiddio wedi rhyddhau pobl rhag tasgau diflas, ond mae hefyd wedi creu pryder yngl\u0177n \u00e2 sicrwydd cyflogaeth ac ymdeimlad o bwrpas. Rydym yn llunio rhaglenni llesiant personol sy\u2019n helpu dinasyddion i ddarganfod eu cryfderau a\u2019u hoffterau, a\u2019u cysylltu \u00e2 chyfleoedd ystyrlon i wirfoddoli a rhaglenni ailhyfforddi sy\u2019n canolbwyntio ar feysydd newydd fel bioefelychu ac amaethyddiaeth atgynhyrchiol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnaethom gyflawni llawer diolch i feddwl yn y tymor hir \u2013 llwyddwyd yn y pen draw i gyrraedd cyfraddau defnyddio cytbwys o ganlyniad i\u2019r gwahanol fesurau a roddwyd ar waith, gan osgoi diwrnod gorhedeg y Ddaear. Ni fyddai Eira yn credu straeon ei thad-cu a\u2019i mam-gu am safleoedd tirlenwi gorlawn a phlastigion untro. Erbyn hyn, mae popeth yn mynd drwy ail, trydydd, hyd yn oed degfed bywyd. Mae\u2019n treulio ei phrynhawniau yn gweithio ar hen ddronau yn y lle cymunedol i wneuthurwyr, gan eu hailbwrpasu\u2019n fonitorau amgylcheddol ar gyfer y bioranbarth lleol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u2018Mam-gu,\u2019 bydd hi\u2019n gofyn weithiau, yn crychu ei thalcen dan ganolbwyntio, \u2018Oedd pobl wir yn taflu pethau yn yr hen ddyddiau?\u2019 Mae fy nhad yn chwerthin am yr atgof o adlais pell. \u2018Oedden, cariad. Mae\u2019n ymddangos yn hurt erbyn hyn, ond yw e?\u2019<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Drwy gyflwyno\u2019r gwaith hwn i Gyngor Llesiant y Byd heddiw, rydym am gynnig y dylai\u2019r Arsyllfa ddod yn ymdrech fyd-eang. Drwy ymateb i\u2019r heriau hyn ac arloesi o hyd, gall Cymru gryfhau ei sefyllfa fel arweinydd yn y mudiad byd-eang ar gyfer dyfodol cynaliadwy a theg. Mae\u2019n daith y mae\u2019n rhaid i bob un ohonom ei gwneud gyda\u2019n gilydd, ac yn un lle mae cynllunwyr gwasanaethau fel minnau yn chwarae r\u00f4l hollbwysig i sicrhau llesiant nid yn unig i Gymru, ond i\u2019r cenedlaethau sydd i ddod. Diolch am eich sylw.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae <strong>Piotr Swiatek<\/strong> yn rheolwr prosiect yn PDR, y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Dylunio ac Ymchwil.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-small-font-size wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/unsplash.com\/photos\/concrete-bridge-near-mountain-Y4GZv6jrGN0\">Llun: Calum Blacoe<\/a> <\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-content-justification-center is-layout-flex wp-container-core-buttons-is-layout-20959078 wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/imagining-wales-2100\/#cyflwyno-r-traethodau\">Gweler holl draethodau &#8216;Cymru mewn 2100&#8217;<\/a><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group alignwide is-layout-flow wp-block-group-is-layout-flow\" style=\"margin-top:var(--wp--preset--spacing--20);margin-bottom:var(--wp--preset--spacing--20);padding-top:var(--wp--preset--spacing--20);padding-right:var(--wp--preset--spacing--20);padding-bottom:var(--wp--preset--spacing--20);padding-left:var(--wp--preset--spacing--20)\">\n<div class=\"wp-block-group is-layout-constrained wp-container-core-group-is-layout-a1727f98 wp-block-group-is-layout-constrained block-visibility-hide-large-screen block-visibility-hide-medium-screen\" style=\"border-style:none;border-width:0px\">\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cymru: Arweinydd Llesiant Atgynhyrchiol<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em><em>Prif Araith Cynllunydd Gwasanaethau Cyhoeddus a roddwyd i Gyngor Llesiant y Byd ym mis Ebrill 2100, yn nodi 85 mlynedd ers pasio Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru) 2015<\/em><\/em><\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201c<em>Mae\u2019r bywyd da yn cael ei ysbrydoli gan gariad a\u2019i dywys gan wybodaeth <\/em>\u201d<br>Neges Betrand Russell i genedlaethau\u2019r dyfodol<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hoffwn ddiolch i aelodau Cyngor Llesiant y Byd am ei wahoddiad hael i\u2019r cyfarfod hwn, er fy mod i\u2019n teimlo pwysau\u2019r r\u00f4l hon ar fy ysgwyddau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Prin bod unrhyw debygrwydd rhwng y Gymru sydd ohoni a byd ein rhieni a\u2019u cyndeidiau. Yn \u00f4l yn 2015, roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol yn ymdebygu i arbrawf diddorol, sibrwd o feddwl yn y tymor hir a oedd yn cael ei golli ynghanol economeg fyrdymor. Roeddem wedi ein dal mewn cylch seithug \u2013 ansefydlogrwydd cyffredinol, aflonyddwch cymdeithasol, a dirywiad cynyddol i entropi biolegol a seicolegol. Roedd yn argoeli trychineb, a daeth trychineb yn ei sgil.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae polisi yn ddiflas i lawer o bobl, ond mae Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol yn teimlo fel trobwynt i mi, hyd yn oed 85 mlynedd wedi\u2019i phasio. I\u2019r rhai a oedd yn llunio polisi bryd hynny, rwy\u2019n dychmygu ei bod yn teimlo fel petai alaw fach wrthryfelgar yn cael ei chanu yng nghanol y twrw, sibrwd yn erbyn y storm.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Tua 2035, fel y gwyddom oll, aeth pethau\u2019n ddu ar y byd. Daeth tywydd eithaf yn beth cyffredin, dinistriwyd cnydau gan lifogydd a sychder, a chododd prisiau bwyd a biodanwydd yn aruthrol. Cymerodd poblogaeth fyd-eang llawn anobaith ran yn yr Orymdaith Fawr dros Hinsawdd, cri unedig dros newid a adleisiodd dros y blaned.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yma yng Nghymru, daeth ein Deddf, a fu unwaith mor newydd, a\u2019i harbrawf ecsentrig mewn meddwl yn gwch achub i ni. Drwy\u2019r fframwaith a sefydlodd, a ystyriwyd yn idealistig gan lawer, aethom ati\u2019n dawel bach i osod y sylfeini ar gyfer dyfodol cynaliadwy: ynni adnewyddadwy, rhoddgarwch entrepreneuraidd, a chreu cymunedau cydnerth a chadarn. Pan dorrodd y storm, roeddem ychydig o gamau o flaen pawb arall. Daeth ein rhagwelediad yn symbol o obaith, yn denu sylw\u2019r byd. Nid athrawiaeth leol yn unig ydyw; mae\u2019n sylfaen i fudiad byd-eang a arweinir gan neb llai na Chymru ei hun.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel cynllunydd gwasanaethau cyhoeddus di-nod yn y Weinyddiaeth Dylunio Atgynhyrchiol, rwy\u2019n hynod falch bod ein cenedl fach ni, a fu gynt yn enwog am rygbi, defaid a chanu, bellach yn sbardun i ymgais unedig i sicrhau llesiant a chynaliadwyedd byd-eang.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n bleser bod yma gyda\u2019n gilydd, yng nghyfarfod blynyddol Cyngor Llesiant y Byd yn y seiberfiosffer. O dan eich baner, mae gwledydd heddiw yn cydweithio ar bopeth o fentrau ynni adnewyddadwy i gynhyrchu bwyd ar raddfa fioranbarthol, a phleser i mi yw cynrychioli Cymru heddiw. Gyda llaw, ac fel y bydd aelodau\u2019r Cyngor yn hollol ymwybodol, rydym yn ddyledus i weledydd o Gymru am y modwl hwn \u2013 Betrand Russell a\u2019i syniad beiddgar o \u2018lywodraeth unedig y ddynolryw\u2019. Daeth Cymru, a\u2019i hanes hir o syniadaeth flaengar, a llwyddiant fframwaith Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol, wir yn gadarnle annhebygol!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd fy araith fel prif siaradwr i\u2019r Cyngor yn tynnu sylw at rai o\u2019r arferion gorau rydym wedi\u2019u datblygu yn ein llifau gwaith estynedig yn y Weinyddiaeth Dylunio Atgynhyrchiol yng Nghymru, yn y gobaith y gallwn barhau \u00e2\u2019n r\u00f4l o lunio ffyrdd newydd a gwell o weithio gyda\u2019n gilydd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yr arfer cyntaf, a mwyaf hanfodol o bosibl, yw\u2019r Gwasanaeth Sylfaenol Cyffredinol. Gan gydnabod cyfyngiadau incwm sylfaenol cyffredinol traddodiadol, mae Cymru wedi cyflwyno Gwasanaeth Sylfaenol Cyffredinol. Mae hwn yn mynd y tu hwnt i sicrwydd incwm, gan roi mynediad i wasanaethau hanfodol fel d\u0175r gl\u00e2n, bwyd a gynhyrchir yn lleol, ynni adnewyddadwy, a seiberfiosffer amledd uchel. Mae hyn yn cael gwared ar anghenion sylfaenol fel rhwystr i dwf personol ac yn rhoi cyfle i bawb ganolbwyntio ar eu hoff bethau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gan bob trigolyn, a\u2019i anghenion sylfaenol wedi\u2019u diwallu, y rhyddid i archwilio eu potensial creadigol. Gall pawb ymgymryd \u00e2 phrosiectau artistig, gwirfoddoli yn eu cymunedau, neu ddysgu sgiliau newydd. Mae\u2019r Gwasanaeth Sylfaenol Cyffredinol yn grymuso unigolion i gyfrannu\u2019n ystyrlon at gymdeithas a chreu bywydau llawn pwrpas a boddhad.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un pwynt allweddol arall o ran y ffordd rydym yn gweithredu yw Llywodraethu Bioranbarthol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw map Cymru heddiw yn gasgliad o siroedd na chodau post mwyach. Mae\u2019r llinellau mympwyol a dynnwyd er cyfleustra weinyddol wedi diflannu. Yn lle hynny, mae\u2019r wlad yn glytwaith o Gynefinoedd \u2013 bioranbarthau bywiog \u2013 endidau hunanlywodraethol ac iddynt ffiniau naturiol fel cefnau deuddwr, bryniau, a pharthau ecolegol. Mae\u2019r rhanbarthau hyn, a lywir gan yr ecosystemau unigryw y maent yn eu cwmpasu, yn grymuso cymunedau i reoli eu hadnoddau a llunio atebion lleol i heriau\u2019r hinsawdd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallai bioranbarth arfordirol flaenoriaethu harneisio ynni llanw ac ynni\u2019r gwynt, ond gallai rhanbarth mynyddig ddatblygu atebion trydan d\u0175r arloesol a chanolbwyntio ar arferion coedwigaeth gynaliadwy. Mae\u2019r broses gwneud penderfyniadau leol hon yn meithrin dealltwriaeth ddofn o\u2019r amgylchedd lleol ac yn hyrwyddo arferion rheoli adnoddau yn gyfrifol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dros y degawdau diwethaf, mae Cymru hefyd wedi gweld ei seilwaith yn cael ei ailddylunio\u2019n radical. Nid \u00f4l-ystyriaeth yw trafnidiaeth gyhoeddus mwyach. Mae gan Gymru rwydwaith o lonydd glas \u2013 llwybrau penodol i gerddwyr, beicwyr, eco-bodiau a cherbydau trydan sy\u2019n cysylltu bioranbarthau. Rhai piesodrydan ydynt \u2013 sy\u2019n golygu eu bod yn cynaeafu ynni o bwysau parhaus traffig. Mae deunyddiau a beiriannwyd yn benodol sydd wedi cael eu gosod yn arwyneb y ffordd yn troi pwysau a symudiad traffig yn drydan. Mae ffyrdd segur wedi cael eu hailbwrpasu\u2019n ffermydd solar, sy\u2019n ffynonellau o ynni ac yn goridorau gwyrdd ar yr un pryd. Strwythurau byw yw adeiladau cyhoeddus, sy\u2019n integreiddio gerddi fertigol a systemau cynaeafu d\u0175r glaw er mwyn dyfrhau gerddi ac ail-lenwi dyfrhaenau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Achosodd codiad yn lefel y m\u00f4r gryn ddifrod yn y gorffennol gan orfodi llawer o gymunedau i symud i ardaloedd mewndirol. Er mwyn gwrthsefyll hyn, rydym wedi adeiladu morfuriau \u2013 ecosystemau wedi\u2019u peiriannu o blanhigion sy\u2019n gallu gwrthsefyll halen a cherrig wedi\u2019u gosod yn strategol i efelychu morliniau naturiol, sy\u2019n amsugno ynni tonnau ac yn cynnig cynefin i fywyd morol. Mae\u2019r morfuriau byw hyn yn helpu i ddod \u00e2 ni yn agosach i\u2019r m\u00f4r unwaith eto ac adfywio bywyd dyfrol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn olaf, mae \u2018rhoddwyr-entrepreneuriaid\u2019 yn allweddol i\u2019n ffordd o fyw yn y We-conomi.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym wedi dysgu nad oes modd datrys unrhyw broblemau ecolegol na systemig drwy fodel economaidd sy\u2019n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion unigol heb gyfeirio at yr ecosystem y mae\u2019n rhan ohoni. Mae prynwriaeth o\u2019r diwedd wedi datblygu\u2019n economi rhannu cydweithredol gadarn. Mae llyfrgelloedd adnoddau cymunedol yn disodli\u2019r angen am berchnogaeth unigol, ac mae canolfannau gweithgynhyrchu ar alwad yn caniat\u00e1u cynhyrchu nwyddau hanfodol ar alwad, gan leihau gwastraff ac anghenion cludiant i\u2019r eithaf.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae rhwydweithiau bargeinio a chyfnewid yn ffynnu bellach, sy\u2019n meithrin ymdeimlad o ryngddibyniaeth o fewn a rhwng eco-glystyrau. Rydym yn cefnogi ein rhwydwaith o roddwyr-entrepreneuriaid wrth iddynt ddatblygu\u2019r iteriad nesaf o Weithgarwch Atomaidd Fanwl sy\u2019n trin atomau unigol i greu gwrthrychau ar lefel foleciwlaidd. Gallai ddileu gwastraff a chreu deunyddiau cryf, hyblyg a dargludol iawn. Dychmygwch argraffu dillad pwrpasol sy\u2019n addasu\u2019n berffaith i dymheredd eich corff neu adeiladau sy\u2019n gallu atgyweirio eu hunain: mae\u2019r datblygiadau technolegol hyn bellach o fewn cyrraedd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth gwrs, mae\u2019r frwydr dros ddyfodol cynaliadwy\u2019r blaned yn parhau. Mae heriau newydd o ran yr hinsawdd, tarfu ecolegol nas rhagwelwyd, a\u2019u goblygiadau i gymdeithas yn anochel. Rydym yn arloesi ac yn addasu o hyd. Mae fy nh\u00eem a minnau yn datblygu Arsyllfa Risgiau\u2019r Dyfodol sy\u2019n defnyddio dadansoddiad gAIA a data i adnabod bygythiadau posibl a datblygu cynlluniau wrth gefn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dim ond y llynedd, gwnaeth llifogydd sydyn ddifrod mawr i rannau o fioranbarth Ystwyth, gan ddadleoli teuluoedd ac achosi cryn ddifrod i seilwaith. Rydym yn gweithio i wella systemau rhagweld llifogydd a datblygu datrysiadau arloesol fel cysgodfannau hunanosodadwy a deunyddiau adeiladu sy\u2019n gwrthsefyll llifogydd. Hefyd, mae llywodraethu bioranbarthol yn golygu bod modd addasu\u2019n lleol. Mae bioranbarth Ystwyth bellach yn treialu rhaglen sy\u2019n adfer gwlyptiroedd ac sy\u2019n integreiddio gorlifdiroedd yn eu tirwedd, gyda\u2019r nod o efelychu gallu naturiol ecosystemau cynddiwydiannol i gadw d\u0175r.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ymhlith y rhai a ddadleolwyd roedd fy ffrind Dafydd; artist ifanc disglair y dinistriwyd ei stiwdio\u2019n gyfan gwbl. Mae Dafydd yn gerflunydd sy\u2019n enwog am ei waith syfrdanol sy\u2019n cael ei grefftio o bren lleol, sydd bellach yn mynd i gael ei reoleiddio\u2019n llym. Mae mewn cyfyng-gyngor. Mae\u2019n credu\u2019n gryf yn y ffordd y mae\u2019r bioranbarth yn gweithredu a phwysigrwydd cyfrifoldeb amgylcheddol. Ond eto, mae\u2019n ofni y bydd y cyfyngiadau ar bren yn llesteirio ei greadigrwydd ac yn ei orfodi i gefnu ar yr iaith artistig y mae wedi\u2019i meithrin dros flynyddoedd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae fy merch, Eira, yn wynebu problem arall. Mae newydd raddio ac mae\u2019n cael trafferth dod o hyd i lwybr gyrfa boddhaus mewn byd lle mae llawer o\u2019r swyddi wedi\u2019u hawtomeiddio ac mae ganddi hawl i Wasanaeth Sylfaenol Cyffredinol. Mae awtomeiddio wedi rhyddhau pobl rhag tasgau diflas, ond mae hefyd wedi creu pryder yngl\u0177n \u00e2 sicrwydd cyflogaeth ac ymdeimlad o bwrpas. Rydym yn llunio rhaglenni llesiant personol sy\u2019n helpu dinasyddion i ddarganfod eu cryfderau a\u2019u hoffterau, a\u2019u cysylltu \u00e2 chyfleoedd ystyrlon i wirfoddoli a rhaglenni ailhyfforddi sy\u2019n canolbwyntio ar feysydd newydd fel bioefelychu ac amaethyddiaeth atgynhyrchiol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnaethom gyflawni llawer diolch i feddwl yn y tymor hir \u2013 llwyddwyd yn y pen draw i gyrraedd cyfraddau defnyddio cytbwys o ganlyniad i\u2019r gwahanol fesurau a roddwyd ar waith, gan osgoi diwrnod gorhedeg y Ddaear. Ni fyddai Eira yn credu straeon ei thad-cu a\u2019i mam-gu am safleoedd tirlenwi gorlawn a phlastigion untro. Erbyn hyn, mae popeth yn mynd drwy ail, trydydd, hyd yn oed degfed bywyd. Mae\u2019n treulio ei phrynhawniau yn gweithio ar hen ddronau yn y lle cymunedol i wneuthurwyr, gan eu hailbwrpasu\u2019n fonitorau amgylcheddol ar gyfer y bioranbarth lleol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u2018Mam-gu,\u2019 bydd hi\u2019n gofyn weithiau, yn crychu ei thalcen dan ganolbwyntio, \u2018Oedd pobl wir yn taflu pethau yn yr hen ddyddiau?\u2019 Mae fy nhad yn chwerthin am yr atgof o adlais pell. \u2018Oedden, cariad. Mae\u2019n ymddangos yn hurt erbyn hyn, ond yw e?\u2019<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Drwy gyflwyno\u2019r gwaith hwn i Gyngor Llesiant y Byd heddiw, rydym am gynnig y dylai\u2019r Arsyllfa ddod yn ymdrech fyd-eang. Drwy ymateb i\u2019r heriau hyn ac arloesi o hyd, gall Cymru gryfhau ei sefyllfa fel arweinydd yn y mudiad byd-eang ar gyfer dyfodol cynaliadwy a theg. Mae\u2019n daith y mae\u2019n rhaid i bob un ohonom ei gwneud gyda\u2019n gilydd, ac yn un lle mae cynllunwyr gwasanaethau fel minnau yn chwarae r\u00f4l hollbwysig i sicrhau llesiant nid yn unig i Gymru, ond i\u2019r cenedlaethau sydd i ddod. Diolch am eich sylw.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae <strong>Piotr Swiatek<\/strong> yn rheolwr prosiect yn PDR, y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Dylunio ac Ymchwil.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-small-font-size wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/unsplash.com\/photos\/concrete-bridge-near-mountain-Y4GZv6jrGN0\">Llun: Calum Blacoe<\/a> <\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-content-justification-center is-layout-flex wp-container-core-buttons-is-layout-20959078 wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\" href=\"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/imagining-wales-2100\/#cyflwyno-r-traethodau\">Gweler holl draethodau &#8216;Cymru mewn 2100&#8217;<\/a><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cymru: Arweinydd Llesiant Atgynhyrchiol Prif Araith Cynllunydd Gwasanaethau Cyhoeddus a roddwyd i Gyngor Llesiant y Byd ym mis Ebrill 2100, yn nodi 85 mlynedd ers pasio Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru) 2015 \u201cMae\u2019r bywyd da yn cael ei ysbrydoli gan gariad a\u2019i dywys gan wybodaeth \u201dNeges Betrand Russell i genedlaethau\u2019r dyfodol Hoffwn ddiolch i aelodau [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":4613,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"wp-custom-template-long-document","meta":{"_crdt_document":"","inline_featured_image":false,"footnotes":""},"class_list":["post-4615","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4615","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4615"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4615\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4892,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4615\/revisions\/4892"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4613"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/nationalinfrastructurecommission.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4615"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}