Ffrwd Waith 4 – Cynllunio Defnydd Tir
Pwrpas y ffrwd waith hon yw mesur problem llifogydd a chynllunio defnydd tir ac asesu agweddau yn y sector tuag at gydsynio datblygiadau newydd ar dir a nodwyd fel gorlifdir. Bydd y ffrwd waith hon hefyd yn edrych ar yr angen i fonitro data cydsyniadau ac yn argymell ffordd ymlaen ar y mater hwn.
Mae’r negeseuon ymgysylltu allweddol ar gyfer y ffrwd waith hon wedi’u hamlinellu mewn 4 cwestiwn:
- Faint o ddatblygiad sydd wedi digwydd yn hanesyddol yn y gorlifdir?
- A yw datblygiad mewn ardaloedd perygl o lifogydd yn rhoi baich ychwanegol ar bwrs y cyhoedd?
- Sut allwn ni fonitro caniatâd datblygu mewn ardaloedd perygl o lifogydd yn well?
- Beth yw agweddau’r cyhoedd tuag at ddatblygu mewn ardaloedd perygl o lifogydd?
Mae JBA Consulting yn ymgymryd â’r gwaith hwn ar ran y Comisiwn. Os hoffech wybod mwy am hyn, cysylltwch â Faye Tomalin ar Faye.Tomalin@jbaconsulting.com.