Daw Helen Howells o fferm deuluol yng Ngheredigion ac mae’n weithgar iawn yn ei chymuned wledig. Hi yw sylfaenydd Hwylus Cyf, cwmni ymgynghori dwyieithog sy’n cynnig gwasanaethau ymchwil, hwyluso a datblygu busnes proffesiynol i’r sector gwledig.

Mae ei gwaith fel ymgynghorydd yn adeiladu ar ddeng mlynedd o brofiad yn y sector datblygu cynaliadwy, gan weithio ar lefel strategol gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Mae Helen yn Gyfarwyddwr Anweithredol Hybu Cig Cymru, y corff sy’n gyfrifol am hyrwyddo brandiau eiconig Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.