Dr David Clubb (Fe/e)
Mae David yn Ffisegydd Siartredig ac yn Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Sifil gydag ugain mlynedd o brofiad proffesiynol mewn sectorau gan gynnwys ynni adnewyddadwy, strategaeth ddigidol, ac wrth weithredu Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae ei brofiad Bwrdd yn cynnwys nifer o rolau mewn Byrddau a phwyllgorau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.
Mae’n siaradwr Cymraeg sy’n byw yng Nghaerdydd.

Cofrestr buddiannau
| Categori | Datganiad |
|---|---|
| Swyddi cyfarwyddwyr | Cymorth Clubb Cyf, ymgynghoriaeth cynaliadwyedd. Mae’n cael incwm o nawdd gwefan Byrddau Cymru gan GatenbySanderson. |
| Cyflogaeth am dâl | Mae’n Bennaeth Gweithredu Hinsawdd ym Mhrifysgol Met Caerdydd |
| Teulu | Mae ei briod yn gweithio i’r GIG |
| Anrhegion, lletygarwch ac ati | Dim |
| Tir ac eiddo | Dim |
| Cyrff sy’n derbyn cyllid LlC | Dim |
| Aelod o cymdeithasau | Cymrawd o Sefydliad Materion Cymreig |
| Datganiadau eraill | Dim |